Mae chwilio am gynnyrch gwalld sy’n cadw’r curls yn eu lle yn iawn yn FELLTITH.
MELLTITH. PUR.
Mae mws yn pwyso’r gwallt i lawr, mae olewau o siopa’r stryd fawr yn rhy… olew-y (ydi huna’n air?).
Felly allwch chi ddychmygu pa mor hapus oeddwn i i ddarganfod Olew?
Mae’r majic mewn botal yn cael ei greu yn Llundain gan Gymraes ac os yda chi isho prawf ar ba mor wych ydi’r cynnyrch yma, ewch draw i’r tudalen Instagram i weld pa mor #hairgoals ydi gwallt y crëwr.
Felly, sud ydwi’n defnyddio Olew? Mewn tri cam rili, rili, swpyr syml.
- Golchi’r gwallt
- Troi’r pen ‘upside down’, rhoi ‘chydig bach o olew yn y gwallt a sgrynsho’r gwallt
- Rhoi hen tshirt am y pen a disgwl i’r gwallt sychu!
A dyna fo! Syml iawn a mae’n arbed defnyddio cynnyrch gwres, felly dim difrod i’r gwallt!