If your decor doesn’t include a light up letter, then what are u even doing? 💁🏻 C for @cariowen1044 who is Cute and Cool, eventhough I have to nudge her to work on her presentation for school every 5 mins 🙄
Wti di neud o eto Cari?????
.
.
.
.
#letter #light #decor #white #cute #sisters #bestsisters #bestfriends
Yng Nghymru, fe gei dalent a creadigrwydd di-ri. Yn cyflwyno… Lora Wyn. Mae hi’n creu gemwaith enamel, fel y necklace yma. Mae ei gwefan llawn trysirion, sy’n berffaith ar gyfer anrheg neu just fel trit bach i chi’ch hun! Cliciwch yma i weld mwy.
Ac i orffen awn i’n ol i’r Stryd Fach ac i gynnyrch arall gan Mamasam. Dwi’n joio make up bag lush, a ma hwn yn super lush (neu ffabiwlas). Mae’r defnydd i weld reit gryf, sy’n handi os, fel fi, gyna chi LLWYTH o make up achos da chi’n anghofio taflu stwff allan. Cliciwch yma i’w weld.
Heddiw, dwi 17 wsos i fewn i adventure awesome ‘ma 💜 Kicks bach cryf gan bubba 👶🏻 bob nos pan dwi’n gwely. Methu aros am y scan nesa i weld os mai stwnshyn neu stwnshan sydd yna 🤰🏻
.
.
.
.
#disgwlbabi #ukparentingbloggers #pregnancy #17weeks
O tywydd braf ac awyr clir.. a wnei di ddychwelyd? ☀️💁🏻 Oh lovely weather.. when will you return?
.
.
.
.
.
#anglesey #ynysmon #cymru #wales #beach #summer #sand #sea #sun
Mae ‘fast fashion’ yn rhywbeth sy’n gyfarwydd iawn i ni. Dyma yw’r norm bellach.
Ond, ydi ffasiwn yn mynd i gyflymu ymhellach?
Croeso i’r trend, ‘gweld nawr, prynnu nawr’.
Fel arfer ym mis Chwefror neu Mawrth mae casgliadau Hydref Gaeaf
yn cael eu harddangos er tydi’r casgliadau ddim ar gael i’w prynnu am sbel
fach wedi’r sioe. Bellach, mae mwy a mwy o tai dylunio yn cyflwyno’r syniad o allu archebu dillad o’r casgliad yn syth wedi’r sioe.
A’r diweddara’ i gyhoeddi eu bod yn defnyddio’r syniad
yma? H&M.
Yn ol Pernilla Wohlfahrt, pennaeth dylunio gyda H&M, mae hwn yn
nodi cyfnod newydd yn y diwylliant ffasiwn, ble fydd casgliadau ar gael
yn syth ar ol y sioe.
Fydd y sioe ffasiwn H&M yn cael ei gynnal yn Wythnos Ffasiwn Paris ar Fawrth y 1af
3. Fel arfer, mae dylunwyr a stylists yn ymladd i wisgo teulu’r arlywydd yn America. Ond a’i dyma’r achos gyda Melina ac Ivanka Trump? Cliciwch YMA i ddarllen yr erthygl.
Mis dwytha, ges i wahoddiad i Miskin Manor i cael edrychiad ecsgliiiiiwsif ar gasgliad newydd Honey Bee Beautiful. Ges i llond llaw o gynnych i drio a ma’n saff i ddweud mod i wedi ffeindio fy hoff cynnyrch croen erioed!
Mae Honey Bee Beautiful yn cynnig cynnyrch harddwch ar gyfer y croen sydd wedi eu gwneud gyda mel naturiol. Wedi eu gwneud gyda llaw gan Catherine, y sylfaenwr, mae amryw o wahanol cynnyrch i gael, beth bynnag yw cyflwr eich croen!
Oeddwn i wedi bwriadu gwneud y post yma ychydig ar ol y digwyddiad yn Miskin Manor, ond wnes i benderfynnu trio’r cynnyrch go iawn a rhoi ychydig o amser iddo cyn rhoi beirniadaeth iawn arno!
Y tro cyntaf i mi defnyddio cynnyrch o’r casgliad Busy Bee, oeddwn i’n reit impressed. Oedd o’n gadael y croen yn lan a ffres ag oni’n teimlo fel mod i’n actually glowing. Ar y pwynt yma, oni’n wedi gwirioni, ond SURELY oedd hyn yn “too good to be true”? Felly penderfynnais rhoi amser iddo, cario mlaen defnyddio’r cynnyrch, gweld beth fydd yn digwydd. Fyddai yr un mor hapus mewn ychydig wythnosau? Spoiler alert: dwi DAL wedi hollol GWIRIONI gyda rhain. Dwi’n obsessed.
Felly lle fedrwch chi cael gafael ar yr aur yma? Ewch draw i honeybeebeautiful.co.uk A peth arall sy’n hollol wych ydi mae popeth, y labeli a’r cyfarwyddiadau, yn ddwyieithog!