Gwaredu’r Gor-Gyflym

Sawl hysbyseb wyt ti wedi gweld ar-lein heddiw? A sawl dylanwadwr wyt ti wedi gweld yn hyrwyddo cynnyrch “anhygoel”, gyda phris “anghredadwy” i gyd-fynd?

Mae hyrwyddo cynnyrch ar-lein yn fusnes mawr bellach, gyda dylanwadwyr â miliynau o ddilynwyr yn gwneud bywoliaeth o greu cynnwys a hyd yn oed meicro-ddylanwadwyr (sef dylanwadwyr gyda rhwng deg mil a chan mil o ddilynwyr) yn gwneud swm bach twt. Bellach, dyma sut mae cwmnïau ffasiwn o bob cwr y blaned yn denu y rhan helaeth o’u cwsmeriaid, yn arbennig y cwmnïau mwyaf anfoesol. 

Dull bach dan din ond effeithiol ydi hyn. Effeithiol gan ei fod yn bwydo ar ein hagosatrwydd tuag at ddylanwadwyr a’r ffaith ein bod ni weithiau yn teimlo fel ein bod yn eu hadnabod cystal â’n ffrindiau ym mywyd go iawn. Dan din oherwydd does dim rhaid chwilota’n bell iawn i ddod o hyd i sgerbwd neu ddau yng nghist ddillad sawl cwmni ffasiwn enfawr. Cyfleus, felly, ydi defnyddio gwynebau cyfarwydd, cyfeillgar, gyda swm go lew o ddilynwyr sy’n ymddiried yn llwyr yn eu barn. Wedi’r cyfan, os wyt ti wedi bod yn dilyn rhywun ers oes pys, oes gen ti reswm i beidio ymddiried ynddynt?

Un wlad sydd yn y broses o roi stop ar y fath yma o hyrwyddo ydi Ffrainc, sydd wedi cyflwyno deddf sy’n dal dylanwadwyr i gyfrif pan maent yn hyrwyddo cynnyrch cwmnïau ffasiwn gor-gyflym er mwyn elw a hefyd anelu am tryloywder pan mae’n dod i effaith amgylcheddol ein dillad.

Mae’r term “ffasiwn gor-gyflym” yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cwmnïau sy’n mynd cam ymhellach i gymharu gyda chwmnïau ffasiwn cyflym arferol, yn creu niwed y tu hwnt i ddychymyg. Dyma gwmnïau sydd yn rhyddhau miloedd o gynnyrch newydd sbon bob wythnos, os nad yn ddyddiol. Does dim rhaid i mi eu henwi nhw. Rydych yn siŵr o fod wedi dod ar eu traws a chael eich temtio gan brisiau gor-resymol. Os yda chi’n aelod o rwydwaith poblogaidd ar y cyfryngau cymdeithasol, fyddwch chi hefyd yn gyfarwydd gyda chweryla am ddefnyddio’r fath gwmnïau, yr eitemau yn cael eu galw’n “safon wych” heb ystyriaeth i fodolaeth wirioneddol yr eitem.

Yn ogystal â chyfyngu hysbysebion gan gwmnïau ffasiwn gor-gyflym, mae’r Llywodraeth Ffrengig yn bwriadu gosod labeli arbennig yn nodi sgôr amgylcheddol ar ddillad mewn siopau, yn debyg i sut mae gan eitemau electroneg yn ein gwlad ni sgôr ynni er mwyn hysbysu’r prynwr o’i effaith amgylcheddol. Maent hefyd yn bwriadu codi tâl ychwanegol ar eitemau sydd yn cael ei werthu yn y wlad.

Wrth graidd hyn oll, yr hyn mae Ffrainc yn ei obeithio ydi y bydd llygru’r blaned yn fwy costus ac mae’n deg i ddweud eu bod ar flaen y gad ar y pwnc penodol yma. Er eu bod ond megis cychwyn ar eu taith o ddal y cwmnïau yma i gyfrif, os bydd y ddeddfwriaeth yma yn cael ei basio yna bydd yr amserlen yn un brys, a hynny i gyd-fynd gyda’r argyfwng hinsawdd sydd yn ein gwynebu. Bydd tâl ychwanegol o €5 yr eitem a chyfyngiadau hysbysebu yn cael ei wireddu eleni, gyda’r orfodaeth labelu yn dod i rym yn 2026-2027 ac erbyn 2030 bydd tâl ychwanegol o €10 yr eitem yn cael rhoi ar eitemau sydd yn cael ei werthu yn y wlad.

Gan fod Ffrainc yn arwain ar y newid, mae’n rhaid i ni gadw llygaid barcud i weld yn union beth ydi wir effeithiau’r ddeddfwriaeth. Gyda chymaint o unigolion bellach yn ddylanwadwyr llawn amser, a fydd hyn yn effeithio ar eu bywoliaeth? Tybed a fydd hyn yn cael effaith bositif, yn dangos y ffordd tuag at hyrwyddo cynnyrch ac ymarferion cynaliadwy? A fydd y cyflawnwyr ffasiwn gor-gyflym yn darganfod ffordd o oroesi’r newid? Rhaid cofio, hefyd, mae’r dull o ffasiwn cyflym yn golygu bod miloedd o bobl yn cael eu hecsbloetio ac mae’n rhaid ystyried yr effeithiau ar eu bywoliaeth nhw ac mae’n rhaid i ni gefnogi sefydliadau sydd yn gwneud pob ymdrech i edrych ar eu holau. Oes, mae’n rhaid taclo llygru’r blaned gyda dillad, ond mae’n rhaid i ni geisio gwarchod bob un sydd wedi cael eu dal yn y gadwyn tywyll a throellog yma.

Dim Byd Newydd

Mae ‘na tipyn go lew o “cyntafs” sydd yn cael ei brofi gan y cenedlaethau ifanc. I’r millenials, ni oedd y cyntaf i brofi’r cyfryngau cymdeithasol – yr agweddau da a’r drwg, megis moch cwta’r arbrawf digidol rhyngwladol. Dyma genhedlaeth oedd wedi gweld esblygiad ffonau symudol, o’r Nokias undonog i’r ffonau fflip oedd shedan yn fwy blaengar, ymhell cyn dyfodiad y ffon clyfar. I’r rhai sydd yn perthyn i Gen Z, nhw yw’r genhedlaeth gyntaf i’w geni gyda ffonau clyfar yn eu hwynebau, eu rhieni wedi gwirioni gyda’r cyfle i ddogfennu a rhannu bob eiliad.

Rhwng y ddwy genhedlaeth yma, rydym yn profi rhywbeth newydd gyda’n gilydd sydd gan botensial i siapio dyfodol ffasiwn; y gallu i siopa ail law yn gyfan gwbl, heb angen ffasiwn cyflym cyfoes, yn hawdd ac yn hygyrch.

Does dim byd newydd mewn dillad ail law. Efallai y byddwch chi’n gyfarwydd gyda derbyn dillad “newydd” yn blant, wedi cael ei roddi gan aelod hŷn o’r teulu. O’n i wrth fy modd yn derbyn llond bag bin i edrych drwyddi, yn gwybod yn union pa ddilledyn o’n i’n chwilota amdani achos o’n i wedi ei llygadu am flynyddoedd. Fy hoff ddarn ail law yn blentyn oedd siaced wen gyda streipan goch ar hyd y fraich, o’r ysgwydd i’r arddwrn, a’r steil fel rhywbeth fysa chi’n gweld mewn ffilm chwaraeon Americanaidd. Erbyn iddi gyrraedd fi, roedd y siaced wedi cael ei gwisgo a’i charu gymaint nes doedd y sip ddim yn gweithio cystal ag yn mynd yn sownd bob tro, ond doedd hynny ddim o bwys – o’n i wedi gwirioni, a fues i’n gwisgo’r siaced honno ymhell wedi iddi fynd yn rhy fach i mi.

Byddi di’n siŵr o fod wedi mentro i mewn i siop elusen rhyw ben, neu hyd yn oed wedi rhoddi hen ddillad neu geiriach amrywiol i siop leol. Does dim dal beth fyddwch chi’n darganfod mewn siop elusen o un dydd i’w gilydd, sydd yn rhoi elfen gyffrous i’r profiad o dyrchu drwy’r raciau. Yn ogystal â chyffro personol am fargen dda, mae gan siopau elusen fuddion amgylcheddol a chymdeithasol. Yn ôl gwefan Zero Waste Week, mae siopau elusen yn chwarae rhan allweddol mewn lleihau allyriadau carbon deuocsid, a hynny drwy leihau allyriadau o oddeutu 3.7 miliwn tunnell y flwyddyn. Yn gymdeithasol, mae siopau elusen yn magu cymunedau dryw o wirfoddolwyr, yn cynnig profiad mân-werthu i’r ifanc. I’r rhai sydd wedi ymddeol, mae gwirfoddoli yn medru cynnig ffrindiau newydd a rhwydwaith cefnogol.

Does dim byd newydd, chwaith, mewn gwerthu hen ddillad. Am dro byd, mynd i’r car bŵt oedd y ffordd orau i wneud ychydig bach o elw a gwaredu ar ddillad sydd ddim yn cael eu gwisgo bellach. Er bod y car bŵt yn bodoli o hyd, mae aps ail law yn cynnig yr un syniad o gysur eich soffa.

Gydag oddeutu 16 miliwn o ddefnyddwyr yn y DU, mae Vinted ar flaen y gad nid yn unig ffasiwn ail law, ond popeth ail law! Mae’r ap yn galluogi defnyddwyr i werthu *bron* popeth, o hen lyfrau i offer crefft. Os fyddwch chi’n chwilio i brynu rhywbeth penodol, mae’n werth chwilio ar yr ap yma yn gyntaf – pwy â wyr faint o arian allwch arbed. Yn ddiweddar, prynais cwshin eistedd ôl-geni newydd sbon am bris anhygoel. Pan fo gen ti’r opsiwn i arbed arian a safio eitem rhag diweddu mewn safle tirlenwi (eitem fydd ond yn cael ei ddefnyddio am wythnos neu ddau, os hynny) neu prynu’n newydd am bris llawn, mae’r ateb yn glir.

Wrth gwrs, fel unrhyw declyn neu dechnoleg newydd, rhaid pwyllo. Hawdd iawn ydi cyffroi wrth weld gymaint o fargeinion ar gael i ti gydag un tap ar dy ffon a diweddu gyda llond y lle o ddillad dwyt ti ddim gwirioneddol eu hangen wedi’r cwbl. Does dim dadlau bod siopa ail law ac ar-lein yn cymryd ychydig bach o bractis (erthygl arall yw honno), ond does chwaith dim dadlau dros ffeithiau’r buddion. Yn ôl gwefan WRAP, mae prynu pâr o jîns ail lawr ar-lein, yn hytrach ‘na phrynu un newydd, yn gallu arbed dros 30kg o CO2e, a hynny’n gyfystyr i wneud 600 paned o de.

Cofiwch, dydi ail law ddim yn golygu “wedi cael ei wisgo” bob tro. Syndod ydi faint o ddillad newydd sbon, gyda’r labeli arnynt o hyd, sydd yn cael eu rhestru i’w werthu gyda disgrifiadau yn nodi eu bod wedi methu’r blwch dychwelyd yr eitem i’r siop wreiddiol. Heddiw, wrth chwilio am “ASOS Jeans” a thicio “New with tags” a hefyd nodi fy mod i ond am weld eitemau sydd yn fy maint i, mae dros 500 o eitemau yn cael eu harddangos yn syth gyda phrisiau yn amrywio o £2.50 i £9. Wrth dderbyn yr opsiwn o fachu bargen ac arbed gwneud 600 paned o dê, pam fyddai unrhyw un yn ei wrthod a dewis prynnu’n newydd?

Fydd ffasiwn ail law ac ar-lein yn newid llwybr ffasiwn cyflym yn gyfan gwbl? Amser a ddengys, ond mae’n siŵr o adael ei farc. Mae gan y cenedlaethau ifanc y gallu i siopa ail law yn gyfan gwbl, heb angen i droedio siopau ffasiwn cyflym. Eu penderfyniadau nhw fydd yn siapio dyfodol byd ffasiwn.

Fideo Fi

Dyma lun o fi’n edrych yn hollol absiliwtli crazy xoxo

Here is a picture of me looking absolutely crazy xoxo

Oeddwn i ar Fideo Fi ar S4C dros y Nadolig. Cool, de?!

Er fod y post ma chydig yn hwyr, a’r dolig wedi hen fynd bellach, oni just am neud post yn deud achos ges i gymaint o hwyl yn neud y fideos, a dwi’n gweithio ar mwy o flogs ar gyfer y rhaglen y funud hon!

Felly watch this #space, dilynwch fi on your typical social media platfformiau am y diweddariada diweddara. Achos dwi’n #ffab.

Tra!

Day 4 and 5 :)

Ddoe, es i am dro lyfli i South Stack, goleudu bychain yn Ynys Mon. Mae’r llun yma wedi cael ei dynnu o riw fath o edrychfan. Roedd hi’n noson berffaith gyda’r tywydd yn gret a’r olygfa yn un anhygoel!

Yesterday, I went for the most gorgeous walk ever to South Stack, a small light house on Anglesey. This picture was taken from some sort of viewing point. It was a perfect night, ideal weather and a fantastic view!

Hefyd, mae hi’n Ddiwrnod Cenedlaethol Ffrindia’ Gora’, felly dyma lun o fi efo’r ffrindia a’r chwiorydd gora yn y byd! 🙂

Also, it’s National Best Friends day, so here’s a pic of my with the best friends and sisters in the world! 🙂

Diwrnod 3 :)

Mae’n diwrnod 3 o fy ‘100 Happy Days’, a heddiw es i am drio hir iawn i lan y mor. Gyda’r tywydd perffaith a golygfa bendigedig, mae’n anodd credu mai yng Nghymru dwi’n byw!

It’s day 3 of my 100 Happy Days, and today I went for a long walk to the beach. With the perfect weather and a fantastic view, it’s hard to believe that this is Wales!

New shoooes!

Purchasing new shoes has to be the best feeling ever, ignoring the small pang of guilt when you realise how much you’ve spent.

I’ve wanted a pair of similar shoes for quite a while, and I finally plucked out my credit card to snap them up!

Dwi’n meddwl mai prynnu ‘sgidia newydd ydi’r teimlad gora’ ‘rioed, ar wahan i’r euogrwydd ar ol sylwi faint dwi ‘di gwario.

Dwi wedi bod isio ‘sgidia tebyg ers oesoedd, a dwi wedi cael par o’r diwadd!

image

These are from ASOS, but I’ve had to stick some shoe gel things in from Primark for added support. I bought them to wear with this dress, also from ASOS. This is just a quick selfie, but I’ll put proper pictures up soon! 🙂

Mae’r ‘sgidia yma o ASOS, ond roedd rhaid i mi roi rhyw fath o gel o Primark ynddyn nhw er mwyn cael well ffit. Prynnais i’r ‘sgidia i fynd efo’r ffrog yma, hefyd o ASOS. Dim on selfie sydyn ‘di hwn, ond sydd llunia’ gwell i fyny yn o fuan! 🙂


P.S. There’s still plenty of time to take part in my competition! CLICK HERE for more details!

P.S. Mae digon o amser i cymryd rhan yn y gystadleuaeth! CLICIWCH YMA am fwy o fanylion!

Helo! Enw fi ydi Cari, chwaer Llio, a dyma fy OOTD!

Hey! My name’s Cari, Llio’s sister, and here is my OOTD!

Dwi’n hoff iawn o’r siaced yma. Cefais hyd iddo mewn car boot sale ‘efo Mam!

Mae’r T-Shirt yn dod o F&F yn Tesco. Dwi’n hoff iawn o’r lliwiau pinc a piws. Dyma fy hoff liwiau!

Rhain yw fy hoff sandals o Sketchers. Prynnais i’r sandals yma ar fy ngwyliau yn York! Mae yna calonau bach aur ar yr ochr.

Ar ol gweld fi yn tynnu lluniau ar gyfer y blog, roedd fy chwaer fach Ela eisio ymuno hefyd! Dyma’r lluniau…

I love this denim jacket. I found it at a car boot sale with my Mum!

The T-shirt is from F&F at Tesco. I love the purple and pink colours. They’re my favourite colours!

These are my favourite sandals from Sketchers. I bought them when I was on holiday in York! There are small gold hearts on the side.

After seeing me taking pictures for this post, my little sister Ela wanted to join in too! Here are the pictures…