
Mis dwytha, ges i wahoddiad i Miskin Manor i cael edrychiad ecsgliiiiiwsif ar gasgliad newydd Honey Bee Beautiful. Ges i llond llaw o gynnych i drio a ma’n saff i ddweud mod i wedi ffeindio fy hoff cynnyrch croen erioed!
Mae Honey Bee Beautiful yn cynnig cynnyrch harddwch ar gyfer y croen sydd wedi eu gwneud gyda mel naturiol. Wedi eu gwneud gyda llaw gan Catherine, y sylfaenwr, mae amryw o wahanol cynnyrch i gael, beth bynnag yw cyflwr eich croen!

Oeddwn i wedi bwriadu gwneud y post yma ychydig ar ol y digwyddiad yn Miskin Manor, ond wnes i benderfynnu trio’r cynnyrch go iawn a rhoi ychydig o amser iddo cyn rhoi beirniadaeth iawn arno!
Y tro cyntaf i mi defnyddio cynnyrch o’r casgliad Busy Bee, oeddwn i’n reit impressed. Oedd o’n gadael y croen yn lan a ffres ag oni’n teimlo fel mod i’n actually glowing. Ar y pwynt yma, oni’n wedi gwirioni, ond SURELY oedd hyn yn “too good to be true”?
Felly penderfynnais rhoi amser iddo, cario mlaen defnyddio’r cynnyrch, gweld beth fydd yn digwydd. Fyddai yr un mor hapus mewn ychydig wythnosau?
Spoiler alert: dwi DAL wedi hollol GWIRIONI gyda rhain. Dwi’n obsessed.

Felly lle fedrwch chi cael gafael ar yr aur yma? Ewch draw i honeybeebeautiful.co.uk
A peth arall sy’n hollol wych ydi mae popeth, y labeli a’r cyfarwyddiadau, yn ddwyieithog!
Un sylw am “Honey Bee Beautiful”