Heddiw, yr 20fed o Hydref, ydi Diwrnod Rhyngwladol y Sloth 2017!
I ddathlu, dyma ‘chydig o ffeithiau am y sloth, ac ambell i lun ciwt:
- Dim ond unwaith yr wythnos fydd y sloth yn mynd i’r toilet a pan fydd y sloth yn mynd i’r toilet, mae nhw’n deueddol o fynd yn yr un lle
- Er fod y sloth yn enwog am fod yn rili diog, dim ond am tua 10 awr y diwrnod fydd y sloth yn cysgu
- Mae crafangau’r sloth yn rhan adnabyddus o’u delwedd a hyd yn oed ar ol marw, mae’n bosib i’r sloth dal ei afael ar goeden
- Mae sloth beichiog yn feichiog am tua 10 mis
- Y sloth ydi’r mamal mwyaf araf yn y byd!
Er fod delwedd y sloth yn cael ei bortreadu ar lein a mewn ffilms fel cymeriadau doniol, diog a ciwt, mae’r diwrnod yma wedi cael ei greu gan sefydliad AIUNAU, sydd wedi ei leoli yng Ngholumbia, er mwyn hyrwyddo iechyd, lles a cadwraeth y sloth. Nid yw’r diwrnod yn cael ei adnabod fel diwrnod rhyngwladol swyddogol, mae’n dal yn bwsig rhannu’r gwaith mae sefydliadau fel AIUNAU a nodi pwysigrwydd eu gwaith.