Rhaid cael anrheg arbennig i Mam ar Sul y Mamau, boed hynny’n mwsh neu’n fyg.
Ar achlysuron fel hyn, mae siopa gyda busnesau annibynnol nid yn unig yn bwysig ond yn ffordd wych o ddod o hyd i anrheg fydd neb arall wedi prynu ac anrheg fydd yn siŵr o gael ei werthfawrogi.
Don’t Buy Her Flowers
Y lle cyntaf hoffwn ei awgrymu ydi Don’t Buy Her Flowers. Cafodd y fenter yma ei gychwyn gan fam ar ôl iddi dderbyn gymaint o flodau i’w llongyfarch ar enedigaeth ei phlentyn, allai ddychmygu fod y lle fel Pili Palas! I gychwyn, y syniad oedd cynnig cynnrch fel anrheg i famau newydd oedd ddim yn flodau, trîts amgen i’r fam. Bellach, mae’r cwmni yn cynnig bocsys o trits ar gyfer wahanol achlysuron, gan gynnwys Sul y Mamau! Gyda Don’t Buy Her Flowers, mae dewis y cynnyrch yn hawdd a’r pacio wedi’i wneud i chi!
Rheswm arall i archebu gan Don’t Buy Her Flowers ydi mae £1 o bob archeb yn cael ei roi i Kicks Count, mudiad sy’n codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd symudiadau babis yn ystod beichiogrwydd ac yn rhoi’r hyder i ferched i wybod pryd allai rhywbeth fod o’i le er mwyn cael help yn yr ysbyty.
Lobella Loves
Dwi wedi sôn am y wefan yma yn barod, ond allai ddim peidio sôn amdano! Ar wefan Lobella Loves, fe ddowch chi o hyd i amryw o anrhegion fydd eich mam neu nain (neu unrhyw un, mewn gwirionedd!) yn mwynhau. Dwi wir yn argymell y mwgwd cwsg Spacemasks ac mae bisgedi Lady Bakewell-Park bron yn edrych rhy neis i’w bwyta, yn enwedig os ‘da chi’n personaleiddio’r bisgedi!
Yn ogystal â chynnyrch ffab, does dim cost cludiant ac mae rhan o’ch arian yn cael ei roddi i elusen sy’n helpu gydag iselder ôl-eni.
Y Stryd Fach
Am gynnyrch gan grewyr Cymraeg, mae’r Stryd Fach yn siop-un-stop. Yma, gwelwch emwaith gorjys, fel y rhai allwch chi bersonaleiddio gan Bodoli, ac mae mur-gelfi di-ri, fel yr un cardia ‘Mam’ gan Caligraffion.
Cardiau
Mae cardiau yn rhan fawr o Sul y Mamau, yn amlwg! Allwch chi wneud un yn hawdd, ond be os ‘da chi’n ddiog (fel fi)?
Ceir llu o ddylunwyr talentog yng Nghymru sy’n cynnig cardiau, a dyma ddetholiad bach o fy ffefrynnau: