Diddordeb Dibwys, Tro Trychinebus

Diddordeb Dibwys, Tro Trychinebus 170420

Mewn amsar mor ansicr a phoenus a’r un ‘da ni’n byw ynddi ar y funud, dydi ffasiwn ddim yn bwysig i ni yma yng Nghymru. Ella fod rhai ohona ni wedi ymdrochi mewn tamad o retail therapy i leddfu ‘chydig ar y poendod, ond dyda ni ddim yn chwilio am ddillad arbennig ar gyfar priodasa’, ddim angan buddsoddi mewn dillad smart ar gyfar cyfweliad a dydi mynd ar dro rownd y siopa ‘jest am lwc’ a diweddu yn prynu llwyth o impulse buys ddim yn opsiwn mwyach.

Felly, efo’r newid mawr a sydyn ym myd ffasiwn ni yma yng Nghymru, fyswch chi’n meddwl bysa huna’n beth da? Wedi’r cwbl, efo llai o brynu ma’ ‘na llai o wastraff a mwy o bres yn ein pocedi.

Draw ym Mangladesh, mae dros 4 miliwn o bobl yn gweithio mewn ffatrïoedd ffasiwn yn gwneud dillad sy’n cael eu gwerthu ledled y byd. Dydw’i ddim yn gorfod egluro i chi fod yr amodau gweithio yn galad a’r tal yn dorcalonnus, er y galw mawr am newid. Gyda miliyna’ o deuluoedd yn dibynnu ar waith yn y ffatrïoedd yma, mae coronafeirws wedi troi sefyllfa oedd yn ofidus ac yn beryglus yn barod i fod yn un gwir trychinebus. Mae nifer fawr o bobl wedi cael eu gyrru adra o’u gwaith heb dal gyda’r ffatrïoedd yn colli cytundebau. Tra bod y contractwyr enfawr yn gwynebu diffyg elw, mae gweithwyr y ffatrïoedd ffasiwn yn gwynebu diffyg incwm, diffyg bwyd a diffyg meddyginiaeth.

Mae arlywydd y Bangladesh Garment Manufacturers and Exporters Association, Rubana Huq, wedi annog prynwyr mawr y diwylliant ffasiwn i beidio canslo archebion gan egluro’r realiti o 4.1 miliwn o weithwyr yn llwgu os na fyddant yn rhoi pwyslais ar les y gweithwyr. Dywedodd Huq, “…our foremost responsibility was towards our workers. We are a manufacturing country, our reality and your reality is totally different, but it is not a time to point out differences, it’s a time through which we need to work together.”

niloy-biswas-qIUb3VNmxjI-unsplashYn ôl arolwg gan y Workers Rights Consortium gyda Phrifysgol Penn State sy’n edrych ar yr effaith drychinebus ma’r coronafeirws a’r archebion yn cael eu canslo yn ei gael ar y ffatrïoedd a’u gweithwyr, mae 45.8% o gyflenwyr yn deud eu bod wedi colli nifer fawr neu’r rhan fwyaf o’u cytundebau, gyda 5.9% o gyflenwyr yn deud eu bod wedi colli bob un cytundeb. Fysa chi’n meddwl fod cytundeb yn gytundeb, ma’ nw wedi gaddo talu ac mae’r cytundeb yna i ddiogelu’r cyflenwyr a’r prynwyr, ond ma’ rhai cwmnïa wedi defnyddio cymal force majeure er mwyn canslo’r cytundeb.

Sud yda ni’n symud ymlaen gyda phrynu ffasiwn ar ôl i ni ffarwelio efo’r hunllef yma? Mae prynu’n lleol yn ateb sy’n cefnogi ein cymunedau agos a hefyd lleihau ar y gost amgylcheddol o allforio toman o ddillad. Ma’ ‘na frandia’ ffasiwn lleol reit ar eich stepan ddrws (fel Arfordir, Siop Mirsi, Lan Llofft). Er mwyn lleihau gwastraff, ystyriwch brynu’n ail-law (fel Cant a Mil Vintage, mewn siopa elusen, apps fel Depop). Wedi dweud hynny, weithia’ ma’ ffasiwn sydyn yn handi ac yn fwy fforddiadwy, felly manteisiwch ar y gyfla yma i sylwi pa gwmnïa sy’n ymddwyn yn gyfrifol (er enghraifft M&S a Tesco sydd yn bwriadu talu am bob archeb gyda’u cyflenwyr) a pa gwmnïa sy’n ymddwyn reit hunanol yn ôl y golwg. Yn ôl y Bangladesh Garment Manufacturers and Exporters Association mae Matalan a Primark ymysg y rhai sydd wedi canslo £1.4 biliwn o archebion.

Fel dywedodd Rubana Huq, mae eu realiti nhw a’n realiti ni yn gwbl wahanol ac mae angan bod yn wybodus o hynny. Mae’n bwysig iawn nodi fod lot ohona ni mewn sefyllfa freintiedig a lwcus iawn ymysg yr helynt o’n cwmpas. Ma’ ffasiwn yn ddiddordeb dibwys i ni mewn argyfwng byd-eang, ond i eraill ym mhen draw’r byd, ffasiwn sy’n bwydo’u teuluoedd.