Y Rheol Tri Gwisg
Y Platfform – Hydref 2018
Os ma’ rhyddhau Y Platfform yn dymhorol wedi dysgu unrhyw beth i mi, hynny ydi for amser yn mynd mor sydyn mae i’n eitha sgêri. Eiliad yn ôl roeddwn i’n rhoi rhifyn yr haf at ei gilydd, a rwan dyma fi’n cyflwyno rhifyn yr hydref i chi!
Beth bynnag, mwynhewch a cofiwch rannu!
Y Platfform – Haf 2018
Ar ôl treulio bob amsar sbar oedd yn y dydd a nos i greu rhifyn y gwanwyn oni’n falch o gael hoi bach oddi ar y cyfrifiadur a rhoi holidê bach i’r llygaid sgwâr… ond cyn i mi allu blincio oedd hi’n amser cychwyn rhifyn yr haf! Ma’ amser yn mynd yn RHY GYFLYM! Eniwe, mwynhewch y rhifyn diweddara’.
Y Platfform – Gwanwyn 2018
Coeliwch neu beidio, mae hi’n Wanwyn! Tymor petha newydd… Felly dyma cylchgrawn newydd; Y Platfform.
Dyma blatfform i chi ddangos eich talented neu i rannu syniadau.
Darllenwch, mwynhewch a cofiwch adael eich sylwadau drwy clicio yma!
Syniada’ Sul y Mamau
Rhaid cael anrheg arbennig i Mam ar Sul y Mamau, boed hynny’n mwsh neu’n fyg.
Ar achlysuron fel hyn, mae siopa gyda busnesau annibynnol nid yn unig yn bwysig ond yn ffordd wych o ddod o hyd i anrheg fydd neb arall wedi prynu ac anrheg fydd yn siŵr o gael ei werthfawrogi.
Don’t Buy Her Flowers
Y lle cyntaf hoffwn ei awgrymu ydi Don’t Buy Her Flowers. Cafodd y fenter yma ei gychwyn gan fam ar ôl iddi dderbyn gymaint o flodau i’w llongyfarch ar enedigaeth ei phlentyn, allai ddychmygu fod y lle fel Pili Palas! I gychwyn, y syniad oedd cynnig cynnrch fel anrheg i famau newydd oedd ddim yn flodau, trîts amgen i’r fam. Bellach, mae’r cwmni yn cynnig bocsys o trits ar gyfer wahanol achlysuron, gan gynnwys Sul y Mamau! Gyda Don’t Buy Her Flowers, mae dewis y cynnyrch yn hawdd a’r pacio wedi’i wneud i chi!
Rheswm arall i archebu gan Don’t Buy Her Flowers ydi mae £1 o bob archeb yn cael ei roi i Kicks Count, mudiad sy’n codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd symudiadau babis yn ystod beichiogrwydd ac yn rhoi’r hyder i ferched i wybod pryd allai rhywbeth fod o’i le er mwyn cael help yn yr ysbyty.
Lobella Loves
Dwi wedi sôn am y wefan yma yn barod, ond allai ddim peidio sôn amdano! Ar wefan Lobella Loves, fe ddowch chi o hyd i amryw o anrhegion fydd eich mam neu nain (neu unrhyw un, mewn gwirionedd!) yn mwynhau. Dwi wir yn argymell y mwgwd cwsg Spacemasks ac mae bisgedi Lady Bakewell-Park bron yn edrych rhy neis i’w bwyta, yn enwedig os ‘da chi’n personaleiddio’r bisgedi!
Yn ogystal â chynnyrch ffab, does dim cost cludiant ac mae rhan o’ch arian yn cael ei roddi i elusen sy’n helpu gydag iselder ôl-eni.
Y Stryd Fach
Am gynnyrch gan grewyr Cymraeg, mae’r Stryd Fach yn siop-un-stop. Yma, gwelwch emwaith gorjys, fel y rhai allwch chi bersonaleiddio gan Bodoli, ac mae mur-gelfi di-ri, fel yr un cardia ‘Mam’ gan Caligraffion.
Cardiau
Mae cardiau yn rhan fawr o Sul y Mamau, yn amlwg! Allwch chi wneud un yn hawdd, ond be os ‘da chi’n ddiog (fel fi)?
Ceir llu o ddylunwyr talentog yng Nghymru sy’n cynnig cardiau, a dyma ddetholiad bach o fy ffefrynnau:
Busnes Bach Mis Mawrth: Olew
Pan 'da chi'n prynnu potel o olew, 'da chi'n prynnu hyd a lledrith ym myd y gwallt cyrliog.
Mae Olew yn cael ei wneud gyda llaw gan Elinor yn Leyton a mae'n digon teg dweud fod hi'n ferch dewr ac ysbrydoledig iawn wedi iddi adael ei swydd er mwyn achub cyrls y genedl.
Dwi'n dyst i'r majic sydd yn y potel; mae o wir yn codi cyrls (er mod i'n sythu fy ngwallt lot gormod, ond shhhh), felly oni'n meddwl fod Olew yn llawn haeddu fod yn fusnes y mis mis Mawrth.
Pam wnes di benderfynnu gwerthu Olew?
Oeddwn yn creu Olew am rai blynyddoedd cyn gwerthu i fy ngwallt fy hun. Ar y pryd, ni allwn ni ddod o hyd i gynnyrch oedd yn gweithio ar fy ngwallt. Roedd fy ngwallt yn sych iawn, ddim yn tyfu llawer ac roedd y cwrls yn frizzy ac i gweud y gwir toedd o ddim yn edrych fel cwrls o gwbl oherwydd oeddwn yn defnyddio straighteners a hairdryer am flynyddoedd.
Es i ar gyrsiau a darllenais am wahanol olewau a'u manteision ar gyfer helpu gyda gwallt sych sydd ddim yn tyfu. Ac yn ei dro dysgais os oedd y gwallt yn iachus fydd y cwrls yn dod yn ôl. Ar ôl ei ddefnyddio a fy ngwallt am rhai misoedd sylwodd fy ffrindiau y gwahaniaeth a gofynnon a allai wneud rhai iddyn nhw ac ar ôl amser meddyliais gwerthu achos oeddwn yn wneud e beth bynnag. O ni hefyd eisiau gwerthu rhywbeth i helpu merched sy'n hoffi eu gwallt naturiol yn hytrach 'na cydymffurfio a'r delfrydau harddwch nodweddiadol.
Oedd hi'n anodd cychwyn? Sut oeddat ti'n teimlo am gychwyn Olew?
Y peth mwyaf anodd oedd cychwyn i gweud y gwir. Oedd y cynnyrch gyda fi, ac o ni'n gwybod oedd y cynnyrch yn gweithio, ond cymerodd dros flwyddyn i i fi greu gwefan ac ati achos oedd gen i swydd eithaf demanding, felly penderfynais roi gorau i'r swydd a chanolbwyntio ar Olew. Oedd hyn yn mis Awst 2017. Oedd yn anodd hefyd mynd o swydd gydag incwm misol, yn enwedig pan oedd pobl yn gweud wrthaf bod fi di gwneud camgymeriad a dyle fi di meddwl mwy, ond roeddwn yn teimlo mor gyffrous i ddechrau a'r peth mwyaf pwysig oedd credu yn fy hun a stopio gwrando ar y rhai negyddol.
Pwy ydi dy ysbrydoliaeth?
Mae gen i lawer o bobl sy'n fy ysbrydoli, yn enwedig merched annibynnol. O oedran ifanc wnes i weld fy Mam yn dod yn annibynnol ar ôl ysgaru fy nhad, mae ganddo fusnes hefyd felly ni welais unrhyw ffordd arall o fod.
Pa wefan cymdeithasol wyt ti'n ddefnyddio? Pa un sy'n fwyaf effeithiol i farchnata?
Dwi'n defnyddio Facebook ac Instagram. Instagram yw'r mwyaf effeithiol i fi achos mae'n fwy rhyngweithiol a gallwch dargedu cynulleidfa gan ddefnyddio hashtag, a hefyd mae eich dilynwyr yn gallu dod o hyd i chi yn haws trwy ddefnyddio hashtag. Wrth gwrs mae rhaid archebu trwy fy ngwefan, ond mae linc ar y tudalen Instagram i fynd yna.
Pa mor bwysig wyt ti'n meddwl yw'r iaith Gymraeg wrth farchnata? Oes cyfleon ti wedi gael na fasat ti wedi cael wrth farchnata'n uniaith Saesneg?
I ddechrau, mae'r iaith wedi helpu fy nghynnyrch i sefyll allan oherwydd ei enw, sef Olew. Roeddwn eisiau enw Cymraeg achos:
- Dwi'n dod o Gymru ac mae'n rhan fawr o fy hunaniaeth
- Mae defnyddio enw Cymraeg yn agor sgwrs gyda phobl sydd gyda dim clem fod pobl yn siarad Cymraeg, felly mae'n rhoi addysg i bobl am ddiwylliant Cymreig.
Mae marchnata yng Nghymraeg yn helpu i mi gysylltu â phobl Cymraeg a dwi'n meddwl fod e'n bwysig i siaradwyr Cymraeg cael cynnyrch sydd yn cael ei farchnata yn eu hiaith. Dwi hefyd yn hoffi'r ffaith dwi'n derbyn negeseuon ar Instagram/e-bost yn chati yn Gymraeg, yn enwedig achos dwi'n byw yn Llundain a ddim wastad yn cael siawns i siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg.
Mae eisiau i fi ddefnyddio mwy o'r Gymraeg yn y dyfodol a hoffwn gael stondin yn nigwyddiadau Cymraeg.
Lle hoffet ti fynd a'r busnes yn y dyfodol?
Yn y dyfodol hoffwn gael llawer mwy o siopau yn gwerthu Olew, yn enwedig yng Nghymru, a chael stiwdio gwaith i ganiatau i mi ddatblygu mwy o nwyddau gan mai dim ond rhywfaint o le storio pethau sydd yn fy fflat bach!
O Ben Draw’r Catwalk: Blwyddyn Newydd, Dillad Newydd
Ysgrifennwyd y post yma gan Mared Gruffydd
Diolch byth, mae be’ sydd o hyd yn teimlo fel mis hiraf ac oeraf y flwyddyn ar ben, ac wrth i’r tywydd ddechrau troi ac i bawb ddechrau setlo nôl i mewn i rwtîn arferol yr ysgol, y brifysgol neu’r gwaith, mae’n amlwg bod y gwanwyn ar y ffordd o’r diwedd. Gyda tymor newydd daw ffasiwn newydd, felly mae hi hefyd, wrth gwrs, yn bryd dechrau meddwl am ychwanegu eitemau newydd, cyffrous i’ch cwpwrdd dillad. Wrth edrych yn ôl ar gatwalks sioeau ffasiwn mwya’ y byd – Efrog Newydd, Paris, Milan a Llundain – mis Medi a Hydref diwethaf, cawn gipolwg ar beth fydd trendiau mwya’ poblogaidd y tymor nesaf, yn ogystal â pha eitemau i brynu rŵan.
Sgert bensil
Does dim os amdani, mae’r sgert bensil yn dal i fod yn glasur ers iddi gael ei chyflwyno i ni yn y 50au gan Christian Dior. Ers hynny, mae hi wedi ymddangos ar goesau pawb o Marilyn Monroe i Michelle Obama ac yn cael ei chysylltu efo’r byd gwaith a busnes mwy na dim arall gan ei bod hi’n eitem berffaith i’w wisgo i’r swyddfa. Ond heddiw, nid yn unig i’r gwaith y gallech chi wisgo’r sgert bensil, ond i’r bwyty, i’r ganolfan siopa, i’r bar, a hyd yn oed i’r clwb hefyd. Yn wir, mae dylunyddion ffasiwn y byd wedi rhoi twist modern a hwyl i’r sgert bensil: gwelwyd un ddisglair gyda sequins arni ar gatwalkNO 21, rhai wedi ei gorchuddio â studs a thyllau metalig gan Bottega Veneta, a fersiynau tryloyw, ffasiynol ar gatwalksMax Mara a Dolce & Gabbana.
Lledr
Mae lledr yn ymddangos ar y catwalk pob tymor, a nid oedd casgliadau Gwanwyn/Haf 2018 yn eithriad. Ymddangosodd sgertiau, trowsusau a siacedi lledr du ar gatwalkVersace a bŵts a bagiau lledr du yn sioe ffasiwn Céline. Gwelwyd trend unigryw iawn gan Alexander Wang – leggings lledr du o dan siorts byr denim – perffaith ar gyfer tywydd anibynadwy y gwanwyn a’r haf pan dydych chi ddim yn siŵr os dyliech chi wisgo trowsus neu siorts cyn gadael y tŷ.
Cotiau glaw
Perffaith ar gyfer tymor y festivals i’w wisgo dros ffrog neu siorts, ac i’w wisgo rwan dros siwmper neu fleece ar ddyddiau gwlyb, ma’r gôt law yn eitem mae pob merch ei angen yn ei chwpwrdd dillad. Unwaith eto mae ysbrydoliaeth i’w gael o edrych ar sioe ffasiwn NO 21 gyda’r gôt law melyn cŵl, a dwi hefyd wrth fy modd gyda cotiau windbreaker lliwgar a metalig Isabel Marant. Piti bod y rhataf yn agos i £600! Ond na phoener, mae Topshop yn dda ar gyfer fersiynau rhatach a mae hyd yn oed sêl ymlaen yn Petit Bateau ar y funud, lle mae rhai o’r cotiau wedi gostwng yn eu pris, o £132 i lawr i £79.20 – bargan.
Streipiau
O’r ffrog llewys hir las efo streipiau gwyn ar gatwalkCéline i’r siwt goch efo streipiau du i’w weld ar fodel yn sioe ffasiwn Dolce & Gabbana, roedd y patrwm poblogaidd ym mhob man mis Medi diwethaf, a rydw i’n sicr fydd o hefyd ym mhob man pan ddaw’r gwanwyn. Ymddangosodd siwt streipiog arall ar gatwalkEmporio Armani – un liwgar, fwy hafaidd y tro yma, a roedd streipiau tebyg i’w gweld gan Sportmax, ond ar dopiau a sgertiau cyfforddus iawn yr olwg. Felly, yn fyr, os ydych chi ond am brynu un dilledyn y tymor yma, gwnewch yn siwr ei fod o’n un streipiog.
Ffrog slip
Dwi’n eithaf siwr ddaru obsesiwn y byd ffasiwn gyda ffrogiau slip gychwyn yn iawn ar ôl i Kate Moss gael tynnu ei llun yn gwisgo un dryloyw mewn parti pan oedd hi’n 19 oed. Ers hynny mae bron pob un dylunydd ffasiwn enwog wedi creu un, o Stella McCartney i Calvin Klein. Y tymor nesaf fyddan nhw unwaith eto yn ymddangos ar y stryd fawr ac yn y siopau drud, a byddan nhw’n cael eu gwisgo ar y traeth ar ben wisg nofio, yn y bwyty o dan wasgod smart, ac yn y clwb gyda minlliw coch, à la Kate. Edrychwch ar gasgliadau Gwanwyn/Haf 2018 Christopher Kane, The Row a Dries Van Noten am ysbrydoliaeth.
Playlist Dydd Miwsig Cymru
Mae’n amser i chi ymarfer eich ‘si hei lw’s achos mewn ‘llai na munud’ (well, llai na wsos) fydd hi’n Ddydd Miwsig Cymru!
Nai stopio efo’r puns achos dwi’m yn gallu meddwl am ddim mwy, ond dydd Gwener y 9fed o Chwerfror mae Dydd Miwsig Cymru ac i ddathlu dwi wedi rhoi playlist bach o 50 o ganeuon at ei gilydd (a yndi, ma Trons Dy Dad arna fo achos sa’m yn blaylist da hebdda fo).
Mae’r playlist yn gasgliad o fy hoff ganeuon Cymraeg, y clasuron a rhai newydd, yn ogystal â cynigion gan fy nilynwyr Instagram, fel Rebecca o becster.com. Ei chynnig hi oedd Ceidwad y Goleudy gan Bryn Fôn (Os da chi ddim yn licio’r gan yna, da chi’n deud celwydd).
Mwynhewch!
Busnes Bach Mis Chwefror – Anna Gwenllian
Busnes bach y mis yma ydi Anna Gwenllian!
Os ‘da chi’n chwilio am brint i adfywio’ch ystafell, ma’ prints Anna yn berffaith.
Wedi ei lleoli yng Ngogledd Cymru, mae’r darlunydd yn cyfuno gwaith llaw gyda gwaith cyfrifiadurol er mwyn creu cynnyrch sy’n siŵr o wneud i chi wenu.
Dwi’n ffan mawr o waith Anna ac es i ati i ofyn ychydig i gwestiynnau iddi amdan ei busnes:
Pam wnes di benderfynnu gwerthu dy waith celf? Beth oedd yr ysbrydoliaeth?
Nes i adael coleg fel nath y ‘recession’ hitio, oni’n byw yng Nghaerdydd ar y pryd ac oedd ffeindio unrhyw fath o swydd yn anodd iawn. Felly i gadw’n hyn yn brysur yn y cyfamser o’n i’n neud darlunio a chreu lluniau yn barod i wefan o’n i’n gobeithio creu rhyw ddydd. ‘Chydig dros flwyddyn wedyn oedd rhaid i mi symud yn ôl adre i’r gogledd oherwydd salwch, a tra oni’n gwella nes i fwy o luniau a chreu gwefan i’n hyn – ‘wbeth oni’n gallu neud pan oni’n teimlo’n iawn a ddim yn sâl! Mi nes i rannu hwn (a lluniau eraill oeddwn i’n creu ar y pryd) ar y cyfryngau cymdeithasol ac wedyn nath teulu a ffrindia ddechra’ gofyn i mi greu darnau iddyn nhw. Ar ôl hyn, oedd pobl yn dechrau sôn dylwn i neud y lluniau yma fewn i prints a chardiau. A dyna ni!
Beth yw’r hoff ddarn o waith/comisiwn ti wedi wneud hyd yn hyn?
Ar hyn o bryd, fy hoff ddarn ydi’r print mwya’ diweddar dwi ‘di neud – sef yr Wyddor: Byd Natur Cymru. Oedd hwnnw’n ‘wbeth o’n i wedi bod eisiau neud ers hir. Mi nath o gymryd lot mwy o amser i neud nag o’n i yn disgwyl. Oedd ‘na lot o waith ymchwil, meddwl am lythrennau ac wedyn dewis pa rhai cyn hyd yn oed cychwyn ar y llun! Ond dwi’n hapus iawn efo sut mae o wedi troi allan.
Pa fath o fiwsig wyt ti’n gwrando arno tra’n gweithio?
Dwi fel arfer yn chwarae unrhyw gerddoriaeth sydd gen i, neu gwrando ar y radio. Dwi angen wbeth egniol – fel arfer ‘wbeth roc/pync – pan dwi’n neud llun, dwi bob tro’n meddwl bod o’n dangos yn y darn os dwi ‘di blino felly ma’ hyn yn cadw fi’n effro a llawn adrenalin! Ond mae’n dibynnu ar sut dwi’n teimlo ar y dydd, a beth bynnag sydd yn helpu fi i greu y llun.
I le ti’n troi am ysbrydoliaeth?
Mae artistiaid a chrefftwyr eraill yn fy ysbrydoli, ac orielau wrth gwrs! Dwi ‘di ymweld â gwaith Tunnicliffe yn Oriel Ynys Môn dwn i’m faint o weithia ond dwi byth yn diflasu ohona fo. Dwi’n gweld Instagram yn grêt i ddarganfod artistiaid newydd, yn arbennig rhai lleol. Dwi wrth fy modd efo byd natur hefyd, yn arbennig adar. Felly mae mynd am dro neu hyd yn oed allan i’r ardd yn help! Ac wrth gwrs, adeiladau a pensaerniaeth.
Ydi creu gwaith Cymraeg / marchnata yn ddwyieithog wedi bod o fantais?
Wrth gwrs, dwi’n meddwl mai gwaith efo’r iaith Gymraeg ydi’r pethau sy’n gwerthu orau i ddweud y gwir! Dwi’n mwynhau creu pethau yn y Gymraeg, a lluniau o lefydd yng Nghymru yn arbennig, felly dwi’n meddwl fod marchnata yn y Gymraeg yn bwysig ac yn gwneud synnwyr. Dwi ddim yn rhy hoff o weld pobl yn marchnata pethau efo’r iaith Gymraeg yn uniaith Saesneg – dwi’n gweld o’n rhyfedd yn bersonol! Dwi bob tro’n trio marchnata pethau’n ddwyieithog, neu Cymraeg yn unig weithia’ – dibynnu ar y darn.
Lle hoffet ti fynd a’r busnes yn y dyfodol?
Dwi eisiau canolbwyntio mwy ar greu cynnyrch i bobl allu prynu ar gyfer siopau, a trio ehangu ar le mae fy ngwaith wedi stocio ar hyn o bryd. Mae hyn yn ‘wbeth dwi’n mwynhau neud felly dwi’n meddwl fod o’n bwysig i fynd yn y cyfeiriad yno. Fyswn i’n licio hefyd neud mwy o ddylunwaith priodasol, am yr un rheswm. Ond arwahan i hynna, does gen i ddim planiau penodol, dwi heb feddwl llawer am y peth efo’r dyfodol!
Beth fysa dy gyngor di i rhywun fysa’n meddwl cychwyn busnes dylunio?
W ma’ hwnna’n un anodd! Mae rhannu lluniau o fy ngwaith ar gyfryngau cymdeithasol wedi bod o help mawr i fi, gweld be ‘di ymateb pobl i ddarnau newydd, a o’ddwn i’n gallu gwella ar hyn a chreu darnau eraill tebyg. Mae’n bwysig hefyd i beidio poeni gormod am neud camgymeriadau a chael dy wrthod gen pobl. Pan nes i gychwyn, mi o’ddwn i’n teimlo fel oedd popeth yn mynd yn anghywir, a chael fy ngwrthod efo fy ngwaith, ond nes i gario ‘mael mynd oherwydd dwi’n caru be dwi’n neud. Tydi’r petha’ yma ddim yn digwydd dros nos, mae’n cymryd amser – dal ati, gweithio’n galed ac mi ddaw!