cyfweliad – Cowbois Rhos Botwnnog

image

Tybiaf fod Cowbois Rhos Botwnnog, band o Ogledd Cymru, yn hen gyfarwydd gyda byd cerddoriaeth Cymraeg erbyn hyn. Yn fand ers 2006, mae nhw wedi chwarae nifer fawr iawn o gigs a cyd-weithio gyda artistiaid fel Gwyneth Glyn.

Cefais gyfle sydyn i ofyn i Aled ychydig o gwestiynnau!

Sut wnaethoch chi benderfynnu creu’r band?

Mi oedd Dafydd a fi (Aled) mewn band yn barod. Mi oedd Iwan wedi dechrau chwara’ gitar a chyfansoddi, felly mi oedd o’n gam eitha naturiol i ni dechrau band.

Beth ydi’r darn o gyngor gora’ yda chi erioed wedi ei gael? 

Never trust a man who wears both a belt and suspenders

Os fysa chi’n cael y cyfle i berfformio ar unrhyw lwyfan yn y byd, lle fysa chi isho perfformio? 

Dani wedi bod yn eitha lwcus a chael chwarae mewn dipyn o lefydd unigryw – os fysa ni heb gael gwneud yn barod mae’n siwr y byddai Ynys Enlli wedi bod yn ateb. Mi fysa Ty Opera Sydney yn ddigon difyr dwi’n siwr, neu long danfor.

Beth ydi’r gig gora’ da chi erioed wedi ei wneud? 

Mae na ambell un cofiadwy wedi bod… mae Clwb Rygbi Dolgellau yn ystod Sesiwn Fawr 2007 yn un dwi’n gofio’n dda, dwi erioed wedi gweld nunlle mor llawn! Mae Maes B wastad yn gret hefyd ac yn medru tynnu’r gorau allan o’r band.

Beth yw eich hoff gan ‘da chi wedi ei ysgrifennu?

Iwan sy’n sgwennu’r rhan fwyaf o’n caneuon ni. Fy ffefrynnau i ganddo fo ydi Ceffylau ar D’rannau, Can y Capten Llongau a Draw Dros y Mynydd

Beth yw eich hoff gan nad yda chi wedi ei ysgrifennu?

Mi oni’n trio meddwl be di’n hoff ganeuon i diwrnod o’r blaen… ar hyn o bryd mae hi rhwng Jolene (Dolly Parton), Something Changed (Pulp) a Running Scared (Roy Orbison)… neu ella S.O.S gan ABBA… neu Go Your Own way gan Fleetwood Mac… dwnim!

Cliciwch yma i wrando ar Cowbois Rhos Botwnnog!