Trîtio’ch Hun

TRITIO'CH-HUN-TITLE-PIC.jpg

Diwrnod Santes Dwynwen… Diwrnod o dderbyn neu roi blodau, anrhegion, cardyn, swsus…

OND be sy’n digwydd os nad oes ganddoch chi rhywun i ddathlu gyda? Pwy ‘da chi’n brynu cardyn cawslyd i wedyn? Pwy fydd yn prynu trît bach i chi wedyn?

Yr ateb: CHI!

Wel, peidiwch a prynnu cardyn i chi’ch hun. Ma’ huna yn jyst wiyrd.

Y peth gora am brynu trît bach i chi’ch hun yda ‘da chi’n cael dewis be ‘da chi’n gal a dwi yma i gynnig syniada’.

 

Mae’r eitemau canlynol yn gael eu creu a gwerthu gan fusnesau annibynnol.

Spacemasks

Yn syml, mwgwd llygaid ydi Spacemasks i’w wisgo gyda’r nos. Mae’r mwgwd yn gafael yn eich pryderon ac yn eu taflu trwy’r ffenest ac yn eich anfon i gwsg o’r safon uchaf posib. Mae’r bocs o bump yn costio £15 ar eu gwefan, neu os ewch chi ar wefan Lobella Loves allwch chi archebu un mwgwd am £3.50 heb gost postio. Am y pris yna, allwch chi ddweud na?!IMG_3974.JPG

Lobella Loves

Tra dwi’n sôn am Lobella Loves, mae’r wefan yma yn llawn trîts bach neis i famau a dwi’n amau mod i’n gaeth i’r wefan yma… Wps! Dwi’n berchennog balch o LOT o eitemau o’r wefan yma, gan gynnwys y siwmper “Mother Like No Other” ac os yda’ chi’n  fy nilyn ar Instagram, fyddwch chi’n sylwi mod i’n gwisgo’r siwmper mewn nifer fawr o’n Instagram Stories!

Be sy’n wych am y wefan yma ydi eu bod yn cefnogi busnesi bychain ledled Prydain ac mae’r postio am ddim. Nid yn unig hynny, ond mae rhan o arian o bob un gwerthiant yn cael ei roi i elusen Cocoon Family Support, sy’n cefnogi dioddefwyr iselder ar ôl geni.

Ewch draw i’r wefan i weld os oes rhywbeth ‘da chi ffansi!

Honey Bee Beautiful

Beth am pampro’ch hun? Mae cynnyrch Catherine wedi eu gwneud o fêl a wir i chi, maen nhw’n gwneud gwyrthiau.

Nôl yn 2016 es i draw i’r lansiad ac roeddwn i’n awyddus iawn i drio’r cynnyrch yn syth ar ôl mynd adra. Dwi’n rili deud y gwir pan dwi’n deud mai hwn ydi’r cynnyrch croen gora’ i mi erioed ei drio achos ar ôl un defnydd roedd fy nghroen yn nefolaidd.

Dyfal Donc

Ar ôl cael cwsg da a pampro’ch croen, beth am ddathlu’r ffaith eich bod chi’n werth y trîts i gyd gyda thrysor bach lysh o Dyfal Donc?

Mae Dyfal Donc yn cynnig llu o eitemau gyda dyluniau na fyddwch chi’n gallu ffeindio yn unman arall. Ma’ nw wir yn sbeshal!

Fy ffefryn i yw’r mwclis yn y llun sy’n dweud “Werth y Byd”. Mae’r lliw glas ffres yn mynd yn neis gyda bron bob gwisg a gallwch chi ddim peidio cerdded gyda naid yn eich cam pan ‘da chi’n ei wisgo.

 

Un sylw am “Trîtio’ch Hun

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s