Mae ‘na ddau fath o berson yn y byd ‘ma.
Yn gyntaf, yr Hydref-Garwyr. Y rhai sy’n gorfoddelu yn nhywydd crisb yr Hydref drwy gal yn rili cyffrous (weithia’n rhy gyffrous) ar ôl sefyll ar deilan farw crynshi ac yn paratoi byrddau Pinterest gyda theitlau ‘Halloween Bakes’ a ‘DIY Halloween Decor’ ac, yn fy achos i, ‘Halloween Costumes with Bump’.
Yna, yn ail, gyna chi’r rhai sydd jest ddim yn bothered. Y rhai sy’ ddim yn cymryd sylw o’r concyrs (achos ma’ nw’n boncyrs) a’r rhai sy’n troi eu trwyna ar Pumpkin Spice Lattes (achos, eto, ma’ nw’n boncyrs). Tydw i ddim yn deall y bobl yma.
Beth bynnag yda chi’n feddwl o’r mis yma, mae o’n gychwyn ar gyfnod llawn bwrlwm. Calan gaeaf, noson tan gwyllt a’r Nadolig. Bwyd, bwyd a bwyyyyyd! Ac, i fi, fydd hi’n dymor yr Hydref/Gaeaf prysurach na’r arfer, achos SPLASHDOWN IS IMMINENT!
Be’ ‘da chi’n edrych ymlaen at adeg yma o’r flwyddyn?