Bora ‘ma am 6.30 cychwynodd ail safle radio Cymraeg er mwy cynnig dewis i ni; adloniant neu newyddion?
Braf iawn oedd gorfedd yn gwely, Llew yn chwyrnu, Cyw ar y teledu (achos ma’r remote rhy bell i droi o off) a Radio Cymru 2 yn chwara ar y ffon. Teledu Cymraeg, radio Cymraeg a dyfodol Cymraeg Llew yn sgleinio’n addawol.
Ac ar drydar, roedd clôd am y cam bach mawr:
Ac wrth gwrs, does DIM digwyddiad mawr Cymraeg yn llithro drwy fysadd Bolycs Cymraeg:
Er fod yna feirniadu’r orsaf am beidio chwarae cerddoriaeth Cymraeh yn unig, roedd sylw i’r ffaith mai cam ymlaen ydi’r orsaf newydd. Ai dyma’r cam cyntaf o nifer ar gyfer y byd darlledu yng Nghymru?
Beth yw eich barn chi?