Gwobr Gerddoriaeth Gymreig

GWOBR-GERDDORIAETH-GYMREIG.jpg

Mae sin cerddoriaeth Cymraeg wedi bod yn fwrlwm ers cyn cof, ond mae’n teimlo fel mai dim ond rŵan mae’r bwrlwm yn berwi drosodd ac yn dal sylw’r genedl go iawn.

Wythnos dwythaf, rhyddhawyd y rhestr fer ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2017. Mae’r rhestr llawn amrywiaeth – o artistiaid sydd wedi bod ar y rhestr, ac ennill, o’r blaen i rai sy’n newydd sbon.

Dwi’n teimlo fod y cyffro o gwmpas y wobr yma ar y cyfryngau cymdeithasol wedi cynyddu’n ara’ deg dros y blynyddoedd, a wir i chi roedd hi’n fwy anodd osgoi newyddion am y wobr nag ydi hi i osgoi’r malu awyr am y Kardashians (er dwi wedi rhoi’r gair ‘Kardashian’ fel blocked word ar Twitter, mor mor MOR annoying).

Fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yng Nghaerdydd mis nesaf.

Y 12 sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ydi:

Baby Queens – ‘Baby Queens’

Bendith – ‘Bendith’

Cotton Wolf – ‘Life in Analogue’

The Gentle Good – ‘Ruins/Adfeilion’

Georgia Ruth – ‘Fossil Scale’

Gruff Rhys – ‘Set Fire To The Stars’

H Hawkline – ‘I Romanticize’

HMS Morris – ‘Interior Design’

Kelly Lee Owens – ‘Kelly Lee Owens’

Mammoth Weed Wizard Bastard – ‘Y Proffwyd Dwyll’

Sweet Baboo – ‘Wild Imagination’

Toby Hay – ‘The Gathering’

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s