Paratoi: Ffasiwn yr Hydref

TITLE-PIC

Mae tymor yr Hydref yn sydyn agosáu a fydd Haf 2017 (neu’r esgus pathetig o’r Haf ‘da ni wedi’i gael) yn dod yn atgof yn fuan iawn *emoji trist*

Ond dwi wrth fy modd efo’r Hydref *emoji llygada calon* am NIFER o resymau. Tymor fy mhenblwydd, tymor ma’r stwnshyn yn due a thymor pumpkin spice lattes (wnâi ddim ymddiheuro am fod yn basic).

Pan mae o’n dod i ffasiwn, hwn hefyd ydi fy hoff dymor o bellffor. Mae’r prints yn gynnes, y lliwiau’n naturiol a clud a dyma yw’r amser i gael y scarffs nol allan!

Os yda chi’n edrych i fuddsoddi mewn eitemau hydrefol wneith para nes daw’r Gwanwyn nol rownd, dyma be dwi di ffeindio ac yn hollol ‘obsesd’ efo nhw:

 

Bag Lledr gan Lledr Aled

LLEDR-ALED

Be sy’n well na bag lledr tan ar gyfer yr Hydref? Bag lledr tan wedi’i wneud a llaw wrth gwrs! Mae Lledr Aled yn cynnig cynnyrch lledr, fel y bag yma. Fyddwch chi’n siŵr o gael blynyddoedd o ddefnydd o’r bag yma!

Cliciwch YMA i weld cynnych Lledr Aled ar Y Stryd Fach.

 

 

 

Lan Llofft

LAN-LLOFFT

Ar gyfer unrhyw achlysur, unrhyw dymor, mae’n reit debyg fod gan Lan Llofft bob dim. Ac, o edrych ar eu lluniau ar eu tudalennau cymdeithasol (Facebook, Twitter, Instagram), maen nhw’n arbenigo yn yr Hydref!

Ewch i gael lwc ar lein, neu os yda chi yn yr ardal ewch fewn i’w siopa.

 

Eliffant

ELIFFANTAc os nad yda chi’n barod i ffarwelio i prints blodeuog yr Haf eto, yna ni phoener… Mae’r print blodeuog DAL i fod yn lush ar gyfer yr Hydref!

Mae Eliffant (sydd yn y Directori Busnesi Bychain…) yn cynnig kimonos unigryw a’r siaced yn y llun yma yn cael ei wneud o ddefnydd jersi, felly’n berffaith ar gyfer cychwyn yr Hydref pan nad ydi hi’n rili oer jest eto.

Cosb Am Wisgo Fel Eicon

Ydi’ch steil chi weithiau yn cael ei ddylanwadu gan selebs a’r trends diweddaraf? Yda chi’n edrych i fyny i eicons ffasiwn am syniadau?

Wrth edrych am ysbrydoliaeth, edrychodd Hannah Whitley ar Zendaya (sydd wedi dod yn eicon MAWR yn y misoedd diweddaf). Er bod Hannah yn edrych yn hollol WYCH, cafodd hi mewn trwbl gyda’r ysgol… am wisgo’n rhy bryfoclyd.

Rhannodd Hannah y llun uchod, gyda’r neges “When you just wanna look like @Zendaya but you get a dress code violation for being too provocative #senioryearblues”

Cafwyd ymateb gwych a chefnogol ar Twitter, gyda nifer fawr yn holi lle oedd y gwisg lush wedi dod o (trowsus a top Urban Outfitters ac esgidiau Old Navy, gyda llaw).

Mewn trydariad arall, mae hi wedi sôn ei bod hi wedi cael ei chywilyddio i gychwyn, ond yn dilyn yr holl gymorth gan ddefnyddwyr Twitter, gan gynnwys Zendaya ei hun, mae hi’n teimlo’n “empowered”.

Yaaaas Hannah!

Dydio wir ddim yn deg fod gymaint o ferched ysgol yn cael eu cosbi, neu eu gwahardd o’r ysgol, am wisgo mewn ffordd sydd yn cael eu cysidro’n anaddas gan bolisïau ysgol gwirion sy’n rhywiaethol ac yn bychanu merched. Cliciwch yma i ddarllen mwy am ferch a chafodd ei gwahardd rhag cerdded yn ei seremoni graddio o’r ysgol.

Ond ar nodyn positif, mae mwy a mwy o fyfyrwyr ysgol yn sefyll yn erbyn y polisïau yma. Cliciwch yma i ddarllen mwy am ferch wnaeth sefyll i fyny dros ferched ei hysgol wedi iddi hi a’i chyd-ddisgybl cael eu cywilyddio o flaen y dosbarth.

Dyfal Donc

Dwi wir yn cal traffarth wrth chwilio am gemwaith dwi'n teimlo'n cyffyrddus yn gwisgo. Ond, ar ol trio un gan Dyfal Donc, dwi wedi syrthio mewn cariad go iawn 😍 Dwi di trio fo efo lot o wahanol gwisgoedd, a mae o i weld i fynd efo bob dim! #werthybyd

Ond fy HOFF outfit fi ydi y mwclis lush yma gan Dyfal Donc, y top gwyn gyda brodwaith o Zara a par swwwwper comfy o jeans maternity H&M.

Mae Dyfal Donc yn yr Eisteddfod ym Modedern wythnos yma, felly ewch draw i ddeud helo!

Good afternoon #WhatMamaWoreMonday -ers! This Mama To Be is very much loving my #FrenchConnection dress and cannot get enough of it 😍
Tummy stretching pains are BACK and in full swing 🙄and I can’t get out of my car gracefully anymore and I pretty much tumble everywhere 🥔but I love my stwnsh regardless 💁🏻🦁 #WhatMamaToBeWoreMonday

Mae tymhorau ffasiwn yn confusing af at the best of times. Felly efo brands a tai dylunio yn torri i ffwrdd o’r prif tymhorau traddodiadol Gwanwyn/Haf a Hydref/Gaeaf, mae’r sin ffasiwn yn newid yn araf deg.

Mae Rodatre a Proenza Schouler, sydd fel arfer yn arddangos casgliadau yn Wythnos Ffasiwn Efrog Newydd, wedi penderfynnu cymryd rhan yn Wythnos Couture Paris yn lle.

A’r rheswm? Mae canran mawr o’r gwerthu a prynnu yn cael eu gwneud yn y cyn-casgliadau (pre-collections, sef casgliadau cyn y prif rai).

Fydd mwy o tai dylunio yn dilyn yr esiampl yma er mwyn macsimeiddio elw? Neu ydi’r traddodiad o’r prif tymhorau ffasiwn yn rhy gryf i ddiflannu?

I ddarllen mwy mewn manylder, cliciwch yma i fynd i wefan The Fashion Law.