
Mae trwsio dillad yn weithred chwyldroadol – a dyma i chi pam.
Ffeithiau bywyd; mae’r byd yn troi, mae’r haul yn boeth, ac mae gormod o ddillad ar ein planed. Mae’r effaith byd-eang o’r ffaith ddiwethaf yn bellgyrhaeddol, ond yda chi erioed wedi poeni mai un o’r effeithiau difrifol ydi ein bod ni’n colli ein sgiliau hynafol, cyntefig?
Gellir dilyn ôl gwnïo a chreu dillad yn ôl ymhell cyn dyfais y nodwydd metel, sydd yn gyfarwydd i ni heddiw, ac yn bendant ymhell cyn bod sôn am y peiriant wnïo. Mae gwreiddiau gwnïo yn berchen i’r cyfnod paleolithig, y canfyddiad yn ddiolch i ddarganfyddiad nodwyddau wedi ei gwneud o esgyrn anifeiliaid gyda chrwyn anifeiliaid gyda thyllau main wedi eu darganfod gerllaw yn awgrymu cychwyn dynolryw yn creu gwisgoedd i’w hamddiffyn rhag elfennau natur. Dros y canrifoedd, mae’r sgil o greu a thrwsio wedi cael ei basio ymlaen o genhedlaeth i genhedlaeth, a hynny er mwyn goroesi, ac mae technegau wedi datblygu wrth fynd yn ei flaen. Hynny yw, nes ein cenedlaethau ni.
Rhywle, rhwng chwyldro ffasiwn cyflym a rŵan, rydym wedi colli’r sgil. Sgil sydd wedi bod wrth graidd ein bodolaeth, yn ein cadw ni’n ddiogel ac yn ein galluogi ni i oroesi mewn cynefinoedd cras ym mhob twll a chornel y byd. O ystyried bod dillad wedi bod yn rhan annatod o’n bodolaeth fel anifeiliaid gweddol noeth, sut mae’r grefft wedi’n gadael ni? Neu, yn hytrach, sut yda ni wedi caniatáu ei golli?
Rhaid gwynebu’r ffaith nad oes gan bawb yr amser i drwsio dillad. I gychwyn, mae’n rhaid i ti ddysgu’r sgil, os nad wyt ti wedi bod ddigon ffodus i dderbyn rhywfaint o addysg gwnïo’n blentyn, a hyd yn oed wedyn mae’n cymryd oes i feistro’r grefft o beidio gwneud twll yn waeth na’r un gwreiddiol! Yna, rhaid i ti ddod o hyd i o leiaf ugain munud i eistedd i lawr gyda dy edafedd a dy nodwydd – a phwy, rhwng gwaith, coginio a’r holl waith golchi’r dillad di-dyllau eraill, sydd gan amser i wneud hynny?!
Mae’n gwneud synnwyr, felly, pam ein bod wedi colli’r sgil o greu a thrwsio dillad. Wedi’r cyfan, pam mynd i’r ymdrech o drwsio twll mewn siwmper pan fo mynd ati i brynu un newydd sbon yn arbed gymaint o amser, yn enwedig pan fo siwmperi digon rhad i’w prynu yn yr archfarchnad. Colli’r sgil hynafol felly ydi’r am gyfleustra.
Ledled y wlad, mae yna gylchoedd o grefftwyr sy’n cwrdd i ymarfer eu sgiliau. Cylchoedd gwau, crosho, gwnïo a chylchoedd trwsio ble mae unigolion yn dysgu sgiliau amrywiol i’w gilydd. Mae’r cylchoedd yma yn hybiau chwyldroadol, gan eu bod nhw’n mynd yn gwbl groes i’r graen. Yn hytrach ‘na mynd i brynu ffrog newydd ar gyfer parti priodas, maent yn mynd a hen ffrog, sydd wedi cael ei charu gymaint dros y blynyddoedd nes bod hoelion y cariad yn glir ar ffurf hem sydd wedi datod neu fotwm colledig, i’r cylch er mwyn rhoi pennau at ei gilydd i adfer y ffrog a fu. Yn hytrach ‘na phrynu maneg newydd ar gyfer y misoedd gaeaf sydd yn siŵr o fod yn rhai garw eleni, maent yn eistedd i lawr i ddysgu sut i gau’r tyllau a chreuwyd gan helyntion gaeaf llynedd.
Nid trwsio dillad ydi’r unig grefft sydd yn prysur ddiflannu wrth law peiriannau, technoleg a chyfleustra. Mae’r rhestr o grefftau sydd dan fygythiad o ddiflannu mewn cenhedlaeth neu ddau yn faith, ac yn cynnwys y grefft o greu esgidiau a hyd yn oed y grefft o greu blociau ar gyfer creu hetiau. Mae’r rhain, wrth gwrs, yn grefftau arbenigol ble mae angen offer ac addysg benodol ar gyfer gwneud cyfiawnder a’r grefft. Mae trwsio dillad, fodd bynnag, yn fwy hygyrch. Wedi arfu gyda nodwydd ac edau, gall unrhyw un fod yn rhan o’r chwyldro yn erbyn ffasiwn cyflym a thechnoleg sy’n bygwth ein planed.
Felly, cer amdani. Os oes gen ti hosan sydd wedi gweld dyddiau gwell, yna mae’n aros yn eiddgar amdanat ti a dy nodwydd. Does dim rhaid i’r hosan gyntaf fod yn berffaith. I ddweud y gwir, does dim rhaid i’r degfed hosan i ti drwsio fod yn berffaith. Wedi’r cyfan, does neb am eu gweld nhw… gosa gen ti dwll yn dy esgidiau (her i’r crydd yw honno, cofia, nid esgus siopa). Cer â dy dyllau a’th problemau tecstilaidd i gylch trwsio. Bydd yn rhan o’r chwyldro, a cher i drwsio dy sanau!





