Paratoi: Ffasiwn yr Hydref

TITLE-PIC

Mae tymor yr Hydref yn sydyn agosáu a fydd Haf 2017 (neu’r esgus pathetig o’r Haf ‘da ni wedi’i gael) yn dod yn atgof yn fuan iawn *emoji trist*

Ond dwi wrth fy modd efo’r Hydref *emoji llygada calon* am NIFER o resymau. Tymor fy mhenblwydd, tymor ma’r stwnshyn yn due a thymor pumpkin spice lattes (wnâi ddim ymddiheuro am fod yn basic).

Pan mae o’n dod i ffasiwn, hwn hefyd ydi fy hoff dymor o bellffor. Mae’r prints yn gynnes, y lliwiau’n naturiol a clud a dyma yw’r amser i gael y scarffs nol allan!

Os yda chi’n edrych i fuddsoddi mewn eitemau hydrefol wneith para nes daw’r Gwanwyn nol rownd, dyma be dwi di ffeindio ac yn hollol ‘obsesd’ efo nhw:

 

Bag Lledr gan Lledr Aled

LLEDR-ALED

Be sy’n well na bag lledr tan ar gyfer yr Hydref? Bag lledr tan wedi’i wneud a llaw wrth gwrs! Mae Lledr Aled yn cynnig cynnyrch lledr, fel y bag yma. Fyddwch chi’n siŵr o gael blynyddoedd o ddefnydd o’r bag yma!

Cliciwch YMA i weld cynnych Lledr Aled ar Y Stryd Fach.

 

 

 

Lan Llofft

LAN-LLOFFT

Ar gyfer unrhyw achlysur, unrhyw dymor, mae’n reit debyg fod gan Lan Llofft bob dim. Ac, o edrych ar eu lluniau ar eu tudalennau cymdeithasol (Facebook, Twitter, Instagram), maen nhw’n arbenigo yn yr Hydref!

Ewch i gael lwc ar lein, neu os yda chi yn yr ardal ewch fewn i’w siopa.

 

Eliffant

ELIFFANTAc os nad yda chi’n barod i ffarwelio i prints blodeuog yr Haf eto, yna ni phoener… Mae’r print blodeuog DAL i fod yn lush ar gyfer yr Hydref!

Mae Eliffant (sydd yn y Directori Busnesi Bychain…) yn cynnig kimonos unigryw a’r siaced yn y llun yma yn cael ei wneud o ddefnydd jersi, felly’n berffaith ar gyfer cychwyn yr Hydref pan nad ydi hi’n rili oer jest eto.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s