Fel ‘da chi’n gwbod, ma' Llew bach wedi’n cyrraedd ni ac wedi bod yn goleuni’m mywyd am ‘chydig wythnosau bellach.
Oedd y profiad o feichiogi yn gyfnod lush a nesh i wir mwynhau bob eiliad. Ond oedd y geni a’r dyddiau yn dilyn hynny yn… brofiad a hanner… Dim profiad erchyll o bell ffordd, achos nesh i fwynhau’r rhan fwyaf ohono. Ond fyswn i wedi licio cael gwybod ‘chydig o betha’n gynt, fel pwythau lawr fana a’r ofn eithafol o pŵ am y tro gynta' wedi geni.
Os da chi’n feichiog, trio am fabi neu’n chwilio am anrheg Nadolig i rywun sy’n feichiog, yna mae Brên Babi gan Mari Lovgreen yn llyfr perffaith.
Es i a Llew draw i’r lansiad yn ystod amser stori Llyfrgell Caernarfon. Dim fod Llew ddim callach, am iddo gysgu trw’r cyfan…
Mae’r llyfr yn cynnwys pwtia bach gonast gan amryw famau, gyda phob profiad o feichiogi, geni a magu yn rhai gwahanol i’w gilydd.
Nesh i fflio drw’r llyfr achos oni’n hooked ar ôl gweld faint o bobl aeth trw profiad reit debyg i mi, a faint aeth drw profiada' hollol wahanol. Oni wir wedi rhyfeddu faint o bobl oedd wedi gorfod cael pwythau wedi geni achos oni'n teimlo'n reit 'ych, typical fi'n neud sîn', ond rwan dwi'n deall fod o reit cyffredin. Dwi mor falch mod i wedi darllen y llyfr er mwyn i mi ddeall fod brifo (i raddau) a gwaedu am wsnosa ar ôl geni yn hollol normal. Cynt, oni wir yn meddwl bysa poen lawr fana yn stopio’n syth a fyswn i’n llawn egni. Mewn gwirionedd, oni methu ista a oedd codi allan o’r gwely yn cymryd wmff go iawn.
Roeddwn i’n credu’n gryf o’r cychwyn mai beth sy’n bwysig ydi’ch bod chi’n gwneud beth sydd orau i chi a babi, motch be ma’ pobl erill yn feddwl. Ac mae’r llyfr yma wedi cadarnhau hynny i mi.
Mam hapus = babi hapus, a vice versa!