Shwmae Su’mae!

DIWRNOD-SHWMAE-SUMAE-TITLE-PIC.jpg

Su’mae! Dydd Sul nesaf, y 15fed o Hydref, fydd pobl ledled Cymru yn dathlu diwrnod Shwmae Su’mae. ‘Da chi’n siΕ΅r o fod wedi gweld lluniau a phosteri’r ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol yn yr wythnosau diwethaf!

Ond sut mae mynd ati i ddathlu a chymryd rhan?

Mynychu digwyddiad

Mae llu o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal i ddathlu Diwrnod Shwmae Su’mae. Yda chi’n mynychu un, neu’n cynnal un eich hun?

Cliciwch yma i weld pa ddigwyddiadau sy’n mynd ymlaen!

Matiau Cwrw

Mae Matiau Cwrw i ddathlu’r diwrnod wedi cael eu creu… Yda chi wedi gweld rhai?

 

Dathlu yn yr ysgol

Gan fod Diwrnod Shwmae Su’mae ar ddydd Sul eleni, mae nifer o ysgolion yn dathlu ar y dydd Gwener cynt, fel Ysgol Cwm Garw!

Rhannu’r negesΒ  ar lein!

Gyda un clic, allwch chi gefnogi Diwrnod Shwmae Su’mae. Allwch chi rannu neges gyda’ch ffrindiau ar unrhyw wefan cymdeithasol, a defnyddiwch yr hashnod #ShwmaeSumae ac efallai fydd yr hashnod yn trending erbyn diwedd y dydd!

YSBRYD-oliaeth Calan Gaeaf

YSBRYD(OLIAETH)-CALAN-GAEAF.jpg

Mae’r mis hir-ddisgwyliedig, spwci yma! Gyda Calan Gaeaf ychydig dros tri wythnos i ffwrdd, yda chi wedi meddwl am sut i wisgo blwyddyn yma?

Dyma luniau i’ch YSBRYD-oli…

  1. Prin ar amser ac yn giamstar gyda colur?

2. Os yda chi’n ffan mawr o Mean Girls

3. Babi yn y ty?

4. Os gyna chi lot o amser ar eich dwylo…

5. Yda chi’n DALLd? Haha!

6. Mae PAWB wedi gwisgo fel cath ddu rhyw ben… ond beth am Cheshire Cat?

7. Oh my! Syniad ar gyfer grwp (a ci) …

8. Syniad.. rubbish…

(COFIWCH, os yda chi am wisgo fel bin du PLIS gwnewch yn siwr eich bod chi’n defnyddio golau/rhywbeth sy’n adlewyrchu golau ceir)

Helo Hydref!

HELO-HYDREF.jpg

Mae ‘na ddau fath o berson yn y byd ‘ma.

Yn gyntaf, yr Hydref-Garwyr. Y rhai sy’n gorfoddelu yn nhywydd crisb yr Hydref drwy gal yn rili cyffrous (weithia’n rhy gyffrous) ar Γ΄l sefyll ar deilan farw crynshi ac yn paratoi byrddau Pinterest gyda theitlau ‘Halloween Bakes’ a ‘DIY Halloween Decor’ ac, yn fy achos i, ‘Halloween Costumes with Bump’.

Yna, yn ail, gyna chi’r rhai sydd jest ddim yn bothered. Y rhai sy’ ddim yn cymryd sylw o’r concyrs (achos ma’ nw’n boncyrs) a’r rhai sy’n troi eu trwyna ar Pumpkin Spice Lattes (achos, eto, ma’ nw’n boncyrs). Tydw i ddim yn deall y bobl yma.

Beth bynnag yda chi’n feddwl o’r mis yma, mae o’n gychwyn ar gyfnod llawn bwrlwm. Calan gaeaf, noson tan gwyllt a’r Nadolig. Bwyd, bwyd a bwyyyyyd! Ac, i fi, fydd hi’n dymor yr Hydref/Gaeaf prysurach na’r arfer, achos SPLASHDOWN IS IMMINENT!

Be’ ‘da chi’n edrych ymlaen at adeg yma o’r flwyddyn?

Gwobr Gerddoriaeth Gymreig

GWOBR-GERDDORIAETH-GYMREIG.jpg

Mae sin cerddoriaeth Cymraeg wedi bod yn fwrlwm ers cyn cof, ond mae’n teimlo fel mai dim ond rΕ΅an mae’r bwrlwm yn berwi drosodd ac yn dal sylw’r genedl go iawn.

Wythnos dwythaf, rhyddhawyd y rhestr fer ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2017. Mae’r rhestr llawn amrywiaeth – o artistiaid sydd wedi bod ar y rhestr, ac ennill, o’r blaen i rai sy’n newydd sbon.

Dwi’n teimlo fod y cyffro o gwmpas y wobr yma ar y cyfryngau cymdeithasol wedi cynyddu’n ara’ deg dros y blynyddoedd, a wir i chi roedd hi’n fwy anodd osgoi newyddion am y wobr nag ydi hi i osgoi’r malu awyr am y Kardashians (er dwi wedi rhoi’r gair ‘Kardashian’ fel blocked word ar Twitter, mor mor MOR annoying).

Fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yng Nghaerdydd mis nesaf.

Y 12 sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ydi:

Baby Queens – ‘Baby Queens’

Bendith – ‘Bendith’

Cotton Wolf – ‘Life in Analogue’

The Gentle Good – ‘Ruins/Adfeilion’

Georgia Ruth – ‘Fossil Scale’

Gruff Rhys – ‘Set Fire To The Stars’

H Hawkline – ‘I Romanticize’

HMS Morris – ‘Interior Design’

Kelly Lee Owens – ‘Kelly Lee Owens’

Mammoth Weed Wizard Bastard – ‘Y Proffwyd Dwyll’

Sweet Baboo – ‘Wild Imagination’

Toby Hay – ‘The Gathering’

Cyllid, cyfranwyr a chymorth!

EHANGU-LLIO-ANGHARAD-CYMRU.jpg

Ella fod rhai ohona chi yn ymwybodol fod planiau ar y gweill i ehangu’r wefan blog yma i fod yn fel mega-swpyr-osym gwefan cylchgrawn. Oooond, mae angen chydig bach o help… Da ni angen cyllid, cyfranwyr a chymorth. Allwch chi helpu?

Cyllid

Mae rhedeg blog heb gyllid wedi bod yn her. Er mwyn ehangu, mae angen ‘chydig bach o help llaw. Os yda chi’n gallu, fysa help yn cael ei werthfawrogi’n fawr iawn a gewch chi ypdets di-ri!

Cliciwch yma i fynd i’r tudalen crowdfunding: https://www.crowdfunder.co.uk/llioangharad-cymru

Cyfranwyr

Os yda chi eisio bod yn ran o dim arbennig a chyffrous, cysylltwch am fwy o wybodaeth!

contact@llioangharad.cymru

Cymorth

Cymorth ydi be ‘da ni angen fwy na dim byd arall. Dilynwch y tudalennau cymdeithasol!

Twitter

Facebook

Instagram

Olew

OLEW-BOCS

Mae chwilio am gynnyrch gwalld sy’n cadw’r curls yn eu lle yn iawn yn FELLTITH.

MELLTITH. PUR.

Mae mws yn pwyso’r gwallt i lawr, mae olewau o siopa’r stryd fawr yn rhy… olew-y (ydi huna’n air?).

Felly allwch chi ddychmygu pa mor hapus oeddwn i i ddarganfod Olew?

Mae’r majic mewn botal yn cael ei greu yn Llundain gan Gymraes ac os yda chi isho prawf ar ba mor wych ydi’r cynnyrch yma, ewch draw i’r tudalen Instagram i weld pa mor #hairgoals ydi gwallt y crΓ«wr.

OLEW

 

Felly, sud ydwi’n defnyddio Olew? Mewn tri cam rili, rili, swpyr syml.

  1. Golchi’r gwallt
  2. Troi’r pen ‘upside down’, rhoi ‘chydig bach o olew yn y gwallt a sgrynsho’r gwallt
  3. Rhoi hen tshirt am y pen a disgwl i’r gwallt sychu!

A dyna fo! Syml iawn a mae’n arbed defnyddio cynnyrch gwres, felly dim difrod i’r gwallt!

Ehangu’r wefan

DJhj316XkAAcW1N

Mae gwefan LlioAngharad.Cymru wedi bodoli ers dros dwy flynedd bellach! Felly, mae’n hen bryd edrych ar ehangu’r wefan a weld be allwn ni wneud i gyfrannu i gynnwys Cymraeg y byd digidol.

Mae eich barn chi yn hanfodol yn hyn. Chi sy’n darllen, felly chi sy’n bwysig!

Hoffwn i chi lenwi holiadur byr, a gallwch wneud hynny drwy dilyn y linc yma:

http://www.smartsurvey.co.uk/s/8XNCU/

A cofiwch, os yda chi efo unrhyw sylw, mae wastad croeso i chi gysylltu.

Difetha Llyfr Mewn Llythyren

DIFETHA-LLYFR-TITLE-PIC.jpg

Be 'da chi'n gal pan 'da chi'n cyfuno Twitter a'r Gymraeg?

Comedi pur a lot o chwerthin!

Un o'r hashtags oedd yn boblogaidd yn y dyddiau dwytha' oedd #RuinABookInOneLetter a wir i chi oedd yr ymatebion i lyfrau Cymraeg yn hileriys. Ddim yn coelio fi? Darllenwch ymlaen…

Yda chi'n gallu difetha llyfr mewn un llythyren?