Diddordeb Dibwys, Tro Trychinebus

Diddordeb Dibwys, Tro Trychinebus 170420

Mewn amsar mor ansicr a phoenus a’r un ‘da ni’n byw ynddi ar y funud, dydi ffasiwn ddim yn bwysig i ni yma yng Nghymru. Ella fod rhai ohona ni wedi ymdrochi mewn tamad o retail therapy i leddfu ‘chydig ar y poendod, ond dyda ni ddim yn chwilio am ddillad arbennig ar gyfar priodasa’, ddim angan buddsoddi mewn dillad smart ar gyfar cyfweliad a dydi mynd ar dro rownd y siopa ‘jest am lwc’ a diweddu yn prynu llwyth o impulse buys ddim yn opsiwn mwyach.

Felly, efo’r newid mawr a sydyn ym myd ffasiwn ni yma yng Nghymru, fyswch chi’n meddwl bysa huna’n beth da? Wedi’r cwbl, efo llai o brynu ma’ ‘na llai o wastraff a mwy o bres yn ein pocedi.

Draw ym Mangladesh, mae dros 4 miliwn o bobl yn gweithio mewn ffatrïoedd ffasiwn yn gwneud dillad sy’n cael eu gwerthu ledled y byd. Dydw’i ddim yn gorfod egluro i chi fod yr amodau gweithio yn galad a’r tal yn dorcalonnus, er y galw mawr am newid. Gyda miliyna’ o deuluoedd yn dibynnu ar waith yn y ffatrïoedd yma, mae coronafeirws wedi troi sefyllfa oedd yn ofidus ac yn beryglus yn barod i fod yn un gwir trychinebus. Mae nifer fawr o bobl wedi cael eu gyrru adra o’u gwaith heb dal gyda’r ffatrïoedd yn colli cytundebau. Tra bod y contractwyr enfawr yn gwynebu diffyg elw, mae gweithwyr y ffatrïoedd ffasiwn yn gwynebu diffyg incwm, diffyg bwyd a diffyg meddyginiaeth.

Mae arlywydd y Bangladesh Garment Manufacturers and Exporters Association, Rubana Huq, wedi annog prynwyr mawr y diwylliant ffasiwn i beidio canslo archebion gan egluro’r realiti o 4.1 miliwn o weithwyr yn llwgu os na fyddant yn rhoi pwyslais ar les y gweithwyr. Dywedodd Huq, “…our foremost responsibility was towards our workers. We are a manufacturing country, our reality and your reality is totally different, but it is not a time to point out differences, it’s a time through which we need to work together.”

niloy-biswas-qIUb3VNmxjI-unsplashYn ôl arolwg gan y Workers Rights Consortium gyda Phrifysgol Penn State sy’n edrych ar yr effaith drychinebus ma’r coronafeirws a’r archebion yn cael eu canslo yn ei gael ar y ffatrïoedd a’u gweithwyr, mae 45.8% o gyflenwyr yn deud eu bod wedi colli nifer fawr neu’r rhan fwyaf o’u cytundebau, gyda 5.9% o gyflenwyr yn deud eu bod wedi colli bob un cytundeb. Fysa chi’n meddwl fod cytundeb yn gytundeb, ma’ nw wedi gaddo talu ac mae’r cytundeb yna i ddiogelu’r cyflenwyr a’r prynwyr, ond ma’ rhai cwmnïa wedi defnyddio cymal force majeure er mwyn canslo’r cytundeb.

Sud yda ni’n symud ymlaen gyda phrynu ffasiwn ar ôl i ni ffarwelio efo’r hunllef yma? Mae prynu’n lleol yn ateb sy’n cefnogi ein cymunedau agos a hefyd lleihau ar y gost amgylcheddol o allforio toman o ddillad. Ma’ ‘na frandia’ ffasiwn lleol reit ar eich stepan ddrws (fel Arfordir, Siop Mirsi, Lan Llofft). Er mwyn lleihau gwastraff, ystyriwch brynu’n ail-law (fel Cant a Mil Vintage, mewn siopa elusen, apps fel Depop). Wedi dweud hynny, weithia’ ma’ ffasiwn sydyn yn handi ac yn fwy fforddiadwy, felly manteisiwch ar y gyfla yma i sylwi pa gwmnïa sy’n ymddwyn yn gyfrifol (er enghraifft M&S a Tesco sydd yn bwriadu talu am bob archeb gyda’u cyflenwyr) a pa gwmnïa sy’n ymddwyn reit hunanol yn ôl y golwg. Yn ôl y Bangladesh Garment Manufacturers and Exporters Association mae Matalan a Primark ymysg y rhai sydd wedi canslo £1.4 biliwn o archebion.

Fel dywedodd Rubana Huq, mae eu realiti nhw a’n realiti ni yn gwbl wahanol ac mae angan bod yn wybodus o hynny. Mae’n bwysig iawn nodi fod lot ohona ni mewn sefyllfa freintiedig a lwcus iawn ymysg yr helynt o’n cwmpas. Ma’ ffasiwn yn ddiddordeb dibwys i ni mewn argyfwng byd-eang, ond i eraill ym mhen draw’r byd, ffasiwn sy’n bwydo’u teuluoedd.

Y Platfform – Hydref 2018

 

Os ma’ rhyddhau Y Platfform yn dymhorol wedi dysgu unrhyw beth i mi, hynny ydi for amser yn mynd mor sydyn mae i’n eitha sgêri. Eiliad yn ôl roeddwn i’n rhoi rhifyn yr haf at ei gilydd, a rwan dyma fi’n cyflwyno rhifyn yr hydref i chi!

Beth bynnag, mwynhewch a cofiwch rannu!

Syniada’ Sul y Mamau

SYNIADA-SUL-Y-MAMU.jpg

Rhaid cael anrheg arbennig i Mam ar Sul y Mamau, boed hynny’n mwsh neu’n fyg.

Ar achlysuron fel hyn, mae siopa gyda busnesau annibynnol nid yn unig yn bwysig ond yn ffordd wych o ddod o hyd i anrheg fydd neb arall wedi prynu ac anrheg fydd yn siŵr o gael ei werthfawrogi.

Don’t Buy Her Flowers

Y lle cyntaf hoffwn ei awgrymu ydi Don’t Buy Her Flowers. Cafodd y fenter yma ei gychwyn gan fam ar ôl iddi dderbyn gymaint o flodau i’w llongyfarch ar enedigaeth ei phlentyn, allai ddychmygu fod y lle fel Pili Palas! I gychwyn, y syniad oedd cynnig DBHFcynnrch fel anrheg i famau newydd oedd ddim yn flodau, trîts amgen i’r fam. Bellach, mae’r cwmni yn cynnig bocsys o trits ar gyfer wahanol achlysuron, gan gynnwys Sul y Mamau! Gyda Don’t Buy Her Flowers, mae dewis y cynnyrch yn hawdd a’r pacio wedi’i wneud i chi!

Rheswm arall i archebu gan Don’t Buy Her Flowers ydi mae £1 o bob archeb yn cael ei roi i Kicks Count, mudiad sy’n codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd symudiadau babis yn ystod beichiogrwydd ac yn rhoi’r hyder i ferched i wybod pryd allai rhywbeth fod o’i le er mwyn cael help yn yr ysbyty.

 

Lobella Loves

Dwi wedi sôn am y wefan yma yn barod, ond allai ddim peidio sôn amdano! Ar wefan Lobella Loves, fe ddowch chi o hyd i amryw o anrhegion fydd eich mam neu nain (neu LOBELLA-LOVESunrhyw un, mewn gwirionedd!) yn mwynhau. Dwi wir yn argymell y mwgwd cwsg Spacemasks ac mae bisgedi Lady Bakewell-Park bron yn edrych rhy neis i’w bwyta, yn enwedig os ‘da chi’n personaleiddio’r bisgedi!

Yn ogystal â chynnyrch ffab, does dim cost cludiant ac mae rhan o’ch arian yn cael ei roddi i elusen sy’n helpu gydag iselder ôl-eni.

 

Y Stryd Fach

Am gynnyrch gan grewyr Cymraeg, mae’r Stryd Fach yn siop-un-stop. Yma, gwelwch emwaith gorjys, fel y rhai allwch chi bersonaleiddio gan Bodoli, ac mae mur-gelfi di-ri, fel yr un cardia ‘Mam’ gan Caligraffion.

 

Cardiau

Mae cardiau yn rhan fawr o Sul y Mamau, yn amlwg! Allwch chi wneud un yn hawdd, ond be os ‘da chi’n ddiog (fel fi)?

Ceir llu o ddylunwyr talentog yng Nghymru sy’n cynnig cardiau, a dyma ddetholiad bach o fy ffefrynnau:

Draenog

Nansi Nudd

Anna Gwenllian

Busnes Bach Mis Mawrth: Olew

OLEW-TITLE-PIC.jpg

Pan 'da chi'n prynnu potel o olew, 'da chi'n prynnu hyd a lledrith ym myd y gwallt cyrliog.

Mae Olew yn cael ei wneud gyda llaw gan Elinor yn Leyton a mae'n digon teg dweud fod hi'n ferch dewr ac ysbrydoledig iawn wedi iddi adael ei swydd er mwyn achub cyrls y genedl.

Dwi'n dyst i'r majic sydd yn y potel; mae o wir yn codi cyrls (er mod i'n sythu fy ngwallt lot gormod, ond shhhh), felly oni'n meddwl fod Olew yn llawn haeddu fod yn fusnes y mis mis Mawrth.

Pam wnes di benderfynnu gwerthu Olew?

Oeddwn yn creu Olew am rai blynyddoedd cyn gwerthu i fy ngwallt fy hun. Ar y pryd, ni allwn ni ddod o hyd i gynnyrch oedd yn gweithio ar fy ngwallt. Roedd fy ngwallt yn sych iawn, ddim yn tyfu llawer ac roedd y cwrls yn frizzy ac i gweud y gwir toedd o ddim yn edrych fel cwrls o gwbl oherwydd oeddwn yn defnyddio straighteners a hairdryer am flynyddoedd.

Es i ar gyrsiau a darllenais am wahanol olewau a'u manteision ar gyfer helpu gyda gwallt sych sydd ddim yn tyfu. Ac yn ei dro dysgais os oedd y gwallt yn iachus fydd y cwrls yn dod yn ôl. Ar ôl ei ddefnyddio a fy ngwallt am rhai misoedd sylwodd fy ffrindiau y gwahaniaeth a gofynnon a allai wneud rhai iddyn nhw ac ar ôl amser meddyliais gwerthu achos oeddwn yn wneud e beth bynnag. O ni hefyd eisiau gwerthu rhywbeth i helpu merched sy'n hoffi eu gwallt naturiol yn hytrach 'na cydymffurfio a'r delfrydau harddwch nodweddiadol.

Oedd hi'n anodd cychwyn? Sut oeddat ti'n teimlo am gychwyn Olew?

Y peth mwyaf anodd oedd cychwyn i gweud y gwir. Oedd y cynnyrch gyda fi, ac o ni'n gwybod oedd y cynnyrch yn gweithio, ond cymerodd dros flwyddyn i i fi greu gwefan ac ati achos oedd gen i swydd eithaf demanding, felly penderfynais roi gorau i'r swydd a chanolbwyntio ar Olew. Oedd hyn yn mis Awst 2017. Oedd yn anodd hefyd mynd o swydd gydag incwm misol, yn enwedig pan oedd pobl yn gweud wrthaf bod fi di gwneud camgymeriad a dyle fi di meddwl mwy, ond roeddwn yn teimlo mor gyffrous i ddechrau a'r peth mwyaf pwysig oedd credu yn fy hun a stopio gwrando ar y rhai negyddol.

Pwy ydi dy ysbrydoliaeth?

Mae gen i lawer o bobl sy'n fy ysbrydoli, yn enwedig merched annibynnol. O oedran ifanc wnes i weld fy Mam yn dod yn annibynnol ar ôl ysgaru fy nhad, mae ganddo fusnes hefyd felly ni welais unrhyw ffordd arall o fod.

Pa wefan cymdeithasol wyt ti'n ddefnyddio? Pa un sy'n fwyaf effeithiol i farchnata?

Dwi'n defnyddio Facebook ac Instagram. Instagram yw'r mwyaf effeithiol i fi achos mae'n fwy rhyngweithiol a gallwch dargedu cynulleidfa gan ddefnyddio hashtag, a hefyd mae eich dilynwyr yn gallu dod o hyd i chi yn haws trwy ddefnyddio hashtag. Wrth gwrs mae rhaid archebu trwy fy ngwefan, ond mae linc ar y tudalen Instagram i fynd yna.

Pa mor bwysig wyt ti'n meddwl yw'r iaith Gymraeg wrth farchnata? Oes cyfleon ti wedi gael na fasat ti wedi cael wrth farchnata'n uniaith Saesneg?

I ddechrau, mae'r iaith wedi helpu fy nghynnyrch i sefyll allan oherwydd ei enw, sef Olew. Roeddwn eisiau enw Cymraeg achos:

  1. Dwi'n dod o Gymru ac mae'n rhan fawr o fy hunaniaeth
  2. Mae defnyddio enw Cymraeg yn agor sgwrs gyda phobl sydd gyda dim clem fod pobl yn siarad Cymraeg, felly mae'n rhoi addysg i bobl am ddiwylliant Cymreig.

Mae marchnata yng Nghymraeg yn helpu i mi gysylltu â phobl Cymraeg a dwi'n meddwl fod e'n bwysig i siaradwyr Cymraeg cael cynnyrch sydd yn cael ei farchnata yn eu hiaith. Dwi hefyd yn hoffi'r ffaith dwi'n derbyn negeseuon ar Instagram/e-bost yn chati yn Gymraeg, yn enwedig achos dwi'n byw yn Llundain a ddim wastad yn cael siawns i siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg.

Mae eisiau i fi ddefnyddio mwy o'r Gymraeg yn y dyfodol a hoffwn gael stondin yn nigwyddiadau Cymraeg.

Lle hoffet ti fynd a'r busnes yn y dyfodol?

Yn y dyfodol hoffwn gael llawer mwy o siopau yn gwerthu Olew, yn enwedig yng Nghymru, a chael stiwdio gwaith i ganiatau i mi ddatblygu mwy o nwyddau gan mai dim ond rhywfaint o le storio pethau sydd yn fy fflat bach!