Awdur: llioangharad
Beth yw Vintage?
Hanes Pocedi
Beth yw Dyfodol Ffasiwn?
Beth ydi “Power Dressing”?
Y Siaced Lledr
Fi Mewn Tri – Efa Lois
Cipolwg i erthygl Fi Mewn Tri, sy’n cynnig mewnwelediad i wardrobs merchaid ffab Cymru.
Trends Gwanwyn 2022

Ar drothwy tymor newydd, daw don o drends i’r fei unwaith eto. Ond mewn byd sydd a gymaint o ddillad ynddi’n barod, efallai eich bod chi’n teimlo eich bod chi ddim isho prynu mwy er mwyn dilyn y trends diweddara’… Sydd yn hollol, hollol FFAB!
Dyda chi ddim angen troedio siopa stryd fawr y tymor yma. Mae trends leni yn hawdd eu cyflawni efo be ‘da chi efo’n barod neu drwy drochi’r siopau elusen lleol.

NIWTRALS A’R GÔT CAMEL
Dwi’n caru trend mewn lliwiau niwtral, achos ma nw’n tueddu cael eu gwisgo lot mwy. Efo lliwiau niwtral daw hyblygrwydd.
Un steil sydd wedi bod yn dawel-drendio ers ddegawdau ydi’r cot camel. Dwi ddim yn disgwl i’r cot camel fynd i nunlla am sawl blwyddyn eto, felly ewch draw i’ch siop elusen lleol i fuddsoddi mewn un o safon.

BAGIAU MAWR
Fydd y mamau yn ein plith, fel fi, yn adnabod gwerth bag mawr!
Yda chi’n cofio’r trend diweddar o’r “micro bags”? Wel, diolchwn i’r nefoedd… Daw dydd y bydd mwy y rhai mawr!
O be wela i, does dim steil o fag penodol yn cael ei ffafrio ar gyfer Gwanwyn 2022. Yn hytrach, mae’r pwyslais ar y maint. Mae hyn yn golygu does dim rhaid prynu bag newydd sbon, ond defnyddio’r bag mwyaf sydd gyna chi yn barod! Neu, os yda chi wir isho prynnu un newydd, mae siopa elusen bron a byrstio efo bagiau. Mae bob siop elusen dwi wedi bod ynddi wastad efo casgliad godidog o fagiau, rhai yn hen a hefyd rhai newydd sbon!

PLATFFORMS
Mae platfforms yn dychwelyd ‘leni, sy’n newyddion da i’r rhai oedd wedi buddsoddi mewn platfforms pan roedd y trend yma’n boblogaidd rhai blynyddoedd yn ôl. Mae hi’n hen bryd dod o hyd iddyn nhw o berfeddion eich wardrob a taflu cadach drostyn nhw!
Er fod platfforms yn trend sy’n cael ei hailgylchu, mae un steil penodol dwi heb weld o’r blaen… sef slipars platfform. Mae’r rhai dwi wedi weld yn brolio ffwr ffug mewn lliwiau daearol a rhaid i fi gyfadda, dwi wedi cael fy nhemtio… ond rhaid cofio mod i’n 5’7” ac os wisgau slipas platfforms ma na beryg i mi fethu fynd trw drysa heb hitio mhen…

LLIWIAU LLACHAR
Yn groes i’r casgliadau niwtral, mae lliwiau llachar a lliwiau neon yn barod i ddychwelyd i’n gwisgoedd. Er, peidiwch a mynd ati i wisgo fel tasa chi’n barod i fynd i’r rave lleol, achos ‘leni mae disgwyl i liwiau neon ddychwelyd mewn steiliau smart (blazers er enghraifft) a gwisgoedd paledau unlliw.
Mae’n anhebygol fod gyna chi blazer pinc neon yn eich wardrobs yn barod achos tydi’r steil dewr yma heb fod yn y rhagolygon trends ers oes pys, ond tybed allwch chi ddod o hyd i un mewn siop elusen? Roedd yr 80au yn enwog am ei liwiau llachar a’i power dressing, felly siawns fod digon i’w gael. Os yda chi’n dod o hyd i flazer, cofiwch fod modd tynnu’r shoulder pads allan i roi naws mwy 2022 iddi.

FFRINJ
Ar catwalks Gwanwyn Haf 2022, roedd lot o frindge i’w gweld ar amryw ddilledyn. Rhaid cofio fod y trend yma yn gyfarwydd ar y catwalks, ond tydi hi byth yn para riw lawar yn nhrends y stryd fawr.
Fodd bynnag, os yda chi’n hoff o’r esthetig yma, mae hi’n trend hawdd iawn i gyflawni eich hun efo tamaid o DIY! Dewch o hyd i hen ddilledyn, ac arbrofwch drwy torri stribedi o’r gwelod ac am ei fyny. Os rwbath, mae o’n weithgaredd bach i’ch diddanu ar ddiwrnod gwlyb!
Fi Mewn Tri – Mirain Iwerydd
Cipolwg i erthygl Fi Mewn Tri, sy’n cynnig mewnwelediad i wardrobs merchaid ffab Cymru.