Rhysait – Pice Bach

Mae hi’n Ddydd Gwyl Dewi Sant! A pa ffordd well i ddathlu ‘na gyda Pice Bach? Yn ogystal a rhysait syml iawn, mae nhw’n flasus dros ben!

Byddwch chi angen:

225g o flawd
85g o siwgr caster
80g o fenyn
60g o cyrants
1tsp o ‘ground mixed spice’
1 wy wedi’i guro
Ychydig o lefrith

  1. Cymysgwch y blawd, siwgr a mixed spice gyda’i gilydd
  2. Gyda’ch dwylo, rhaid rwbio’r menyn i fewn i’r cymsgiad
  3. Ychwanegwch y cyrants a’r wy wedi’i guro. Os yn edrych ychydig yn sych, ychwanegwch ychydig o lefrith
  4. Rhaid rhowlio’r cymysg ar wyneb gyda ychydig o flawd, fel nad ydi’r cymysg yn sticio i’r arwyneb
  5. Torrwch nifer o siapiau cylch a’u gosod i un ochr
  6. Gyda padell ffrio, toddwch bloc o fenyn a gosod ychydig o gacennau yn y padell
  7. Ar ol 2-3 munud, trowch y cacennau drosodd
  8. Gosodwch y cacennau ar rac i oeri
  9. Mwynhewch!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s