
Gwelais darn o emwaith Buddug am y tro cyntaf mewn Eisteddfod blwyddyn dwytha’, a roeddwn i wrth fy modd efo’r steil unigryw a’r prydferthwch syfrdanol. Felly, prynais darn bach fel anrheg i mam, mwclis calon gyda ‘Cariad’ arni.
Yn wreiddiol o Ogledd Cymru, mae Buddug bellach yn byw yn Llundain, wedi mynychu’r Brif Ysgol yno. Mae ei busnes bellach yn 10 mlwydd oed, ac mae’n mynd o nerth i nerth!
Defnyddiai techneg enamel i greu’r gemwaith, ac yn ol ei gwefan, mae Buddug yn toddi gwydr ar gopr, arian neu dur. Mae hi’n defnyddio haenau gwahanol, ac yn naddu’r dyluniad i fewn i’r haenau.
Beth am edrych ar wefan Buddug i gael golwg ar ei siop?
The first time I saw one of Buddug’s pieces was at an Eisteddfod last year, and I loved the unique rustic style and the stunning beauty they possessed. So, I just had to buy one for my mother, a heart necklace with ‘Cariad’, meaning Love in Welsh.
Originally from North Wales, Buddug now lives in London, having attended University there. Her business is now 10 years old!