Ella fod rhai ohona chi yn ymwybodol fod planiau ar y gweill i ehangu’r wefan blog yma i fod yn fel mega-swpyr-osym gwefan cylchgrawn. Oooond, mae angen chydig bach o help… Da ni angen cyllid, cyfranwyr a chymorth. Allwch chi helpu?
Cyllid
Mae rhedeg blog heb gyllid wedi bod yn her. Er mwyn ehangu, mae angen ‘chydig bach o help llaw. Os yda chi’n gallu, fysa help yn cael ei werthfawrogi’n fawr iawn a gewch chi ypdets di-ri!
Cliciwch yma i fynd i’r tudalen crowdfunding: https://www.crowdfunder.co.uk/llioangharad-cymru
Cyfranwyr
Os yda chi eisio bod yn ran o dim arbennig a chyffrous, cysylltwch am fwy o wybodaeth!
contact@llioangharad.cymru
Cymorth
Cymorth ydi be ‘da ni angen fwy na dim byd arall. Dilynwch y tudalennau cymdeithasol!