Petha’ Adra

Oes rhywbeth yn well na edrych am ysbrydoliaeth addurno’r ty ar Pinterest? Ar wahan i chocled, llu… Wel, nagos yn ‘y marn i felly dyma gychwyn gyfres misol o “Petha’ Adra”. Fyddai’n bwrw golwg ar fusnesau ledled Cymru sy’n cynnig petha lysh i’r ty a pa gwmni gwell i gychwyn gyda ‘na Cwt Tatws!

Bob tro fyddai’n gweld stondin Cwt Tatws, fyddai’n mynd yn syth fewn i ddiddori yn y esthetig arbennig. Rhiwsut, mae nhw’n trawsnewid tent o fod yn dent drab i fod yn y cartref mwya’ steilish welsoch chi erioed.

Mae werth cael cip ar wefan Cwt Tatws. Ymhlith y trysorion, dwi wedi pigo fy ffefrynnau i…

Ma’ fframiau arferol yn gallu bod yn eitha diflas, a mae chwilio a ffordd unigryw o arddangos lluniau yn gallu bod yn sialens. Ond, mae’r fframiau Kiko yma yn berffaith ar gyfer rhoi elfen rustic i’r ystafell.

image

A’r gadair yma… Wir, dwi wrth fy MODD efo’r darn yma. Well, fydd fy mhwrs i’n crio yn o fuan…

A pwy sy’ ddim yn caru mygs? Dwi wedi datblygu ‘chydig o broblem efo mygs i ddweud y gwir, achos gen i ormod ond allai ddim PEIDIO prynnu mygs lysh pan dwi’n gweld nw. A dwi’n ama mai hwn fydd yn cael ei ychwanegu i’r casgliad nesaf…

Yn wir, nid yn unig pethau i’r ty mae nhw’n gynnig. Mae gemwaith, gwaith celf a llawer mwy i’w gweld ar eu gwefan; https://www.cwt-tatws.co.uk/cy/

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s