Ysgrifennwyd y post yma gan Mared Gruffydd
Diolch byth, mae be’ sydd o hyd yn teimlo fel mis hiraf ac oeraf y flwyddyn ar ben, ac wrth i’r tywydd ddechrau troi ac i bawb ddechrau setlo nôl i mewn i rwtîn arferol yr ysgol, y brifysgol neu’r gwaith, mae’n amlwg bod y gwanwyn ar y ffordd o’r diwedd. Gyda tymor newydd daw ffasiwn newydd, felly mae hi hefyd, wrth gwrs, yn bryd dechrau meddwl am ychwanegu eitemau newydd, cyffrous i’ch cwpwrdd dillad. Wrth edrych yn ôl ar gatwalks sioeau ffasiwn mwya’ y byd – Efrog Newydd, Paris, Milan a Llundain – mis Medi a Hydref diwethaf, cawn gipolwg ar beth fydd trendiau mwya’ poblogaidd y tymor nesaf, yn ogystal â pha eitemau i brynu rŵan.
Sgert bensil
Does dim os amdani, mae’r sgert bensil yn dal i fod yn glasur ers iddi gael ei chyflwyno i ni yn y 50au gan Christian Dior. Ers hynny, mae hi wedi ymddangos ar goesau pawb o Marilyn Monroe i Michelle Obama ac yn cael ei chysylltu efo’r byd gwaith a busnes mwy na dim arall gan ei bod hi’n eitem berffaith i’w wisgo i’r swyddfa. Ond heddiw, nid yn unig i’r gwaith y gallech chi wisgo’r sgert bensil, ond i’r bwyty, i’r ganolfan siopa, i’r bar, a hyd yn oed i’r clwb hefyd. Yn wir, mae dylunyddion ffasiwn y byd wedi rhoi twist modern a hwyl i’r sgert bensil: gwelwyd un ddisglair gyda sequins arni ar gatwalkNO 21, rhai wedi ei gorchuddio â studs a thyllau metalig gan Bottega Veneta, a fersiynau tryloyw, ffasiynol ar gatwalksMax Mara a Dolce & Gabbana.
Lledr
Mae lledr yn ymddangos ar y catwalk pob tymor, a nid oedd casgliadau Gwanwyn/Haf 2018 yn eithriad. Ymddangosodd sgertiau, trowsusau a siacedi lledr du ar gatwalkVersace a bŵts a bagiau lledr du yn sioe ffasiwn Céline. Gwelwyd trend unigryw iawn gan Alexander Wang – leggings lledr du o dan siorts byr denim – perffaith ar gyfer tywydd anibynadwy y gwanwyn a’r haf pan dydych chi ddim yn siŵr os dyliech chi wisgo trowsus neu siorts cyn gadael y tŷ.
Cotiau glaw
Perffaith ar gyfer tymor y festivals i’w wisgo dros ffrog neu siorts, ac i’w wisgo rwan dros siwmper neu fleece ar ddyddiau gwlyb, ma’r gôt law yn eitem mae pob merch ei angen yn ei chwpwrdd dillad. Unwaith eto mae ysbrydoliaeth i’w gael o edrych ar sioe ffasiwn NO 21 gyda’r gôt law melyn cŵl, a dwi hefyd wrth fy modd gyda cotiau windbreaker lliwgar a metalig Isabel Marant. Piti bod y rhataf yn agos i £600! Ond na phoener, mae Topshop yn dda ar gyfer fersiynau rhatach a mae hyd yn oed sêl ymlaen yn Petit Bateau ar y funud, lle mae rhai o’r cotiau wedi gostwng yn eu pris, o £132 i lawr i £79.20 – bargan.
Streipiau
O’r ffrog llewys hir las efo streipiau gwyn ar gatwalkCéline i’r siwt goch efo streipiau du i’w weld ar fodel yn sioe ffasiwn Dolce & Gabbana, roedd y patrwm poblogaidd ym mhob man mis Medi diwethaf, a rydw i’n sicr fydd o hefyd ym mhob man pan ddaw’r gwanwyn. Ymddangosodd siwt streipiog arall ar gatwalkEmporio Armani – un liwgar, fwy hafaidd y tro yma, a roedd streipiau tebyg i’w gweld gan Sportmax, ond ar dopiau a sgertiau cyfforddus iawn yr olwg. Felly, yn fyr, os ydych chi ond am brynu un dilledyn y tymor yma, gwnewch yn siwr ei fod o’n un streipiog.
Ffrog slip
Dwi’n eithaf siwr ddaru obsesiwn y byd ffasiwn gyda ffrogiau slip gychwyn yn iawn ar ôl i Kate Moss gael tynnu ei llun yn gwisgo un dryloyw mewn parti pan oedd hi’n 19 oed. Ers hynny mae bron pob un dylunydd ffasiwn enwog wedi creu un, o Stella McCartney i Calvin Klein. Y tymor nesaf fyddan nhw unwaith eto yn ymddangos ar y stryd fawr ac yn y siopau drud, a byddan nhw’n cael eu gwisgo ar y traeth ar ben wisg nofio, yn y bwyty o dan wasgod smart, ac yn y clwb gyda minlliw coch, à la Kate. Edrychwch ar gasgliadau Gwanwyn/Haf 2018 Christopher Kane, The Row a Dries Van Noten am ysbrydoliaeth.