Mae derbyn a rhoi cardiau Nadolig yn draddodiad sy'n diflannu'n ara' deg gyda mwy a mwy o bobl yn ffafrio anfon dymuniadau da yn ddigidol.
Ond mae'r sîn dylunio Cymraeg ar ei ora' ac mae gymaint o gardiau Nadolig Cymraeg bellach mae'n amhosib dewis rhai i'w yrru!
Felly, dyma restr fer o fy hoff gardiau – er does dim digon o le i'w cynnwys nhw i gyd!
Draenog
Mae cardiau Cymraeg yn cŵl, ond mae cardiau Cymraeg wedi'i personoleiddio yn hyd yn oed mwy cŵl! Draw ar wefan Draenog, mae modd i chi bersonoleiddio blaen cardyn. Fydd y cardyn yma yn siŵr o gymryd y lle blaen ar y silff ben tân!
Cardiau Eisteddfod Caerdydd 2018 @ Cant a Mil Vintage
Ewch draw i Cant a Mil Vintage ar gyfer y cardiau arbennig yma – arbennig gan fod yr elw yn mynd tuag at Eisteddfod Caerdydd 2018. Ac mae'r carw geometrig yn on trend go iawn!
Oh Susannah Print
Nid cardiau yn unig mae Oh Susannah Print yn eu cynnig. Ar y siop Etsy mae labeli Cymraeg a hyd yn oed papur lapio! Wir, mae nhw werth eu gweld!
Mae yna llu enfawr o gardiau Cymraeg ar y farchnad, felly atgyfodwch y traddodiad o anfon cardiau gyda cardiau Cymraeg!