Chwilio am rywbeth cyffrous i wneud penwythnos nesaf? Beth am fynd am drip bach a trîtio’ch hun i ddarn bach vintage ym Marchnad Retro Vintage yn Shed, Felinheli…
Fyddwch chi’n dod o hyd i gynnyrch nad yda chi wedi dod ar eu traws o’r blaen yn y farchnad, gan gynnwys cynnyrch gan:
- Cush – clustogau unigryw wedi’i wneud o wlân Cymraeg
- Eat Sleep Organic – smŵddis a sudd organig
- Roberts & Astley – dodrefn vintage!