Cadw’n Gynnes (a steilish) ar Noson Tân Gwyllt

CADWN-GYNNES-TITLE-PIC.jpg

Noson Tân Gwyllt! Ieiiii! Esgus i fynd i siopa am sgarff mawr newydd!

Mae’n anodd iawn cadw’n gynnes pan ‘da chi’n sefyll mewn cae o fwd yn disgwyl am y tân gwyllt (dydi nhw byth yn cychwyn ar amser, nadyn?). Felly dyma fy tips i ar sut i wisgo’n gynnes tra’n cadw’n steilish…

  1. Mwy nag un pâr o sana. Does ‘na ddim byd gwaeth ‘na traed oer, mor oer fel bo’ chi ddim yn gallu teimlo’ch traed mwyach! Felly, gwisgwch un pâr o sana tenau ac yna un pâr o rhai trwchus dros rheini. Cosyyyy.
  2. Pouches pocedi cynnes. Os ‘da chi ddim yn hollol siŵr be dwi’n sôn am, cliciwch yma i weld rhai rhad iawn ar wefan Primark. Mae rhain mor mor MOR handi. Rhowch un ym mhob poced. Gewch chi ddiolch i fi wedyn…
  3. Côt gyda hwd! Os dyda chi ddim yn ‘berson het’ yna cofiwch wneud yn siŵr fod gan eich côt hwd, oherwydd o’r pen mae gwres y corff yn dianc y cyflymaf! Neu, hyd yn oed os oes gyna chi het, fyddwch chi’n riiiili clyd efo het a hwd.
  4. Menig sy’ dal yn galluogi chi i ddefnyddio’ch ffôn. Anghofiwch am y pobl basic sy’n denfyddio menig mediocre. Mae menig yn bodoli sy’ dal yn galluogi chi i ddefnyddio’ch ffôn! Dim mwy o ffaffian yn trio tynnu’r menyig i ffwrdd er mwyn tynnu selffi! Cliciwch yma i weld rhai ar wefan ASOS.
  5. Y mwya’r sgarff, y gora’. Mae sgarff da yn hanfodol, achos os yda chi’n diweddu’n rhy boeth, fedrwch chi dynnu’r haen yna i ffwrdd. Ac os yda chi’n rhy oer, allwch chi swatio’n fwy tynn!

 

Am ysbrydoliaeth, cymerwch gip ar y bwrdd Pinterest isod:

Beth i wisgo: Darlithoedd

DARLITHOEDD-TITLE-PIC.jpg
Ysgrifennwyd y post yma gan Angharad Ellis

Y foment drist a thorcalonnus pan mae’r larwm yn sgrechian “coda” yn fy nghlust. Pan ti’n gweddïo mai hunllef ydy hyn a bod oriau nes amser codi. Anghywir.

Y cwestiwn mawr ydy, be’ wyt ti am wisgo pan ti’n rhedeg yn hwyr i dy ddarlith ac mae’r amynedd yn lleihau bob dydd?

Dw i’n un ofnadwy yn bersonol am fyw mewn jîns tynn du, ac felly dyna fy man dechrau bob amser. Felly i mi dw i’n canolbwyntio llawer mwy ar y rhan uchaf o’r wisg. Dw i wrth fy modd yn gwisgo glas tywyll, du a choch. Dyna fy lliwiau i, yn enwedig adeg hyn o’r flwyddyn. Mae gen i ddwy gôt goch ac felly mae’r rheiny’n gwneud i bob gwisg edrych yn well yn fy marn i. Adeg hyn o’r flwyddyn dw i’n mwynhau cadw at ddillad eithaf syml, sef siwmperi gwlanog, siwmperi â gwddf uchel, a blowsys.

Yn aml iawn dw i’n mynd i ‘H&M’ ac yn prynu topiau ysgafn eithaf plaen, rhai du a gwyn streipiog ac yn y blaen, ac maent yn braf i’w gwisgo efo jîns efo tyllau ynddynt, esgidiau ‘Superga’ lliw aur a siaced biws, ac weithiau ar ddyddiau oerach mi wnaf ychwanegu sgarff lliwgar er mwyn gwneud y wisg yn fwy deniadol.

Ar y cyfan dw i’n credu’n gryf mewn ychwanegu gemwaith, sgarffiau a siacedi/cotiau er mwyn gwneud i wisg edrych yn fwy deniadol. Un peth sy’n rhaid cofio ydy bod angen gwahaniaethu rhwng gwisgoedd bob dydd i ddarlithoedd a dillad mynd ar nosweithiau allan i’r dref. Mae’n bwysig peidio gwisgo’n rhy ffurfiol i ddarlithoedd gan nad oes gwahaniaeth ar nosweithiau allan wedyn.

Cadw gwisgoedd yn syml ydy fy nghyngor i, bob amser.

PANEL-TITLE-PIC.jpg

Fel dwi wedi sôn biliwn a hanner o weithiau, mae’r wefan yn ehangu!

Elfen bwysig iawn o’r wefan cylchgrawn yw’r ffaith fod barn y darllenwyr yn holl bwysig a fydd croeso cynnes i chi leisio’ch barn dwy’r adeg – ond yn fwy ‘na huna, fydd panel yn cael ei roi at ei gilydd ac mae cyfle i CHI fod arno.

Pwy sy’n cael fod ar y panel?

Pawb! Does dim oedran penodol, ‘da ni isho pobl o bob cwr Cymru ac o bob gallu Cymraeg.

Er bod y wefan cylchgrawn yn canolbwyntio ar ffasiwn, harddwch a newyddion cyfoes (selebs a.y.y.b.), does dim RHAID i chi fod efo diddordeb yn y pynciau yma. Os yda chi’n awyddus i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn ddigidol neu’n licio stwff technolegol fel creu a chynnal gwefannau, yna gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dangos diddordeb!

Beth yw pwrpas y panel?

I rannu syniadau er mwyn gwneud y wefan cylchgrawn mor llwyddiannus a sy’n bosib. Dim ond un brên sydd genai – dychmygwch beth allwn ni wneud efo mwy nag un brêns!

Fel rhan o’r panel, fyddwch chi’n cael cyfle i rannu syniadau mewn cyfarfod digidol misol.

Sut allai fod ar y panel?

Cysylltwch! Ar Facebook, Twitter neu anfonwch pijin. Allwch chi hefyd anfon ebost atai:

contact@llioangharad.cymru

10 DIY Calan Gaeaf

DIYS-CALAN-GAEAF.jpg

Llai ‘na wythnos tan y digwyddiad dychrynllyd ei hun, sef Calan Gaeaf!

Yda chi’n addurno’r tŷ neu’n cynnal parti? Efallai eich bod chi’n chwilio am hacs diog ar sut i droi pethau arferol, fel oren, i mewn i cynnyrch Calan Gaeaf sŵpyr-spŵci. A hyd yn oed os dyda chi ddim isho mynd i’r drafferth o dorri pwmpen, allwch chi dal creu cerflun iasol a llawn dychymyg!

Dyma ‘chydig o syniadau i’ch YSBRYD-oli (dwi byth am stopio iwsho’r pyn yna)…

 

1.

2.

3.

4.

5.

6.

7.

8.

9.

10.

Diwrnod Rhyngwladol y Sloth

SLOTH-TITLE-PIC.jpg

Heddiw, yr 20fed o Hydref, ydi Diwrnod Rhyngwladol y Sloth 2017!

I ddathlu, dyma ‘chydig o ffeithiau am y sloth, ac ambell i lun ciwt:

  • Dim ond unwaith yr wythnos fydd y sloth yn mynd i’r toilet a pan fydd  y sloth yn mynd i’r toilet, mae nhw’n deueddol o fynd yn yr un lle

  • Er fod y sloth yn enwog am fod yn rili diog, dim ond am tua 10 awr y diwrnod fydd y sloth yn cysgu

 

  • Mae crafangau’r sloth yn rhan adnabyddus o’u delwedd a hyd yn oed ar ol marw, mae’n bosib i’r sloth dal ei afael ar goeden

  • Mae sloth beichiog yn feichiog am tua 10 mis

 

  • Y sloth ydi’r mamal mwyaf araf yn y byd!

 

 

Er fod delwedd y sloth yn cael ei bortreadu ar lein a mewn ffilms fel cymeriadau doniol, diog a ciwt, mae’r diwrnod yma wedi cael ei greu gan sefydliad AIUNAU, sydd wedi ei leoli yng Ngholumbia, er mwyn hyrwyddo iechyd, lles a cadwraeth y sloth. Nid yw’r diwrnod yn cael ei adnabod fel diwrnod rhyngwladol swyddogol, mae’n dal yn bwsig rhannu’r gwaith mae sefydliadau fel AIUNAU a nodi pwysigrwydd eu gwaith.

Cystadleuaeth!

CYSTADLEUAETH-TITLE-PIC.jpg

Awydd ennill canhwyllau Charismatic Cat Candles, potel o Olew a coasters unigryw gan Cartref Llio? Darllenwch ymlaen!

I rhoi eich enw yn yr het, rhaid i chi wneud un neu mwy o’r canlynol:

  1. Rhannu a hoffi’r post ar y tudalen Facebook a hoffi’r tudalen
  2. Tagio ffrind yn y post ar y tudalen Facebook a hoffi’r tudalen
  3. Ail-drydar y post ar Twitter a fy nilyn ar Twitter (i wneud yn siwr allai cysylltu trw DM!)

A dyna’r cwbl!

Fydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar yr 2il o Dachwedd.

Mae gwneud un o’r camau uchod i gymryd rhan yn meddwl fod eich enw yn mynd i’r het bob tro. Er engraifft, os yda chi’n hoffi’r tudalen Facebook, hoffi a rhannu’r post, tagio ffrind AC ail-drydar, fydd eich enw yn mynd i’r het tair gwaith!

Cofiwch, os yda chi’n rhannu’r neges ar Facebook mae’n bwysig i hoffi’r post fel fy mod i’n gallu gweld pwy sydd wedi rhannu – allai ddim gweld enwa’r rhai sy’n rhannu!

Tymor newydd, cynnyrch newydd!

WGP-TITLE-PIC.jpg

Gyda tymor y Gemau Rygbi Rhyngwladol yr Hydref 2017 ar fin cychwyn, mae Welsh Girl Problems yn nodi’r achlysur drwy rhyddhau cynnyrch newydd.

RUGBY-CHILL-INSTA.jpg

Mae cyfrifon Welsh Girl Problems (@ProblemauMerch) wedi bod yn rhedeg ers 4 blwyddyn bellach ac mae’r cyfrif yn gyfrifol am pyst mae pob merch Cymraeg (bron) yn gallu uniaethu gyda, a’r thema rygbi yn reit amlwg. Er engraifft…

A rwan, mae’r siwmperi ‘Rugby and Chill’ poblogaidd y fenter wedi cael ei ryddhau yn y lliw “most requested”… du!

img_4056.jpg

Fyddai’n gwneud archeb ASAP, mewn maint mwy wrth gwrs oherwydd bumpage.

Cliciwch yma i fynd i’r dudalen archebu!

 

Diwrnod Shwmae Su’mae Hapus!

Su’mae! Neu, yng ngeiria Mr Picton, “sut ma’ hi”?

TITLE-PIC-SHWMAE.jpg

Mae hi’n ddiwrnod Shwmae Su’mae! Os ‘da chi’n gallu osgoi tweets a posts y dathlu ar y gwefannau cymdeithasol, yna ‘da chi’n deud celwydd. Mae’n AMHOSIB.

logo.jpgRydych yn siwr o weld y gwaith celf swyddogol gan Swci Deli (chwith) yn ffenestri siopa, ar bathodynau a hyd yn oed matiau cwrw, felly mae’n amhosib osgoi’r dathlu hyd yn oed os yda chi’n switcho‘ch ffons i ffwrdd.

Ac mae hynny’n beth hollol ffab, anhyroel a rili cŵl!

Dydd Gwener, roedd nifer o ysgolion yn brysur iawn yn dathlu’r diwrnod ledled y wlad, drwy rannu posteri yn y gymuned a chynnal gigs! Dyma rhai o’r tweets:

Ac mae Caffi Llaeth a Siwgr yn yr Hen Lyfrgell, Caerdydd, wedi ei addurno gyda’r dyluniad ôsym gan Swci Delic!

Ac mae’r mentrau iaith wedi bod yn hynod brysur hefyd!

A dyma Cwrw Llyn yn defnyddio’r matiau cwrw mwya lliwgar erioed:

Ond hwn ydi fy hoff tweet i… Sut ma’ hi?