Y Chwyldro Trwsio

Mae trwsio dillad yn weithred chwyldroadol – a dyma i chi pam.

Ffeithiau bywyd; maeโ€™r byd yn troi, maeโ€™r haul yn boeth, ac mae gormod o ddillad ar ein planed. Maeโ€™r effaith byd-eang oโ€™r ffaith ddiwethaf yn bellgyrhaeddol, ond yda chi erioed wedi poeni mai un oโ€™r effeithiau difrifol ydi ein bod niโ€™n colli ein sgiliau hynafol, cyntefig?

Gellir dilyn รดl gwnรฏo a chreu dillad yn รดl ymhell cyn dyfais y nodwydd metel, sydd yn gyfarwydd i ni heddiw, ac yn bendant ymhell cyn bod sรดn am y peiriant wnรฏo. Mae gwreiddiau gwnรฏo yn berchen iโ€™r cyfnod paleolithig, y canfyddiad yn ddiolch i ddarganfyddiad nodwyddau wedi ei gwneud o esgyrn anifeiliaid gyda chrwyn anifeiliaid gyda thyllau main wedi eu darganfod gerllaw yn awgrymu cychwyn dynolryw yn creu gwisgoedd iโ€™w hamddiffyn rhag elfennau natur. Dros y canrifoedd, maeโ€™r sgil o greu a thrwsio wedi cael ei basio ymlaen o genhedlaeth i genhedlaeth, a hynny er mwyn goroesi, ac mae technegau wedi datblygu wrth fynd yn ei flaen. Hynny yw, nes ein cenedlaethau ni.

Rhywle, rhwng chwyldro ffasiwn cyflym a rลตan, rydym wedi colliโ€™r sgil. Sgil sydd wedi bod wrth graidd ein bodolaeth, yn ein cadw niโ€™n ddiogel ac yn ein galluogi ni i oroesi mewn cynefinoedd cras ym mhob twll a chornel y byd. O ystyried bod dillad wedi bod yn rhan annatod oโ€™n bodolaeth fel anifeiliaid gweddol noeth, sut maeโ€™r grefft wediโ€™n gadael ni? Neu, yn hytrach, sut yda ni wedi caniatรกu ei golli?

Rhaid gwynebuโ€™r ffaith nad oes gan bawb yr amser i drwsio dillad. I gychwyn, maeโ€™n rhaid i ti ddysguโ€™r sgil, os nad wyt ti wedi bod ddigon ffodus i dderbyn rhywfaint o addysg gwnรฏoโ€™n blentyn, a hyd yn oed wedyn maeโ€™n cymryd oes i feistroโ€™r grefft o beidio gwneud twll yn waeth naโ€™r un gwreiddiol! Yna, rhaid i ti ddod o hyd i o leiaf ugain munud i eistedd i lawr gyda dy edafedd a dy nodwydd – a phwy, rhwng gwaith, coginio aโ€™r holl waith golchiโ€™r dillad di-dyllau eraill, sydd gan amser i wneud hynny?!

Maeโ€™n gwneud synnwyr, felly, pam ein bod wedi colliโ€™r sgil o greu a thrwsio dillad. Wediโ€™r cyfan, pam mynd iโ€™r ymdrech o drwsio twll mewn siwmper pan fo mynd ati i brynu un newydd sbon yn arbed gymaint o amser, yn enwedig pan fo siwmperi digon rhad iโ€™w prynu yn yr archfarchnad. Colliโ€™r sgil hynafol felly ydiโ€™r am gyfleustra.

Ledled y wlad, mae yna gylchoedd o grefftwyr syโ€™n cwrdd i ymarfer eu sgiliau. Cylchoedd gwau, crosho, gwnรฏo a chylchoedd trwsio ble mae unigolion yn dysgu sgiliau amrywiol iโ€™w gilydd. Maeโ€™r cylchoedd yma yn hybiau chwyldroadol, gan eu bod nhwโ€™n mynd yn gwbl groes iโ€™r graen. Yn hytrach โ€˜na mynd i brynu ffrog newydd ar gyfer parti priodas, maent yn mynd a hen ffrog, sydd wedi cael ei charu gymaint dros y blynyddoedd nes bod hoelion y cariad yn glir ar ffurf hem sydd wedi datod neu fotwm colledig, iโ€™r cylch er mwyn rhoi pennau at ei gilydd i adfer y ffrog a fu. Yn hytrach โ€˜na phrynu maneg newydd ar gyfer y misoedd gaeaf sydd yn siลตr o fod yn rhai garw eleni, maent yn eistedd i lawr i ddysgu sut i gauโ€™r tyllau a chreuwyd gan helyntion gaeaf llynedd.

Nid trwsio dillad ydiโ€™r unig grefft sydd yn prysur ddiflannu wrth law peiriannau, technoleg a chyfleustra. Maeโ€™r rhestr o grefftau sydd dan fygythiad o ddiflannu mewn cenhedlaeth neu ddau yn faith, ac yn cynnwys y grefft o greu esgidiau a hyd yn oed y grefft o greu blociau ar gyfer creu hetiau. Maeโ€™r rhain, wrth gwrs, yn grefftau arbenigol ble mae angen offer ac addysg benodol ar gyfer gwneud cyfiawnder aโ€™r grefft. Mae trwsio dillad, fodd bynnag, yn fwy hygyrch. Wedi arfu gyda nodwydd ac edau, gall unrhyw un fod yn rhan oโ€™r chwyldro yn erbyn ffasiwn cyflym a thechnoleg syโ€™n bygwth ein planed.

Felly, cer amdani. Os oes gen ti hosan sydd wedi gweld dyddiau gwell, yna maeโ€™n aros yn eiddgar amdanat ti a dy nodwydd. Does dim rhaid iโ€™r hosan gyntaf fod yn berffaith. I ddweud y gwir, does dim rhaid iโ€™r degfed hosan i ti drwsio fod yn berffaith. Wediโ€™r cyfan, does neb am eu gweld nhw… gosa gen ti dwll yn dy esgidiau (her iโ€™r crydd yw honno, cofia, nid esgus siopa). Cer รข dy dyllau aโ€™th problemau tecstilaidd i gylch trwsio. Bydd yn rhan oโ€™r chwyldro, a cher i drwsio dy sanau!

Gwareduโ€™r Gor-Gyflym

Sawl hysbyseb wyt ti wedi gweld ar-lein heddiw? A sawl dylanwadwr wyt ti wedi gweld yn hyrwyddo cynnyrch “anhygoel”, gyda phris “anghredadwy” i gyd-fynd?

Mae hyrwyddo cynnyrch ar-lein yn fusnes mawr bellach, gyda dylanwadwyr รข miliynau o ddilynwyr yn gwneud bywoliaeth o greu cynnwys a hyd yn oed meicro-ddylanwadwyr (sef dylanwadwyr gyda rhwng deg mil a chan mil o ddilynwyr) yn gwneud swm bach twt. Bellach, dyma sut mae cwmnรฏau ffasiwn o bob cwr y blaned yn denu y rhan helaeth o’u cwsmeriaid, yn arbennig y cwmnรฏau mwyaf anfoesol. 

Dull bach dan din ond effeithiol ydi hyn. Effeithiol gan ei fod yn bwydo ar ein hagosatrwydd tuag at ddylanwadwyr aโ€™r ffaith ein bod ni weithiau yn teimlo fel ein bod yn eu hadnabod cystal รขโ€™n ffrindiau ym mywyd go iawn. Dan din oherwydd does dim rhaid chwilota’n bell iawn i ddod o hyd i sgerbwd neu ddau yng nghist ddillad sawl cwmni ffasiwn enfawr. Cyfleus, felly, ydi defnyddio gwynebau cyfarwydd, cyfeillgar, gyda swm go lew o ddilynwyr sy’n ymddiried yn llwyr yn eu barn. Wedi’r cyfan, os wyt ti wedi bod yn dilyn rhywun ers oes pys, oes gen ti reswm i beidio ymddiried ynddynt?

Un wlad sydd yn y broses o roi stop ar y fath yma o hyrwyddo ydi Ffrainc, sydd wedi cyflwyno deddf sy’n dal dylanwadwyr i gyfrif pan maent yn hyrwyddo cynnyrch cwmnรฏau ffasiwn gor-gyflym er mwyn elw a hefyd anelu am tryloywder pan maeโ€™n dod i effaith amgylcheddol ein dillad.

Maeโ€™r term โ€œffasiwn gor-gyflymโ€ yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cwmnรฏau syโ€™n mynd cam ymhellach i gymharu gyda chwmnรฏau ffasiwn cyflym arferol, yn creu niwed y tu hwnt i ddychymyg. Dyma gwmnรฏau sydd yn rhyddhau miloedd o gynnyrch newydd sbon bob wythnos, os nad yn ddyddiol. Does dim rhaid i mi eu henwi nhw. Rydych yn siลตr o fod wedi dod ar eu traws a chael eich temtio gan brisiau gor-resymol. Os yda chiโ€™n aelod o rwydwaith poblogaidd ar y cyfryngau cymdeithasol, fyddwch chi hefyd yn gyfarwydd gyda chweryla am ddefnyddioโ€™r fath gwmnรฏau, yr eitemau yn cael eu galwโ€™n โ€œsafon wychโ€ heb ystyriaeth i fodolaeth wirioneddol yr eitem.

Yn ogystal รข chyfyngu hysbysebion gan gwmnรฏau ffasiwn gor-gyflym, maeโ€™r Llywodraeth Ffrengig yn bwriadu gosod labeli arbennig yn nodi sgรดr amgylcheddol ar ddillad mewn siopau, yn debyg i sut mae gan eitemau electroneg yn ein gwlad ni sgรดr ynni er mwyn hysbysuโ€™r prynwr oโ€™i effaith amgylcheddol. Maent hefyd yn bwriadu codi tรขl ychwanegol ar eitemau sydd yn cael ei werthu yn y wlad.

Wrth graidd hyn oll, yr hyn mae Ffrainc yn ei obeithio ydi y bydd llygruโ€™r blaned yn fwy costus ac maeโ€™n deg i ddweud eu bod ar flaen y gad ar y pwnc penodol yma. Er eu bod ond megis cychwyn ar eu taith o ddal y cwmnรฏau yma i gyfrif, os bydd y ddeddfwriaeth yma yn cael ei basio yna bydd yr amserlen yn un brys, a hynny i gyd-fynd gydaโ€™r argyfwng hinsawdd sydd yn ein gwynebu. Bydd tรขl ychwanegol o โ‚ฌ5 yr eitem a chyfyngiadau hysbysebu yn cael ei wireddu eleni, gydaโ€™r orfodaeth labelu yn dod i rym yn 2026-2027 ac erbyn 2030 bydd tรขl ychwanegol o โ‚ฌ10 yr eitem yn cael rhoi ar eitemau sydd yn cael ei werthu yn y wlad.

Gan fod Ffrainc yn arwain ar y newid, maeโ€™n rhaid i ni gadw llygaid barcud i weld yn union beth ydi wir effeithiauโ€™r ddeddfwriaeth. Gyda chymaint o unigolion bellach yn ddylanwadwyr llawn amser, a fydd hyn yn effeithio ar eu bywoliaeth? Tybed a fydd hyn yn cael effaith bositif, yn dangos y ffordd tuag at hyrwyddo cynnyrch ac ymarferion cynaliadwy? A fydd y cyflawnwyr ffasiwn gor-gyflym yn darganfod ffordd o oroesiโ€™r newid? Rhaid cofio, hefyd, maeโ€™r dull o ffasiwn cyflym yn golygu bod miloedd o bobl yn cael eu hecsbloetio ac mae’n rhaid ystyried yr effeithiau ar eu bywoliaeth nhw ac mae’n rhaid i ni gefnogi sefydliadau sydd yn gwneud pob ymdrech i edrych ar eu holau. Oes, maeโ€™n rhaid taclo llygruโ€™r blaned gyda dillad, ond maeโ€™n rhaid i ni geisio gwarchod bob un sydd wedi cael eu dal yn y gadwyn tywyll a throellog yma.

Dim Byd Newydd

Mae โ€˜na tipyn go lew o โ€œcyntafsโ€ sydd yn cael ei brofi gan y cenedlaethau ifanc. Iโ€™r millenials, ni oedd y cyntaf i brofiโ€™r cyfryngau cymdeithasol – yr agweddau da aโ€™r drwg, megis moch cwta’r arbrawf digidol rhyngwladol. Dyma genhedlaeth oedd wedi gweld esblygiad ffonau symudol, oโ€™r Nokias undonog iโ€™r ffonau fflip oedd shedan yn fwy blaengar, ymhell cyn dyfodiad y ffon clyfar. Iโ€™r rhai sydd yn perthyn i Gen Z, nhw ywโ€™r genhedlaeth gyntaf iโ€™w geni gyda ffonau clyfar yn eu hwynebau, eu rhieni wedi gwirioni gydaโ€™r cyfle i ddogfennu a rhannu bob eiliad.

Rhwng y ddwy genhedlaeth yma, rydym yn profi rhywbeth newydd gydaโ€™n gilydd sydd gan botensial i siapio dyfodol ffasiwn; y gallu i siopa ail law yn gyfan gwbl, heb angen ffasiwn cyflym cyfoes, yn hawdd ac yn hygyrch.

Does dim byd newydd mewn dillad ail law. Efallai y byddwch chiโ€™n gyfarwydd gyda derbyn dillad โ€œnewyddโ€ yn blant, wedi cael ei roddi gan aelod hลทn oโ€™r teulu. Oโ€™n i wrth fy modd yn derbyn llond bag bin i edrych drwyddi, yn gwybod yn union pa ddilledyn oโ€™n iโ€™n chwilota amdani achos oโ€™n i wedi ei llygadu am flynyddoedd. Fy hoff ddarn ail law yn blentyn oedd siaced wen gyda streipan goch ar hyd y fraich, oโ€™r ysgwydd iโ€™r arddwrn, aโ€™r steil fel rhywbeth fysa chiโ€™n gweld mewn ffilm chwaraeon Americanaidd. Erbyn iddi gyrraedd fi, roedd y siaced wedi cael ei gwisgo aโ€™i charu gymaint nes doedd y sip ddim yn gweithio cystal ag yn mynd yn sownd bob tro, ond doedd hynny ddim o bwys – oโ€™n i wedi gwirioni, a fues iโ€™n gwisgoโ€™r siaced honno ymhell wedi iddi fynd yn rhy fach i mi.

Byddi diโ€™n siลตr o fod wedi mentro i mewn i siop elusen rhyw ben, neu hyd yn oed wedi rhoddi hen ddillad neu geiriach amrywiol i siop leol. Does dim dal beth fyddwch chiโ€™n darganfod mewn siop elusen o un dydd iโ€™w gilydd, sydd yn rhoi elfen gyffrous iโ€™r profiad o dyrchu drwyโ€™r raciau. Yn ogystal รข chyffro personol am fargen dda, mae gan siopau elusen fuddion amgylcheddol a chymdeithasol. Yn รดl gwefan Zero Waste Week, mae siopau elusen yn chwarae rhan allweddol mewn lleihau allyriadau carbon deuocsid, a hynny drwy leihau allyriadau o oddeutu 3.7 miliwn tunnell y flwyddyn. Yn gymdeithasol, mae siopau elusen yn magu cymunedau dryw o wirfoddolwyr, yn cynnig profiad mรขn-werthu iโ€™r ifanc. Iโ€™r rhai sydd wedi ymddeol, mae gwirfoddoli yn medru cynnig ffrindiau newydd a rhwydwaith cefnogol.

Does dim byd newydd, chwaith, mewn gwerthu hen ddillad. Am dro byd, mynd iโ€™r car bลตt oedd y ffordd orau i wneud ychydig bach o elw a gwaredu ar ddillad sydd ddim yn cael eu gwisgo bellach. Er bod y car bลตt yn bodoli o hyd, mae aps ail law yn cynnig yr un syniad o gysur eich soffa.

Gydag oddeutu 16 miliwn o ddefnyddwyr yn y DU, mae Vinted ar flaen y gad nid yn unig ffasiwn ail law, ond popeth ail law! Maeโ€™r ap yn galluogi defnyddwyr i werthu *bron* popeth, o hen lyfrau i offer crefft. Os fyddwch chiโ€™n chwilio i brynu rhywbeth penodol, maeโ€™n werth chwilio ar yr ap yma yn gyntaf – pwy รข wyr faint o arian allwch arbed. Yn ddiweddar, prynais cwshin eistedd รดl-geni newydd sbon am bris anhygoel. Pan fo gen tiโ€™r opsiwn i arbed arian a safio eitem rhag diweddu mewn safle tirlenwi (eitem fydd ond yn cael ei ddefnyddio am wythnos neu ddau, os hynny) neu prynuโ€™n newydd am bris llawn, maeโ€™r ateb yn glir.

Wrth gwrs, fel unrhyw declyn neu dechnoleg newydd, rhaid pwyllo. Hawdd iawn ydi cyffroi wrth weld gymaint o fargeinion ar gael i ti gydag un tap ar dy ffon a diweddu gyda llond y lle o ddillad dwyt ti ddim gwirioneddol eu hangen wediโ€™r cwbl. Does dim dadlau bod siopa ail law ac ar-lein yn cymryd ychydig bach o bractis (erthygl arall yw honno), ond does chwaith dim dadlau dros ffeithiauโ€™r buddion. Yn รดl gwefan WRAP, mae prynu pรขr o jรฎns ail lawr ar-lein, yn hytrach โ€˜na phrynu un newydd, yn gallu arbed dros 30kg o CO2e, a hynnyโ€™n gyfystyr i wneud 600 paned o de.

Cofiwch, dydi ail law ddim yn golygu โ€œwedi cael ei wisgoโ€ bob tro. Syndod ydi faint o ddillad newydd sbon, gydaโ€™r labeli arnynt o hyd, sydd yn cael eu rhestru iโ€™w werthu gyda disgrifiadau yn nodi eu bod wedi methuโ€™r blwch dychwelyd yr eitem iโ€™r siop wreiddiol. Heddiw, wrth chwilio am โ€œASOS Jeansโ€ a thicio โ€œNew with tagsโ€ a hefyd nodi fy mod i ond am weld eitemau sydd yn fy maint i, mae dros 500 o eitemau yn cael eu harddangos yn syth gyda phrisiau yn amrywio o ยฃ2.50 i ยฃ9. Wrth dderbyn yr opsiwn o fachu bargen ac arbed gwneud 600 paned o dรช, pam fyddai unrhyw un yn ei wrthod a dewis prynnuโ€™n newydd?

Fydd ffasiwn ail law ac ar-lein yn newid llwybr ffasiwn cyflym yn gyfan gwbl? Amser a ddengys, ond maeโ€™n siลตr o adael ei farc. Mae gan y cenedlaethau ifanc y gallu i siopa ail law yn gyfan gwbl, heb angen i droedio siopau ffasiwn cyflym. Eu penderfyniadau nhw fydd yn siapio dyfodol byd ffasiwn.