Shwmae Su’mae!

DIWRNOD-SHWMAE-SUMAE-TITLE-PIC.jpg

Su’mae! Dydd Sul nesaf, y 15fed o Hydref, fydd pobl ledled Cymru yn dathlu diwrnod Shwmae Su’mae. ‘Da chi’n siŵr o fod wedi gweld lluniau a phosteri’r ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol yn yr wythnosau diwethaf!

Ond sut mae mynd ati i ddathlu a chymryd rhan?

Mynychu digwyddiad

Mae llu o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal i ddathlu Diwrnod Shwmae Su’mae. Yda chi’n mynychu un, neu’n cynnal un eich hun?

Cliciwch yma i weld pa ddigwyddiadau sy’n mynd ymlaen!

Matiau Cwrw

Mae Matiau Cwrw i ddathlu’r diwrnod wedi cael eu creu… Yda chi wedi gweld rhai?

 

Dathlu yn yr ysgol

Gan fod Diwrnod Shwmae Su’mae ar ddydd Sul eleni, mae nifer o ysgolion yn dathlu ar y dydd Gwener cynt, fel Ysgol Cwm Garw!

Rhannu’r neges  ar lein!

Gyda un clic, allwch chi gefnogi Diwrnod Shwmae Su’mae. Allwch chi rannu neges gyda’ch ffrindiau ar unrhyw wefan cymdeithasol, a defnyddiwch yr hashnod #ShwmaeSumae ac efallai fydd yr hashnod yn trending erbyn diwedd y dydd!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s