Cosb Am Wisgo Fel Eicon

Ydi’ch steil chi weithiau yn cael ei ddylanwadu gan selebs a’r trends diweddaraf? Yda chi’n edrych i fyny i eicons ffasiwn am syniadau?

Wrth edrych am ysbrydoliaeth, edrychodd Hannah Whitley ar Zendaya (sydd wedi dod yn eicon MAWR yn y misoedd diweddaf). Er bod Hannah yn edrych yn hollol WYCH, cafodd hi mewn trwbl gyda’r ysgol… am wisgo’n rhy bryfoclyd.

Rhannodd Hannah y llun uchod, gyda’r neges “When you just wanna look like @Zendaya but you get a dress code violation for being too provocative #senioryearblues”

Cafwyd ymateb gwych a chefnogol ar Twitter, gyda nifer fawr yn holi lle oedd y gwisg lush wedi dod o (trowsus a top Urban Outfitters ac esgidiau Old Navy, gyda llaw).

Mewn trydariad arall, mae hi wedi sôn ei bod hi wedi cael ei chywilyddio i gychwyn, ond yn dilyn yr holl gymorth gan ddefnyddwyr Twitter, gan gynnwys Zendaya ei hun, mae hi’n teimlo’n “empowered”.

Yaaaas Hannah!

Dydio wir ddim yn deg fod gymaint o ferched ysgol yn cael eu cosbi, neu eu gwahardd o’r ysgol, am wisgo mewn ffordd sydd yn cael eu cysidro’n anaddas gan bolisïau ysgol gwirion sy’n rhywiaethol ac yn bychanu merched. Cliciwch yma i ddarllen mwy am ferch a chafodd ei gwahardd rhag cerdded yn ei seremoni graddio o’r ysgol.

Ond ar nodyn positif, mae mwy a mwy o fyfyrwyr ysgol yn sefyll yn erbyn y polisïau yma. Cliciwch yma i ddarllen mwy am ferch wnaeth sefyll i fyny dros ferched ei hysgol wedi iddi hi a’i chyd-ddisgybl cael eu cywilyddio o flaen y dosbarth.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s