Dwi wir ddim yn meddwl fod dim byd yn well ‘na ymlacio gyda:
- Canhwyllau efo enwau gaeafol gwirion, fel “acorn avalanche” sy’n llenwi’r ty efo awyrgylch sy’n gwneud i chi anghofio fod y gorsafoedd newyddion yn rhoi rhybydd tywydd newydd allan bob pum munud
- Panad mewn myg hiwj a digon o snacs
- Playlist efo cerddordiaeth clyd a cosy. Playlist sy’n llawn miwsig acwstig fuzzy
Felly rhowch y tecell ymlaen a taniwch y canhwyllau (neu actual tân os yda chi efo lle tân) achos dyma Playlist y Gaeaf yn arbennig i chi!
Er dim ond llond llaw bach neis sy’ ‘na, fyddai’n ychwanegu mwy pan fyddai’n darganfod mwy.
Os yda’ chi efo cân i’w ychwanegu, cysylltwch!