Dim Byd Newydd

Mae ‘na tipyn go lew o “cyntafs” sydd yn cael ei brofi gan y cenedlaethau ifanc. I’r millenials, ni oedd y cyntaf i brofi’r cyfryngau cymdeithasol – yr agweddau da a’r drwg, megis moch cwta’r arbrawf digidol rhyngwladol. Dyma genhedlaeth oedd wedi gweld esblygiad ffonau symudol, o’r Nokias undonog i’r ffonau fflip oedd shedan yn fwy blaengar, ymhell cyn dyfodiad y ffon clyfar. I’r rhai sydd yn perthyn i Gen Z, nhw yw’r genhedlaeth gyntaf i’w geni gyda ffonau clyfar yn eu hwynebau, eu rhieni wedi gwirioni gyda’r cyfle i ddogfennu a rhannu bob eiliad.

Rhwng y ddwy genhedlaeth yma, rydym yn profi rhywbeth newydd gyda’n gilydd sydd gan botensial i siapio dyfodol ffasiwn; y gallu i siopa ail law yn gyfan gwbl, heb angen ffasiwn cyflym cyfoes, yn hawdd ac yn hygyrch.

Does dim byd newydd mewn dillad ail law. Efallai y byddwch chi’n gyfarwydd gyda derbyn dillad “newydd” yn blant, wedi cael ei roddi gan aelod hŷn o’r teulu. O’n i wrth fy modd yn derbyn llond bag bin i edrych drwyddi, yn gwybod yn union pa ddilledyn o’n i’n chwilota amdani achos o’n i wedi ei llygadu am flynyddoedd. Fy hoff ddarn ail law yn blentyn oedd siaced wen gyda streipan goch ar hyd y fraich, o’r ysgwydd i’r arddwrn, a’r steil fel rhywbeth fysa chi’n gweld mewn ffilm chwaraeon Americanaidd. Erbyn iddi gyrraedd fi, roedd y siaced wedi cael ei gwisgo a’i charu gymaint nes doedd y sip ddim yn gweithio cystal ag yn mynd yn sownd bob tro, ond doedd hynny ddim o bwys – o’n i wedi gwirioni, a fues i’n gwisgo’r siaced honno ymhell wedi iddi fynd yn rhy fach i mi.

Byddi di’n siŵr o fod wedi mentro i mewn i siop elusen rhyw ben, neu hyd yn oed wedi rhoddi hen ddillad neu geiriach amrywiol i siop leol. Does dim dal beth fyddwch chi’n darganfod mewn siop elusen o un dydd i’w gilydd, sydd yn rhoi elfen gyffrous i’r profiad o dyrchu drwy’r raciau. Yn ogystal â chyffro personol am fargen dda, mae gan siopau elusen fuddion amgylcheddol a chymdeithasol. Yn ôl gwefan Zero Waste Week, mae siopau elusen yn chwarae rhan allweddol mewn lleihau allyriadau carbon deuocsid, a hynny drwy leihau allyriadau o oddeutu 3.7 miliwn tunnell y flwyddyn. Yn gymdeithasol, mae siopau elusen yn magu cymunedau dryw o wirfoddolwyr, yn cynnig profiad mân-werthu i’r ifanc. I’r rhai sydd wedi ymddeol, mae gwirfoddoli yn medru cynnig ffrindiau newydd a rhwydwaith cefnogol.

Does dim byd newydd, chwaith, mewn gwerthu hen ddillad. Am dro byd, mynd i’r car bŵt oedd y ffordd orau i wneud ychydig bach o elw a gwaredu ar ddillad sydd ddim yn cael eu gwisgo bellach. Er bod y car bŵt yn bodoli o hyd, mae aps ail law yn cynnig yr un syniad o gysur eich soffa.

Gydag oddeutu 16 miliwn o ddefnyddwyr yn y DU, mae Vinted ar flaen y gad nid yn unig ffasiwn ail law, ond popeth ail law! Mae’r ap yn galluogi defnyddwyr i werthu *bron* popeth, o hen lyfrau i offer crefft. Os fyddwch chi’n chwilio i brynu rhywbeth penodol, mae’n werth chwilio ar yr ap yma yn gyntaf – pwy â wyr faint o arian allwch arbed. Yn ddiweddar, prynais cwshin eistedd ôl-geni newydd sbon am bris anhygoel. Pan fo gen ti’r opsiwn i arbed arian a safio eitem rhag diweddu mewn safle tirlenwi (eitem fydd ond yn cael ei ddefnyddio am wythnos neu ddau, os hynny) neu prynu’n newydd am bris llawn, mae’r ateb yn glir.

Wrth gwrs, fel unrhyw declyn neu dechnoleg newydd, rhaid pwyllo. Hawdd iawn ydi cyffroi wrth weld gymaint o fargeinion ar gael i ti gydag un tap ar dy ffon a diweddu gyda llond y lle o ddillad dwyt ti ddim gwirioneddol eu hangen wedi’r cwbl. Does dim dadlau bod siopa ail law ac ar-lein yn cymryd ychydig bach o bractis (erthygl arall yw honno), ond does chwaith dim dadlau dros ffeithiau’r buddion. Yn ôl gwefan WRAP, mae prynu pâr o jîns ail lawr ar-lein, yn hytrach ‘na phrynu un newydd, yn gallu arbed dros 30kg o CO2e, a hynny’n gyfystyr i wneud 600 paned o de.

Cofiwch, dydi ail law ddim yn golygu “wedi cael ei wisgo” bob tro. Syndod ydi faint o ddillad newydd sbon, gyda’r labeli arnynt o hyd, sydd yn cael eu rhestru i’w werthu gyda disgrifiadau yn nodi eu bod wedi methu’r blwch dychwelyd yr eitem i’r siop wreiddiol. Heddiw, wrth chwilio am “ASOS Jeans” a thicio “New with tags” a hefyd nodi fy mod i ond am weld eitemau sydd yn fy maint i, mae dros 500 o eitemau yn cael eu harddangos yn syth gyda phrisiau yn amrywio o £2.50 i £9. Wrth dderbyn yr opsiwn o fachu bargen ac arbed gwneud 600 paned o dê, pam fyddai unrhyw un yn ei wrthod a dewis prynnu’n newydd?

Fydd ffasiwn ail law ac ar-lein yn newid llwybr ffasiwn cyflym yn gyfan gwbl? Amser a ddengys, ond mae’n siŵr o adael ei farc. Mae gan y cenedlaethau ifanc y gallu i siopa ail law yn gyfan gwbl, heb angen i droedio siopau ffasiwn cyflym. Eu penderfyniadau nhw fydd yn siapio dyfodol byd ffasiwn.

Gadael sylw