Helo! Fydd y rhai ohona chi efo llygaid craff wedi sylwi fod linc bach newydd ar y wefan, a fydd y rhai ohona chi sy’n fy nilyn ar rhwydweithia cymdeithasol yn gwybod bob dim am y linc bach newydd… siop!
Mae Hen Betha Newydd yn fenter bach sy’n cynnig dillad sydd wedi ei greu genai tra’n canolbwyntio ar fod mor garedig i’r blaned a sy’n bosib. Mae rhai dillad wedi eu creu o hen ddillad a rhai wedi eu creu o defnydd fydda fel arall yn mynd yn wast. Y syniad ydi fod pob dilledyn efo stori a fod modd i’r prynnwr ddysgu ble mae’r dilledyn yn dod o. Yn ogystal a hynny, mae modd gosod archeb arbennig. Os yda chi isho dilledyn penodol, print penodol, lliw penodol, yna cysylltwch a gawn ni weithio efo’n gilydd i greu rhywbeth sbeshal.