Su’mae! Neu, yng ngeiria Mr Picton, “sut ma’ hi”?
Mae hi’n ddiwrnod Shwmae Su’mae! Os ‘da chi’n gallu osgoi tweets a posts y dathlu ar y gwefannau cymdeithasol, yna ‘da chi’n deud celwydd. Mae’n AMHOSIB.
Rydych yn siwr o weld y gwaith celf swyddogol gan Swci Deli (chwith) yn ffenestri siopa, ar bathodynau a hyd yn oed matiau cwrw, felly mae’n amhosib osgoi’r dathlu hyd yn oed os yda chi’n switcho‘ch ffons i ffwrdd.
Ac mae hynny’n beth hollol ffab, anhyroel a rili cŵl!
Dydd Gwener, roedd nifer o ysgolion yn brysur iawn yn dathlu’r diwrnod ledled y wlad, drwy rannu posteri yn y gymuned a chynnal gigs! Dyma rhai o’r tweets:
Ac mae Caffi Llaeth a Siwgr yn yr Hen Lyfrgell, Caerdydd, wedi ei addurno gyda’r dyluniad ôsym gan Swci Delic!
Ac mae’r mentrau iaith wedi bod yn hynod brysur hefyd!
A dyma Cwrw Llyn yn defnyddio’r matiau cwrw mwya lliwgar erioed:
Ond hwn ydi fy hoff tweet i… Sut ma’ hi?