Dyfal Donc

Dwi wir yn cal traffarth wrth chwilio am gemwaith dwi'n teimlo'n cyffyrddus yn gwisgo. Ond, ar ol trio un gan Dyfal Donc, dwi wedi syrthio mewn cariad go iawn 😍 Dwi di trio fo efo lot o wahanol gwisgoedd, a mae o i weld i fynd efo bob dim! #werthybyd

Ond fy HOFF outfit fi ydi y mwclis lush yma gan Dyfal Donc, y top gwyn gyda brodwaith o Zara a par swwwwper comfy o jeans maternity H&M.

Mae Dyfal Donc yn yr Eisteddfod ym Modedern wythnos yma, felly ewch draw i ddeud helo!

Gadael sylw