Cadw’n Gynnes (a steilish) ar Noson Tân Gwyllt

CADWN-GYNNES-TITLE-PIC.jpg

Noson Tân Gwyllt! Ieiiii! Esgus i fynd i siopa am sgarff mawr newydd!

Mae’n anodd iawn cadw’n gynnes pan ‘da chi’n sefyll mewn cae o fwd yn disgwyl am y tân gwyllt (dydi nhw byth yn cychwyn ar amser, nadyn?). Felly dyma fy tips i ar sut i wisgo’n gynnes tra’n cadw’n steilish…

  1. Mwy nag un pâr o sana. Does ‘na ddim byd gwaeth ‘na traed oer, mor oer fel bo’ chi ddim yn gallu teimlo’ch traed mwyach! Felly, gwisgwch un pâr o sana tenau ac yna un pâr o rhai trwchus dros rheini. Cosyyyy.
  2. Pouches pocedi cynnes. Os ‘da chi ddim yn hollol siŵr be dwi’n sôn am, cliciwch yma i weld rhai rhad iawn ar wefan Primark. Mae rhain mor mor MOR handi. Rhowch un ym mhob poced. Gewch chi ddiolch i fi wedyn…
  3. Côt gyda hwd! Os dyda chi ddim yn ‘berson het’ yna cofiwch wneud yn siŵr fod gan eich côt hwd, oherwydd o’r pen mae gwres y corff yn dianc y cyflymaf! Neu, hyd yn oed os oes gyna chi het, fyddwch chi’n riiiili clyd efo het a hwd.
  4. Menig sy’ dal yn galluogi chi i ddefnyddio’ch ffôn. Anghofiwch am y pobl basic sy’n denfyddio menig mediocre. Mae menig yn bodoli sy’ dal yn galluogi chi i ddefnyddio’ch ffôn! Dim mwy o ffaffian yn trio tynnu’r menyig i ffwrdd er mwyn tynnu selffi! Cliciwch yma i weld rhai ar wefan ASOS.
  5. Y mwya’r sgarff, y gora’. Mae sgarff da yn hanfodol, achos os yda chi’n diweddu’n rhy boeth, fedrwch chi dynnu’r haen yna i ffwrdd. Ac os yda chi’n rhy oer, allwch chi swatio’n fwy tynn!

 

Am ysbrydoliaeth, cymerwch gip ar y bwrdd Pinterest isod:

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s