
Y foment drist a thorcalonnus pan mae’r larwm yn sgrechian “coda” yn fy nghlust. Pan ti’n gweddïo mai hunllef ydy hyn a bod oriau nes amser codi. Anghywir.
Y cwestiwn mawr ydy, be’ wyt ti am wisgo pan ti’n rhedeg yn hwyr i dy ddarlith ac mae’r amynedd yn lleihau bob dydd?
Dw i’n un ofnadwy yn bersonol am fyw mewn jîns tynn du, ac felly dyna fy man dechrau bob amser. Felly i mi dw i’n canolbwyntio llawer mwy ar y rhan uchaf o’r wisg. Dw i wrth fy modd yn gwisgo glas tywyll, du a choch. Dyna fy lliwiau i, yn enwedig adeg hyn o’r flwyddyn. Mae gen i ddwy gôt goch ac felly mae’r rheiny’n gwneud i bob gwisg edrych yn well yn fy marn i. Adeg hyn o’r flwyddyn dw i’n mwynhau cadw at ddillad eithaf syml, sef siwmperi gwlanog, siwmperi â gwddf uchel, a blowsys.
Yn aml iawn dw i’n mynd i ‘H&M’ ac yn prynu topiau ysgafn eithaf plaen, rhai du a gwyn streipiog ac yn y blaen, ac maent yn braf i’w gwisgo efo jîns efo tyllau ynddynt, esgidiau ‘Superga’ lliw aur a siaced biws, ac weithiau ar ddyddiau oerach mi wnaf ychwanegu sgarff lliwgar er mwyn gwneud y wisg yn fwy deniadol.
Ar y cyfan dw i’n credu’n gryf mewn ychwanegu gemwaith, sgarffiau a siacedi/cotiau er mwyn gwneud i wisg edrych yn fwy deniadol. Un peth sy’n rhaid cofio ydy bod angen gwahaniaethu rhwng gwisgoedd bob dydd i ddarlithoedd a dillad mynd ar nosweithiau allan i’r dref. Mae’n bwysig peidio gwisgo’n rhy ffurfiol i ddarlithoedd gan nad oes gwahaniaeth ar nosweithiau allan wedyn.
Cadw gwisgoedd yn syml ydy fy nghyngor i, bob amser.