Yda chi’n chwilio am ddarnau unigryw neu bargeinion da?
Dwi wastad yn cadw llygaid barcud allan am stwff cwl, felly dyma fy ffefrynnau yr wythnos yma.

Dwi wrth fy modd efo’r sweatshirt yma.. Rili syml a edrych yn rili cwl efo minimal effort. A fel mam-to-be dwi’n gweld y sweatshirt yma fel buddsoddiad doeth iawn. Mamasam yw’r gwerthwr ac mae o ar gael ar wefan Y Stryd Fach. Cliciwch yma i’w weld!

Yng Nghymru, fe gei dalent a creadigrwydd di-ri. Yn cyflwyno… Lora Wyn. Mae hi’n creu gemwaith enamel, fel y necklace yma. Mae ei gwefan llawn trysirion, sy’n berffaith ar gyfer anrheg neu just fel trit bach i chi’ch hun! Cliciwch yma i weld mwy.

Ac i orffen awn i’n ol i’r Stryd Fach ac i gynnyrch arall gan Mamasam. Dwi’n joio make up bag lush, a ma hwn yn super lush (neu ffabiwlas). Mae’r defnydd i weld reit gryf, sy’n handi os, fel fi, gyna chi LLWYTH o make up achos da chi’n anghofio taflu stwff allan. Cliciwch yma i’w weld.