Busnes bach y mis yma ydi Anna Gwenllian!
Os ‘da chi’n chwilio am brint i adfywio’ch ystafell, ma’ prints Anna yn berffaith.
Wedi ei lleoli yng Ngogledd Cymru, mae’r darlunydd yn cyfuno gwaith llaw gyda gwaith cyfrifiadurol er mwyn creu cynnyrch sy’n siŵr o wneud i chi wenu.
Dwi’n ffan mawr o waith Anna ac es i ati i ofyn ychydig i gwestiynnau iddi amdan ei busnes:
Pam wnes di benderfynnu gwerthu dy waith celf? Beth oedd yr ysbrydoliaeth?
Nes i adael coleg fel nath y ‘recession’ hitio, oni’n byw yng Nghaerdydd ar y pryd ac oedd ffeindio unrhyw fath o swydd yn anodd iawn. Felly i gadw’n hyn yn brysur yn y cyfamser o’n i’n neud darlunio a chreu lluniau yn barod i wefan o’n i’n gobeithio creu rhyw ddydd. ‘Chydig dros flwyddyn wedyn oedd rhaid i mi symud yn ôl adre i’r gogledd oherwydd salwch, a tra oni’n gwella nes i fwy o luniau a chreu gwefan i’n hyn – ‘wbeth oni’n gallu neud pan oni’n teimlo’n iawn a ddim yn sâl! Mi nes i rannu hwn (a lluniau eraill oeddwn i’n creu ar y pryd) ar y cyfryngau cymdeithasol ac wedyn nath teulu a ffrindia ddechra’ gofyn i mi greu darnau iddyn nhw. Ar ôl hyn, oedd pobl yn dechrau sôn dylwn i neud y lluniau yma fewn i prints a chardiau. A dyna ni!
Beth yw’r hoff ddarn o waith/comisiwn ti wedi wneud hyd yn hyn?
Ar hyn o bryd, fy hoff ddarn ydi’r print mwya’ diweddar dwi ‘di neud – sef yr Wyddor: Byd Natur Cymru. Oedd hwnnw’n ‘wbeth o’n i wedi bod eisiau neud ers hir. Mi nath o gymryd lot mwy o amser i neud nag o’n i yn disgwyl. Oedd ‘na lot o waith ymchwil, meddwl am lythrennau ac wedyn dewis pa rhai cyn hyd yn oed cychwyn ar y llun! Ond dwi’n hapus iawn efo sut mae o wedi troi allan.
Pa fath o fiwsig wyt ti’n gwrando arno tra’n gweithio?
Dwi fel arfer yn chwarae unrhyw gerddoriaeth sydd gen i, neu gwrando ar y radio. Dwi angen wbeth egniol – fel arfer ‘wbeth roc/pync – pan dwi’n neud llun, dwi bob tro’n meddwl bod o’n dangos yn y darn os dwi ‘di blino felly ma’ hyn yn cadw fi’n effro a llawn adrenalin! Ond mae’n dibynnu ar sut dwi’n teimlo ar y dydd, a beth bynnag sydd yn helpu fi i greu y llun.
I le ti’n troi am ysbrydoliaeth?
Mae artistiaid a chrefftwyr eraill yn fy ysbrydoli, ac orielau wrth gwrs! Dwi ‘di ymweld â gwaith Tunnicliffe yn Oriel Ynys Môn dwn i’m faint o weithia ond dwi byth yn diflasu ohona fo. Dwi’n gweld Instagram yn grêt i ddarganfod artistiaid newydd, yn arbennig rhai lleol. Dwi wrth fy modd efo byd natur hefyd, yn arbennig adar. Felly mae mynd am dro neu hyd yn oed allan i’r ardd yn help! Ac wrth gwrs, adeiladau a pensaerniaeth.
Ydi creu gwaith Cymraeg / marchnata yn ddwyieithog wedi bod o fantais?
Wrth gwrs, dwi’n meddwl mai gwaith efo’r iaith Gymraeg ydi’r pethau sy’n gwerthu orau i ddweud y gwir! Dwi’n mwynhau creu pethau yn y Gymraeg, a lluniau o lefydd yng Nghymru yn arbennig, felly dwi’n meddwl fod marchnata yn y Gymraeg yn bwysig ac yn gwneud synnwyr. Dwi ddim yn rhy hoff o weld pobl yn marchnata pethau efo’r iaith Gymraeg yn uniaith Saesneg – dwi’n gweld o’n rhyfedd yn bersonol! Dwi bob tro’n trio marchnata pethau’n ddwyieithog, neu Cymraeg yn unig weithia’ – dibynnu ar y darn.
Lle hoffet ti fynd a’r busnes yn y dyfodol?
Dwi eisiau canolbwyntio mwy ar greu cynnyrch i bobl allu prynu ar gyfer siopau, a trio ehangu ar le mae fy ngwaith wedi stocio ar hyn o bryd. Mae hyn yn ‘wbeth dwi’n mwynhau neud felly dwi’n meddwl fod o’n bwysig i fynd yn y cyfeiriad yno. Fyswn i’n licio hefyd neud mwy o ddylunwaith priodasol, am yr un rheswm. Ond arwahan i hynna, does gen i ddim planiau penodol, dwi heb feddwl llawer am y peth efo’r dyfodol!
Beth fysa dy gyngor di i rhywun fysa’n meddwl cychwyn busnes dylunio?
W ma’ hwnna’n un anodd! Mae rhannu lluniau o fy ngwaith ar gyfryngau cymdeithasol wedi bod o help mawr i fi, gweld be ‘di ymateb pobl i ddarnau newydd, a o’ddwn i’n gallu gwella ar hyn a chreu darnau eraill tebyg. Mae’n bwysig hefyd i beidio poeni gormod am neud camgymeriadau a chael dy wrthod gen pobl. Pan nes i gychwyn, mi o’ddwn i’n teimlo fel oedd popeth yn mynd yn anghywir, a chael fy ngwrthod efo fy ngwaith, ond nes i gario ‘mael mynd oherwydd dwi’n caru be dwi’n neud. Tydi’r petha’ yma ddim yn digwydd dros nos, mae’n cymryd amser – dal ati, gweithio’n galed ac mi ddaw!