
Sawl hysbyseb wyt ti wedi gweld ar-lein heddiw? A sawl dylanwadwr wyt ti wedi gweld yn hyrwyddo cynnyrch “anhygoel”, gyda phris “anghredadwy” i gyd-fynd?
Mae hyrwyddo cynnyrch ar-lein yn fusnes mawr bellach, gyda dylanwadwyr â miliynau o ddilynwyr yn gwneud bywoliaeth o greu cynnwys a hyd yn oed meicro-ddylanwadwyr (sef dylanwadwyr gyda rhwng deg mil a chan mil o ddilynwyr) yn gwneud swm bach twt. Bellach, dyma sut mae cwmnïau ffasiwn o bob cwr y blaned yn denu y rhan helaeth o’u cwsmeriaid, yn arbennig y cwmnïau mwyaf anfoesol.
Dull bach dan din ond effeithiol ydi hyn. Effeithiol gan ei fod yn bwydo ar ein hagosatrwydd tuag at ddylanwadwyr a’r ffaith ein bod ni weithiau yn teimlo fel ein bod yn eu hadnabod cystal â’n ffrindiau ym mywyd go iawn. Dan din oherwydd does dim rhaid chwilota’n bell iawn i ddod o hyd i sgerbwd neu ddau yng nghist ddillad sawl cwmni ffasiwn enfawr. Cyfleus, felly, ydi defnyddio gwynebau cyfarwydd, cyfeillgar, gyda swm go lew o ddilynwyr sy’n ymddiried yn llwyr yn eu barn. Wedi’r cyfan, os wyt ti wedi bod yn dilyn rhywun ers oes pys, oes gen ti reswm i beidio ymddiried ynddynt?
Un wlad sydd yn y broses o roi stop ar y fath yma o hyrwyddo ydi Ffrainc, sydd wedi cyflwyno deddf sy’n dal dylanwadwyr i gyfrif pan maent yn hyrwyddo cynnyrch cwmnïau ffasiwn gor-gyflym er mwyn elw a hefyd anelu am tryloywder pan mae’n dod i effaith amgylcheddol ein dillad.
Mae’r term “ffasiwn gor-gyflym” yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cwmnïau sy’n mynd cam ymhellach i gymharu gyda chwmnïau ffasiwn cyflym arferol, yn creu niwed y tu hwnt i ddychymyg. Dyma gwmnïau sydd yn rhyddhau miloedd o gynnyrch newydd sbon bob wythnos, os nad yn ddyddiol. Does dim rhaid i mi eu henwi nhw. Rydych yn siŵr o fod wedi dod ar eu traws a chael eich temtio gan brisiau gor-resymol. Os yda chi’n aelod o rwydwaith poblogaidd ar y cyfryngau cymdeithasol, fyddwch chi hefyd yn gyfarwydd gyda chweryla am ddefnyddio’r fath gwmnïau, yr eitemau yn cael eu galw’n “safon wych” heb ystyriaeth i fodolaeth wirioneddol yr eitem.
Yn ogystal â chyfyngu hysbysebion gan gwmnïau ffasiwn gor-gyflym, mae’r Llywodraeth Ffrengig yn bwriadu gosod labeli arbennig yn nodi sgôr amgylcheddol ar ddillad mewn siopau, yn debyg i sut mae gan eitemau electroneg yn ein gwlad ni sgôr ynni er mwyn hysbysu’r prynwr o’i effaith amgylcheddol. Maent hefyd yn bwriadu codi tâl ychwanegol ar eitemau sydd yn cael ei werthu yn y wlad.
Wrth graidd hyn oll, yr hyn mae Ffrainc yn ei obeithio ydi y bydd llygru’r blaned yn fwy costus ac mae’n deg i ddweud eu bod ar flaen y gad ar y pwnc penodol yma. Er eu bod ond megis cychwyn ar eu taith o ddal y cwmnïau yma i gyfrif, os bydd y ddeddfwriaeth yma yn cael ei basio yna bydd yr amserlen yn un brys, a hynny i gyd-fynd gyda’r argyfwng hinsawdd sydd yn ein gwynebu. Bydd tâl ychwanegol o €5 yr eitem a chyfyngiadau hysbysebu yn cael ei wireddu eleni, gyda’r orfodaeth labelu yn dod i rym yn 2026-2027 ac erbyn 2030 bydd tâl ychwanegol o €10 yr eitem yn cael rhoi ar eitemau sydd yn cael ei werthu yn y wlad.
Gan fod Ffrainc yn arwain ar y newid, mae’n rhaid i ni gadw llygaid barcud i weld yn union beth ydi wir effeithiau’r ddeddfwriaeth. Gyda chymaint o unigolion bellach yn ddylanwadwyr llawn amser, a fydd hyn yn effeithio ar eu bywoliaeth? Tybed a fydd hyn yn cael effaith bositif, yn dangos y ffordd tuag at hyrwyddo cynnyrch ac ymarferion cynaliadwy? A fydd y cyflawnwyr ffasiwn gor-gyflym yn darganfod ffordd o oroesi’r newid? Rhaid cofio, hefyd, mae’r dull o ffasiwn cyflym yn golygu bod miloedd o bobl yn cael eu hecsbloetio ac mae’n rhaid ystyried yr effeithiau ar eu bywoliaeth nhw ac mae’n rhaid i ni gefnogi sefydliadau sydd yn gwneud pob ymdrech i edrych ar eu holau. Oes, mae’n rhaid taclo llygru’r blaned gyda dillad, ond mae’n rhaid i ni geisio gwarchod bob un sydd wedi cael eu dal yn y gadwyn tywyll a throellog yma.










