
I’r rhai ohonoch sy’n fy ’nabod i ’da chi’n siŵr o fod yn ymwybodol mod i’n gorchuddio ’nghroen mewn lliw haul ffug yn aml iawn – rhy aml ’wrach! Ar hyd y blynyddoedd dw i wedi trio sawl brand ac wedi cael llwyddiant neu ddisastyr ambell waith hefyd. Er ei bod hi’n aeaf ac yn dywyll y rhan fwyaf o’r diwrnod erbyn hyn dw i’n dal i fwynhau rhoi lliw haul ffug ymlaen ar gyfer nosweithiau allan. Felly dyma fy marn am y rhai dw i wedi’u defnyddio.
St Tropez, Classic Bronzing Mousse – £30.50 (Boots)
Dyma’r lliw haul ffug drytaf o’r rhai dw i wedi eu defnyddio. Mae’r un penodol yma’n dda gan ei fod yn gwasgaru’n hawdd ac yn para’n hir iawn ar y croen heb fynd i edrych yn hyll. Mae’n berffaith os ydych yn chwilio am liw da am gyfnod o tua 5-7 diwrnod. Er hynny nid wyf yn credu ei fod werth y pris, gan fod y lliw yn gallu bod ychydig yn oren weithiau’n hytrach na lliw mwy naturiol. 7/10
Tanya Whitebits, Mousse – £14.99 (ar gael mewn amrywiol siopau)
Dw i’n defnyddio’r lliw ‘medium’ yn y brand yma gan ei fod yn eithaf tywyll. Dw i’n gweld hwn ychydig yn ddrud am ei safon gan ei fod yn anodd ei roi ymlaen ac yn sychu’n rhy sydyn ac felly mae’n dueddol o achosi darnau blêr. Er hynny mae’n para’n hir ond ar ôl tua wythnos mae’n mynd i edrych yn hen. 6/10
Rimmel London Sun Shimmer Self Tan Mousse – £7.99 (Boots)
Dw i’n hoff iawn o’r lliw haul ffug yma gan ei fod y lliw perffaith yn fy marn i (dw i’n defnyddio’r lliw ‘dark’). Mae’n gwasgaru’n hawdd ac yn para’n hir heb fynd i edrych yn hyll. Mae’n rhoi’r argraff o liw haul naturiol i fy nghroen. Credaf fod y pris hefyd yn rhesymol iawn am yr ansawdd. Un gwendid ydy’r ffaith ei fod (fel y rhan fwyaf o liw haul ffug) ag arogl ofnadwy iddo sydd yn llenwi f’ystafell wely, ac mae hefyd yn dueddol o sychu’r croen ac felly mae’n bwysig gofalu eich bod wedi rhoi moisturizer ar y croen y noson gynt. 8/10
Dove Derma Spa Summer Revived Shimmer Body Lotion – £7.79 (Boots)
Dyma fath gwahanol o liw haul ffug gan ei fod yn cymryd amser i ddangos ei effaith. Er mwyn cael lliw tywyllach mae angen ei roi ymlaen am sawl diwrnod yn olynol. Yn wahanol i weddill brandiau mae gan hwn arogl hyfryd ac mae’n gwneud gwahaniaeth wrth ei ddefnyddio. Mae hefyd yn gallu cael ei ddefnyddio fel moisturizer i’r croen. Nid wyf yn dueddol o ddefnyddio hwn yn aml iawn gan nad ydy’n ddigon tywyll i mi. Byddai hwn yn dda i rywun sydd â chroen golau. Un gwendid ydy’r ffaith nad yw’n dangos fel lliw wrth ei roi ymlaen ac felly mae’n anodd gwybod y mannau dw i wedi eu methu. Mae’n bris da am yr ansawdd yn fy marn i. 8/10
St. Moriz Professional Self Tan Mousse – £4.99 (Boots)
Yn flaenorol dw i wedi defnyddio’r lliw haul ffug yma am flynyddoedd gan ei fod yn creu lliw naturiol ac yn rhad i’w brynu. Teimlaf fy mod yn cael gwerth fy mhres ac mae’n para’n ddigon hir i’r achlysuron dw i eu hangen. Mae arogl ychydig yn ddrwg iddo ond am y pris nid wyf yn cwyno. Dw i’n dueddol o ddefnyddio’r ‘medium’ ar gyfer achlysurol sydd ddim mor bwysig â’r ‘dark’ ar gyfer achlysurol arbennig, nosweithiau allan ac yn ystod yr haf. 8/10
Sunkissed Bronze Instant Self Tanning Mousse – £3.99 (Superdrug)
Dyma fy hoff un! Mae’r lliw ‘dark’ yn berffaith ar gyfer lliw fy nghroen a fy ngholur ac mae’n gwasgaru’n hawdd ac yn ddi-ffỳs. Mae’n gyd ddigwyddiad hefyd mai dyma’r un rhataf ond mae’n sicr nad ydy hynny’n effeithio ar ei ansawdd. Mae’n para’n hir ac nid yw’n mynd i edrych yn flêr yn sydyn iawn. Dw i yn dueddol o gael trafferthion dŵad o hyd iddo mewn ambell siop ond mae ar gael yn Savers ac yn Superdrug. Dw i’n defnyddio’r lliw ‘dark’ ond mae’r lliw ‘medium’ hefyd yn gweddu pan dw i eisiau lliw haul mwy naturiol. 10/10
Ambre Solair No Streaks Bronzer Intense Face Mist – £8.49 (Superdrug)
Dyma spray dw i’n ei roi ar fy ngwyneb fel arfer ar ôl molchi gyda’r nos ac mae’n rhoi lliw haul naturiol heb streaks i ngwyneb. Mae’n eithaf drud i’w brynu ond yn aml iawn dw i’n gweld ei fod ar sêl ac felly’n prynu stoc adeg hynny. Mae arogl hyfryd iddo a dim ond tua 3 eiliad mae’n cymryd i’w roi ymlaen felly nid oes ffỳs o gwbl iddo. 10/10
Felly wedi cymharu’r rhain oll mae’n bwysig nodi bod rhai lliw haul ffug yn dda ar gyfer gwahanol achlysuron ac yn debygol o siwtio pobl eraill ac nid fi. Dw i’n dueddol o ddefnyddio mousse gan fy mod yn ei weld yn haws i’w roi ymlaen na hylif ac yn haws i’w wasgaru a gweld y mannau dw i wedi ei orchuddio. Gobeithio bod y rhain o gymorth i chi yn barod at y partïon Nadolig sydd i ddod.