PANEL-TITLE-PIC.jpg

Fel dwi wedi sôn biliwn a hanner o weithiau, mae’r wefan yn ehangu!

Elfen bwysig iawn o’r wefan cylchgrawn yw’r ffaith fod barn y darllenwyr yn holl bwysig a fydd croeso cynnes i chi leisio’ch barn dwy’r adeg – ond yn fwy ‘na huna, fydd panel yn cael ei roi at ei gilydd ac mae cyfle i CHI fod arno.

Pwy sy’n cael fod ar y panel?

Pawb! Does dim oedran penodol, ‘da ni isho pobl o bob cwr Cymru ac o bob gallu Cymraeg.

Er bod y wefan cylchgrawn yn canolbwyntio ar ffasiwn, harddwch a newyddion cyfoes (selebs a.y.y.b.), does dim RHAID i chi fod efo diddordeb yn y pynciau yma. Os yda chi’n awyddus i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn ddigidol neu’n licio stwff technolegol fel creu a chynnal gwefannau, yna gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dangos diddordeb!

Beth yw pwrpas y panel?

I rannu syniadau er mwyn gwneud y wefan cylchgrawn mor llwyddiannus a sy’n bosib. Dim ond un brên sydd genai – dychmygwch beth allwn ni wneud efo mwy nag un brêns!

Fel rhan o’r panel, fyddwch chi’n cael cyfle i rannu syniadau mewn cyfarfod digidol misol.

Sut allai fod ar y panel?

Cysylltwch! Ar Facebook, Twitter neu anfonwch pijin. Allwch chi hefyd anfon ebost atai:

contact@llioangharad.cymru

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s