Busnes Bach Mis Mawrth: Olew

OLEW-TITLE-PIC.jpg

Pan 'da chi'n prynnu potel o olew, 'da chi'n prynnu hyd a lledrith ym myd y gwallt cyrliog.

Mae Olew yn cael ei wneud gyda llaw gan Elinor yn Leyton a mae'n digon teg dweud fod hi'n ferch dewr ac ysbrydoledig iawn wedi iddi adael ei swydd er mwyn achub cyrls y genedl.

Dwi'n dyst i'r majic sydd yn y potel; mae o wir yn codi cyrls (er mod i'n sythu fy ngwallt lot gormod, ond shhhh), felly oni'n meddwl fod Olew yn llawn haeddu fod yn fusnes y mis mis Mawrth.

Pam wnes di benderfynnu gwerthu Olew?

Oeddwn yn creu Olew am rai blynyddoedd cyn gwerthu i fy ngwallt fy hun. Ar y pryd, ni allwn ni ddod o hyd i gynnyrch oedd yn gweithio ar fy ngwallt. Roedd fy ngwallt yn sych iawn, ddim yn tyfu llawer ac roedd y cwrls yn frizzy ac i gweud y gwir toedd o ddim yn edrych fel cwrls o gwbl oherwydd oeddwn yn defnyddio straighteners a hairdryer am flynyddoedd.

Es i ar gyrsiau a darllenais am wahanol olewau a'u manteision ar gyfer helpu gyda gwallt sych sydd ddim yn tyfu. Ac yn ei dro dysgais os oedd y gwallt yn iachus fydd y cwrls yn dod yn ôl. Ar ôl ei ddefnyddio a fy ngwallt am rhai misoedd sylwodd fy ffrindiau y gwahaniaeth a gofynnon a allai wneud rhai iddyn nhw ac ar ôl amser meddyliais gwerthu achos oeddwn yn wneud e beth bynnag. O ni hefyd eisiau gwerthu rhywbeth i helpu merched sy'n hoffi eu gwallt naturiol yn hytrach 'na cydymffurfio a'r delfrydau harddwch nodweddiadol.

Oedd hi'n anodd cychwyn? Sut oeddat ti'n teimlo am gychwyn Olew?

Y peth mwyaf anodd oedd cychwyn i gweud y gwir. Oedd y cynnyrch gyda fi, ac o ni'n gwybod oedd y cynnyrch yn gweithio, ond cymerodd dros flwyddyn i i fi greu gwefan ac ati achos oedd gen i swydd eithaf demanding, felly penderfynais roi gorau i'r swydd a chanolbwyntio ar Olew. Oedd hyn yn mis Awst 2017. Oedd yn anodd hefyd mynd o swydd gydag incwm misol, yn enwedig pan oedd pobl yn gweud wrthaf bod fi di gwneud camgymeriad a dyle fi di meddwl mwy, ond roeddwn yn teimlo mor gyffrous i ddechrau a'r peth mwyaf pwysig oedd credu yn fy hun a stopio gwrando ar y rhai negyddol.

Pwy ydi dy ysbrydoliaeth?

Mae gen i lawer o bobl sy'n fy ysbrydoli, yn enwedig merched annibynnol. O oedran ifanc wnes i weld fy Mam yn dod yn annibynnol ar ôl ysgaru fy nhad, mae ganddo fusnes hefyd felly ni welais unrhyw ffordd arall o fod.

Pa wefan cymdeithasol wyt ti'n ddefnyddio? Pa un sy'n fwyaf effeithiol i farchnata?

Dwi'n defnyddio Facebook ac Instagram. Instagram yw'r mwyaf effeithiol i fi achos mae'n fwy rhyngweithiol a gallwch dargedu cynulleidfa gan ddefnyddio hashtag, a hefyd mae eich dilynwyr yn gallu dod o hyd i chi yn haws trwy ddefnyddio hashtag. Wrth gwrs mae rhaid archebu trwy fy ngwefan, ond mae linc ar y tudalen Instagram i fynd yna.

Pa mor bwysig wyt ti'n meddwl yw'r iaith Gymraeg wrth farchnata? Oes cyfleon ti wedi gael na fasat ti wedi cael wrth farchnata'n uniaith Saesneg?

I ddechrau, mae'r iaith wedi helpu fy nghynnyrch i sefyll allan oherwydd ei enw, sef Olew. Roeddwn eisiau enw Cymraeg achos:

  1. Dwi'n dod o Gymru ac mae'n rhan fawr o fy hunaniaeth
  2. Mae defnyddio enw Cymraeg yn agor sgwrs gyda phobl sydd gyda dim clem fod pobl yn siarad Cymraeg, felly mae'n rhoi addysg i bobl am ddiwylliant Cymreig.

Mae marchnata yng Nghymraeg yn helpu i mi gysylltu â phobl Cymraeg a dwi'n meddwl fod e'n bwysig i siaradwyr Cymraeg cael cynnyrch sydd yn cael ei farchnata yn eu hiaith. Dwi hefyd yn hoffi'r ffaith dwi'n derbyn negeseuon ar Instagram/e-bost yn chati yn Gymraeg, yn enwedig achos dwi'n byw yn Llundain a ddim wastad yn cael siawns i siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg.

Mae eisiau i fi ddefnyddio mwy o'r Gymraeg yn y dyfodol a hoffwn gael stondin yn nigwyddiadau Cymraeg.

Lle hoffet ti fynd a'r busnes yn y dyfodol?

Yn y dyfodol hoffwn gael llawer mwy o siopau yn gwerthu Olew, yn enwedig yng Nghymru, a chael stiwdio gwaith i ganiatau i mi ddatblygu mwy o nwyddau gan mai dim ond rhywfaint o le storio pethau sydd yn fy fflat bach!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s