cyfweliad – Cowbois Rhos Botwnnog

image

Tybiaf fod Cowbois Rhos Botwnnog, band o Ogledd Cymru, yn hen gyfarwydd gyda byd cerddoriaeth Cymraeg erbyn hyn. Yn fand ers 2006, mae nhw wedi chwarae nifer fawr iawn o gigs a cyd-weithio gyda artistiaid fel Gwyneth Glyn.

Cefais gyfle sydyn i ofyn i Aled ychydig o gwestiynnau!

Sut wnaethoch chi benderfynnu creu’r band?

Mi oedd Dafydd a fi (Aled) mewn band yn barod. Mi oedd Iwan wedi dechrau chwara’ gitar a chyfansoddi, felly mi oedd o’n gam eitha naturiol i ni dechrau band.

Beth ydi’r darn o gyngor gora’ yda chi erioed wedi ei gael? 

Never trust a man who wears both a belt and suspenders

Os fysa chi’n cael y cyfle i berfformio ar unrhyw lwyfan yn y byd, lle fysa chi isho perfformio? 

Dani wedi bod yn eitha lwcus a chael chwarae mewn dipyn o lefydd unigryw – os fysa ni heb gael gwneud yn barod mae’n siwr y byddai Ynys Enlli wedi bod yn ateb. Mi fysa Ty Opera Sydney yn ddigon difyr dwi’n siwr, neu long danfor.

Beth ydi’r gig gora’ da chi erioed wedi ei wneud? 

Mae na ambell un cofiadwy wedi bod… mae Clwb Rygbi Dolgellau yn ystod Sesiwn Fawr 2007 yn un dwi’n gofio’n dda, dwi erioed wedi gweld nunlle mor llawn! Mae Maes B wastad yn gret hefyd ac yn medru tynnu’r gorau allan o’r band.

Beth yw eich hoff gan ‘da chi wedi ei ysgrifennu?

Iwan sy’n sgwennu’r rhan fwyaf o’n caneuon ni. Fy ffefrynnau i ganddo fo ydi Ceffylau ar D’rannau, Can y Capten Llongau a Draw Dros y Mynydd

Beth yw eich hoff gan nad yda chi wedi ei ysgrifennu?

Mi oni’n trio meddwl be di’n hoff ganeuon i diwrnod o’r blaen… ar hyn o bryd mae hi rhwng Jolene (Dolly Parton), Something Changed (Pulp) a Running Scared (Roy Orbison)… neu ella S.O.S gan ABBA… neu Go Your Own way gan Fleetwood Mac… dwnim!

Cliciwch yma i wrando ar Cowbois Rhos Botwnnog!

cyfweliad – Y Reu

Wrth dderbyn atebion y cwestiynnau yma gan Math o’r band o Gaernarfon, Y Reu, nesh i ista mewn ffit o giggles am riw 10 munud go dda.. A’r peth cynta’ i ddod i ‘mhen i? Ma’r bois yma cwl a dwisho mynd am beint neu ddau efo nw! Wedi cael eu cynnwys yn rhestr caneuon 10 Uchaf 2014 ar wefan Golwg360, mae’r band yn diddanu’r Cymry gyda’u swn unigryw iawn. 

Cliciwch yma i wrando ar ychydig o’u caneuon!

image

Sut wnaethoch chi ddod o hyd i enw’r band?
Odda ni angen enw a “Reu” yw’r gair orau erioed. Ffaith.

Os fysa chi’n cael y cyfle i berfformio ar unrhyw lwyfan yn y byd, lle fysa chi isho perfformio?
Sa rwla tha Red Rocks yn quality.

Beth ydi’r darn o gyngor gora’ yda chi erioed wedi ei gael?
“F**k b****es, get money.” (B.Smalls, 1995)

Beth oedd y neges destun ddwytha i chi yrru?
Yr emoji na o pw yn gwenu

Beth ydi’r gig gora’ da chi erioed wedi ei wneud?
Probably’r ymarferion da ni’n cael yn fy nhy i o flaen y gath lle da ni’n chwarae bob dim yn berffaith cyn dechra ar y cwrw a messio bob dim fyny ar y llwyfan!

Pwy yw eich ysbrydoliaeth?
Tomos Williams. Boi da, boi sesh.

Oes gennych chi unrhyw ‘secret talents’?
Dwi’n rili dda yn twyllo pobol i fewn i feddwl bo fi’n gallu chwarae gitar i safon.

Beth yw eich hoff musical?
Dwi’n casau musicals!

Beth yw eich hoff gan i ganu ar karaoke?
Does ginai’m hoff gan i ganu ar karaoke rili, ma’n dibynu ar be ma’r jagermeister yn ddewis y noson yna.

Mae Haf/Darnau Bach ar gael ar iTunes nawr!

image

When I received the answers from Math, Y Reu frontman, to the questions I sent him, I sat in a fit of giggles for a good 10 minutes… And the first thought that came to my head? These boys are cool and I’d love to go out for a drink or three with them! Having been included in Golwg360’s top 10 singles for 2014, Y Reu are entertaining the Welsh population with their very unique sound.

Click here to listen to some of their songs!

How did youcome up with the name of the band?
We
needed a name and “Reu” is the best word ever. Fact.

If
you could perform on any stage in the world, where would it be?

Somewhere
like Red Rocks would be quality.

What
is the best piece of advice you’ve ever been given?

“F**k
b****es, get money.” (B.Smalls, 1995)

What
was the last text you sent?

That
emoji of the smiling poo 

What’s
the best gig you’ve ever done?

Probably
the practise we do in my house infront of the cat where we play everything
perfectly before starting on the beer and messing everything up on stage!

Who
is your inspiration?

Tomos
Williams. Boi da, boi sesh.

Do
you have any secret talents?

I’m
really good at making people believe that I can play the guitar to a good
standard.

What
is your favourite musical?

I hate
musicals!

What
is your favourite song to sing on karaoke?

I don’t
have a favourite song to sing on karaoke really, it depends on what the
jagermeister chooses on the night.

Haf/Darnau Bach is available on iTunes now!